Cofnodion:
Penderfyniadau:
Nododd yr Aelodau nad oedd yn ofynnol cael Asesiad
Effaith Integredig ar yr eitem hon.
1.
Nodi'r cynnydd a wnaed ar y
gwaith i wella Llywodraethu Corfforaethol a gyflawnwyd yn ystod 2020-2021.
2.
Cymeradwyo Datganiad
Llywodraethu Blynyddol 2020-2021 a atodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a
ddosbarthwyd.
3.
Cymeradwyo'r gwaith Gwella
Llywodraethu Corfforaethol sydd i'w wneud yn ystod 2021-2022.
Rheswm dros y penderfyniadau:
I sicrhau bod y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn
bodloni gofynion Rheoliad 5(2) Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014
mewn perthynas â'r adolygiad blynyddol o effeithiolrwydd systemau rheoli mewnol
y cyngor a pharatoi a chymeradwyo'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau.
Dogfennau ategol: