Cofnodion:
Penderfyniadau:
Roedd yr Aelodau'n gefnogol o'r pryderon a fynegwyd
gan y pwyllgor craffu blaenorol a gofynnwyd i bryderon y Cabinet gael eu
hamlygu i Lywodraeth Cymru hefyd, fel y nodir isod.
1.
Rhoddir awdurdod dirprwyedig
i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd, gytuno ar wneud cais am
arian grant i Lywodraeth Cymru i sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin
Cymru ac i dderbyn unrhyw gynnig grant a allai gael ei wneud gan Lywodraeth
Cymru (boed hynny i'r cyngor hwn neu i awdurdod sy'n rhan o Gydbwyllgor
Corfforaethol (CBC) Abertawe Cymru).
2.
Rhoddir awdurdod dirprwyedig
i'r Prif Weithredwr gynnal trafodaethau ag awdurdodau a fydd yn cynnwys CBC De-orllewin
Cymru, i ddatblygu cynigion ar gyfer sefydlu CBC De-orllewin Cymru.
3.
Cyflwyno adroddiad i'r aelodau
i'w gymeradwyo, unwaith y bydd trafodaethau wedi'u cwblhau, er mwyn i aelodau gymeradwyo'r
trefniadau ar gyfer CBC De-orllewin Cymru i'r graddau y maent yn ymwneud â
Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
4.
Cyflwyno sylwadau i Lywodraeth
Cymru i fynegi pryderon am Gydbwyllgorau Corfforaethol fel y trafodwyd yng
nghyfarfod Pwyllgor Craffu'r Cabinet a'r Cabinet ar 12 Mai 2021.
Rheswm dros y penderfyniadau:
Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion Deddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a sicrhau anghenion Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a'u hadlewyrchu yn natblygiad y
Cydbwyllgorau Corfforaethol hyn.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau.
Dogfennau ategol: