Cofnodion:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig:
1.
Rhoddir cymeradwyaeth ar gyfer
y Cynllun Corfforaethol diweddaredig ar gyfer y cyfnod 2021-2023.
2.
Bydd y Pennaeth Datblygu Dynol
a Sefydliadol yn cael ei awdurdodi i ychwanegu'r data perfformiad ychwanegol at
yr adroddiad pan fydd ar gael.
3.
Bydd y Pennaeth Datblygu Dynol
a Sefydliadol yn cael awdurdod dirprwyedig, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd, y
Dirprwy Arweinydd a'r Prif Weithredwr, i wneud unrhyw newidiadau pellach sy'n
angenrheidiol cyn cyhoeddi'r cynllun terfynol ac nad ydynt yn newid cynnwys y
cynllun yn sylweddol.
4.
Bod y Cynllun Corfforaethol ar
gyfer y cyfnod 2021-2023 yn cael ei gymeradwyo i'r Cyngor ar 26 Mai 2021 i'w
fabwysiadu'n ffurfiol.
Rheswm dros y penderfyniadau:
Sicrhau bod y diwygiadau a wnaed i'r Cynllun
Corfforaethol yn cael eu cymeradwyo, gan gyflawni dyletswyddau cyfreithiol a
nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fel y maent yn
berthnasol i weithgareddau cynllunio corfforaethol y cyngor.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau.
Dogfennau ategol: