Cofnodion:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi
sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig:
1.Cymeradwyir achos busnes Talent a
Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'i gyflwyno'n ffurfiol i'r Swyddfa Rheoli
Portffolio yn unol â Chynllun Gweithredu'r Fargen Ddinesig i sicrhau
cymeradwyaeth ariannol y Fargen Ddinesig.
2.Rhoddir awdurdod dirprwyedig i
Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet
perthnasol, gymeradwyo unrhyw ddiwygiadau i'r achos busnes sy’n ofynnol er mwyn
cael cymeradwyaeth ar lefel leol a chenedlaethol.
Rheswm dros y penderfyniadau:
Er mwyn
galluogi cyflwyno'r achos busnes Sgiliau a Thalent yn ffurfiol i'r Swyddfa
Rheoli Portffolio yn unol â phroses cymeradwyo prosiect y Fargen Ddinesig.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dogfennau ategol: