Agenda item

Sefydlu Aelodau Newydd ac Amrywiaeth mewn Democratiaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol Raglen Sefydlu Aelodau 2022 a’r rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth fel y’u nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Gofynnodd yr aelodau i swyddogion gadw’r Ddeddf Hawliau Cyflogaeth mewn cof wrth ystyried darwahanu amseroedd cychwyn
cyfarfodydd, sy'n caniatáu i aelodau etholedig, sy'n weithwyr, gael amser i ffwrdd o'r gwaith i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

1.Bydd gan y pwyllgor gwasanaethau

   democrataidd y dasg o gynnal

   adolygiad o'r Rhaglen Sefydlu Aelodau

   ar gyfer 2022 a chyfrannu ato.

 

2.Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell

   nedd Port Talbot yn dod yn "Gyngor

  Amrywiol" yn unol â Rhaglen

  Amrywiaeth a Democratiaeth

  Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fel

  y nodir ym mharagraff 7 o'r adroddiad

  hwn.

 

3.Bydd y Gwasanaethau Democrataidd

   yn cynnal adolygiad o'r Rhaglen

   Amrywiaeth mewn Democratiaeth fel

   rhan o'i adolygiad o'r Rhaglen Sefydlu

   Aelodau ar gyfer 2022.

 

4.Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r

   cyngor gyda'r diweddaraf am y Rhaglen

   Sefydlu Aelodau a'r Rhaglen

   Amrywiaeth mewn Democratiaeth ym

   mis Tachwedd 2021.

 

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: