Agenda item

Contract Gwasanaeth Ieuenctid yn y Ddalfa (YCS) gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, drwy Gartref Diogel i Blant Hillside (Paragraff 14 yn Eithriedig)

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau ddiweddariad llafar bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn am amser ychwanegol i ystyried y sefyllfa, felly cafodd dyddiad yr hysbysiad a roddwyd ar y contract presennol ei ymestyn i 15 Mehefin 2021 fel y nodir isod.

 

Penderfyniadau:

 

1.   Heb unrhyw sicrwydd gan y Gwasanaeth Ieuenctid yn y Ddalfa neu Lywodraeth Cymru, rhoddir rhybudd ar gontract presennol y Gwasanaeth Ieuenctid yn y Ddalfa o 15 Mehefin 2021. Bydd hyn yn galluogi trafodaethau pellach â'r Gwasanaeth Ieuenctid yn y Ddalfa a Llywodraeth Cymru cyn i'r contract ddod i ben ddiwedd mis Hydref 2021.

 

2.   Rhoddir awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai i barhau â'r trafodaethau.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Sicrhau nad yw preswylwyr Castell-nedd Port Talbot yn cael eu rhoi mewn sefyllfa lle gallai fod angen iddynt dalu costau Cartref Diogel i Blant Hillside.  Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir na all y cyngor weithredu i wneud elw o'r adnodd.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Gyda chytundeb y Cadeirydd Craffu perthnasol, caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar unwaith ac felly nid yw'n amodol ar y cyfnod galw i mewn o dridiau.