Cofnodion:
Gyda thristwch mawr y dywedodd y Maer wrth y cyngor
am farwolaeth y cyn-Gynghorydd Mark Jones, a oedd yn cynrychioli Ward Aberafan.
Fel arwydd o barch, cafwyd munud o ddistawrwydd yng
nghyfarfod yr aelodau.
Bu’n bleser mawr i'r Maer gyhoeddi bod Mrs Joanna
Jenkins MBE, JP, DL, wedi'i phenodi'n Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg ar gyfer
2021 – 2022. Mae Mrs Jenkins yn dod i gyfarfodydd Pwyllgor Archwilio a
Llywodraethu'r cyngor fel Aelod Lleyg.
Croesawodd y cyngor hefyd ei aelod mwyaf newydd, y
Cynghorydd Stephanie Lynch, i'w chyfarfod cyngor cyntaf. Mae'r Cynghorydd Lynch
yn cynrychioli Ward Aberafan.