Agenda item

Sefydlu Cylch Gorchwyl ar gyfer 'Cynefino; Cynllun Rhaglen ar gyfer Sefydlu Aelodau 2022'

Cofnodion:

Aeth Craig Griffiths drwy gynnwys yr adroddiad. Cadarnhawyd y byddai'r gweithgor yn ystyried sefydlu aelodau ac Amrywiaeth mewn Democratiaeth.

Mae'r aelodau'n ymwybodol bod angen sicrhau bod aelodau sy'n dod i mewn drwy is-etholiad hefyd yn cael eu hystyried yn ystod y broses hon.

Trafododd yr aelodau Amrywiaeth mewn Democratiaeth yn fyr. Ystyriwyd y model hybrid a chydnabu'r aelodau ei bwysigrwydd wrth gyfrannu at hyblygrwydd gwaith yn y dyfodol. Awgrymwyd hefyd efallai y gellid cysylltu â'r cyflogwyr mwy o fewn y fwrdeistref i drafod sut yr oeddent yn annog democratiaeth yn y gweithle h.y. yr hawl i amser i ffwrdd etc.

Trafododd yr aelodau sut y dylai aelodau ymgysylltu â swyddogion yn y dyfodol – sut y dylai hyn weithio a sut y bydd yn parhau yn y dyfodol. Er enghraifft, sut y byddai swyddog yn mynd at aelod o staff.

 

(a) Penderfynwyd ar y canlynol: Cytunodd aelodau Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd y dylid nodi Sefydlu Aelodau 2022 fel maes gwaith â blaenoriaeth i'r pwyllgor.

(b) Bod aelodau Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen i gyfarfod yn ystod mis Gorffennaf, mis Awst a mis Medi 2021, gyda'r bwriad o gyfrannu at gynigion ar gyfer ffurf a chynnwys y rhaglen Sefydlu Aelodau yn 2022 ac ystyried y rhaglen amrywiaeth mewn democratiaeth.

(c) Bod aelodau Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn cytuno i gynnal cyfarfod arbennig o Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ym mis Hydref 2021 neu o’i gwmpas i ystyried allbwn gwaith y Grŵp Tasg a Gorffen.

 

Dogfennau ategol: