Cofnodion:
Derbyniodd a nododd y pwyllgor Adroddiad Blynyddol
Grŵp Cyfeirio Technoleg Gwybodaeth Aelodau.
Nododd yr aelodau
fabwysiadu Zoom a fyddai'n galluogi cyfieithu Cymraeg yn ystod
cyfarfodydd. Mae'n dal yn gynnar o ran ei ddefnydd, ond mae swyddogion yn
ymdrechu i sicrhau ei fod yn gweithio, yn ôl yr angen i'r cyngor. Ni fydd yn
cael ei gyflwyno i'r aelodau nes bod y system yn gweithio yn ôl y gofyn.
Mynegodd yr aelodau eu pryder ynghylch defnyddio dau lwyfan (Microsoft Teams
a Zoom) a'r dryswch y gallai hyn ei achosi. Cytunodd swyddogion y byddai
angen ei sefydlu'n dda a byddai digon o dreialon i sicrhau bod pawb yn
gyfforddus yn defnyddio'r llwyfan cyn gwneud unrhyw newid.
Cododd yr
aelodau'r pwynt y byddai'n rhaid i Zoom weithio o fewn sefyllfa hybrid
hefyd, nid ar gyfer defnyddwyr o bell yn unig.
Trafododd yr
aelodau'n fyr y broblem o ddefnyddio cyfarpar personol i gael mynediad at
gyfrifon y cyngor.
Penderfynwyd:
Dylid nodi'r adroddiad.
Dogfennau ategol: