Cofnodion:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig:
1.
Aildrefnu cyllid y Grant
Cynnal Gwasanaethau Bysiau (GCGB) i adlewyrchu'r newidiadau gweithredol i
Gludiant Cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot;
2.
Ar ôl asesu ceisiadau am
gyllid, rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth,
mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet perthnasol, ddyrannu'r GCGB i ymgeiswyr
llwyddiannus.
3.
Os bydd arian ychwanegol ar
gael mewn blwyddyn ariannol, gwahoddir sefydliadau cludiant cymunedol i wneud cais am arian o'r fath.
Rheswm dros y penderfyniadau:
O ganlyniad i esblygiad Cludiant Cymunedol, mae
cymunedau'n sefydlu mwy o glybiau ceir i
fodloni gofynion cludiant penodol eu hardal leol. Gallai hyn fod drwy weithredu gwasanaeth
bysus neu fel arall drwy fynd â phreswylwyr at y meddyg, i apwyntiadau ysbyty
neu mewn rhai achosion roi opsiwn i aelodau o'r cynllun logi cerbydau ar sail
hunan-yrru, gan sefydlu opsiwn trafnidiaeth leol mwy cynaliadwy a gwasanaethau
Llogi Cyfarpar Symudedd.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dogfennau ategol: