Agenda item

Cadeirydd Craffu Newydd a Newidiadau mewn Aelodaeth

Atodiad A, B ac C I ddilyn

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol y Cadeirydd Craffu Newydd a'r Newidiadau i Aelodaeth fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

PENDERFYNWYD:

1.Penodi'r Cynghorydd Saifur Rahaman yn Gadeirydd a phenodi'r Cynghorydd Sharon Freeguard yn Is-gadeirydd Pwyllgor Craffu'r Cabinet.

 

2.Bydd y swydd wag ar Bwyllgor Craffu'r Cabinet a grëwyd gan y Cynghorydd Sharon Freeguard yn cael ei llenwi gan y Cynghorydd Rachel Taylor.

 

3.Bydd y Cynghorydd Stephanie Lynch yn cymryd lle'r Cynghorydd Chris Jones ar Bwyllgor Craffu’r Strydlun a Pheirianneg.

 

4.Bydd y Cynghorydd Stephanie Lynch yn cymryd lle'r Cynghorydd Chris Jones ar y Pwyllgor Cynllunio.

 

5.Bydd y Cynghorydd Caroline Edwards yn cymryd lle'r Cynghorydd J D Morgan ar Banel Aelodau'r Coronafeirws.

 

6.Bydd y Cynghorydd Saifur Rahaman yn cymryd lle'r Cynghorydd Mike Harvey ar Gyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

 

 

Dogfennau ategol: