Cofnodion:
Cyflwynodd K Jones, y Prif Weithredwr,
gynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru ac esboniodd fod archwilwyr allanol y
cyngor yn bresennol yng nghyfarfodydd y cyngor yn flynyddol i amlinellu'r
astudiaethau yr oeddent wedi'u cynnal a'r casgliadau y daethpwyd iddynt Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i'r aelodau ofyn
cwestiynau'n uniongyrchol i'r archwilwyr.
Nododd yr aelodau y bydd Mr C Davies, sef
archwilydd arweiniol presennol Swyddfa Archwilio Cymru, yn cael ei olynu gan Ms
N. Jenkins.
Tynnodd Mr C Davies sylw at y ffaith bod y Crynodeb
Archwilio yn cyfuno'r Llythyr Archwilio Blynyddol a'r Adroddiad Gwelliant
Blynyddol a gynhyrchwyd yn flaenorol fel dogfennau ar wahân er mwyn darparu un
crynodeb o ganfyddiadau perfformiad a gwaith ariannol a wnaed gan Swyddfa
Archwilio Cymru yn ogystal â gwaith archwilio arfaethedig yn y dyfodol.
Clywodd y cyngor fod yr awdurdod wedi cyflawni’i
ddyletswyddau cyfreithiol ar gyfer cynllunio gwelliannau ac adroddiadau
blynyddol dyletswyddau statudol a osodwyd arno gan Fesur Llywodraeth Leol
(Cymru) 2009. Yn ogystal, roedd y cyngor mewn sefyllfa ariannol gref a oedd yn
ei alluogi i fod mewn sefyllfa dda i reoli’i gynaliadwyedd ariannol yn y tymor
canolig.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod cyfleoedd i'r cyngor
gryfhau trefniadau corfforaethol ar gyfer diogelu ac wrth roi'r egwyddorion
datblygu cynaliadwy ar waith, un o ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r
Dyfodol (Cymru) 2014. Roedd cyfleoedd hefyd i ddefnyddio'r System Rheoli
Perfformiad Corfforaethol newydd i wella'r ffordd y defnyddir gwybodaeth i
lywio cynllunio busnes.
Anerchodd Mrs N Jenkins, Swyddfa Archwilio Cymru y
cyngor gan amlinellu'r blaenraglen ac mae'n edrych ymlaen at weithio gydag
aelodau a swyddogion Castell-nedd Port Talbot.
Codwyd y pwyntiau canlynol gan yr aelodau:
Holodd yr aelodau a oedd unrhyw waith wedi'i wneud
i edrych ar amddifadedd ar draws y 22 awdurdod yng Nghymru. Esboniwyd bod
Swyddfa Archwilio Cymru’n gweithio ar brosiectau lleol gydag awdurdodau ond
maent yn tynnu sylw at unrhyw astudiaethau cenedlaethol sy'n cael effaith leol.
Gwneir cymariaethau lle bo modd.
Cafwyd trafodaeth ar argaeledd gwybodaeth gymharol
mewn perthynas â chronfeydd wrth gefn y cyngor ac ardaloedd o amddifadedd.
Esboniwyd bod yr wybodaeth ar gael i'r cyhoedd. Yn ogystal, bydd yr aelodau'n
ystyried yr adroddiad Cynaliadwyedd Ariannol diweddaraf maes o law sy'n cynnwys
rhywfaint o'r wybodaeth y gofynnwyd amdani.
Cafwyd trafodaeth bellach ar ddymunoldeb archwilio
lefelau amddifadedd ac anweithgarwch economaidd ledled Cymru i nodi arfer da.
Cadarnhaodd yr archwilwyr mai amddifadedd oedd un o elfennau allweddol eu
gwaith ac y byddent yn hapus i weithio ar draws awdurdodau yn y dyfodol ac yn
hapus i drafod ymhellach.
PENDERFYNWYD: |
Nodi'r gwaith a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru
fel y'i cynhwysir yng Nghrynodeb Blynyddol 2020. |
Dogfennau ategol: