Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu).
Cofnodion:
Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol
ar agenda Bwrdd y Cabinet:
Polisi Codi Tâl am Ofal Preswyl a Dibreswyl
Yn dilyn cais gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol, Iechyd a Thai, cytunwyd y
dylid dileu'r eitem hon o gyfarfod heddiw er mwyn cysoni'r polisi’n agosach â
deddfwriaeth a’i gyflwyno yng nghyfarfod yn y dyfodol.
Pecyn Cyd-gynhyrchu Rhanbarthol ar gyfer y
Bartneriaeth Ranbarthol
Rhoddwyd diweddariad i'r aelodau ynghylch y Pecyn
Cyd-gynhyrchu Rhanbarthol ar gyfer y Bartneriaeth Ranbarthol, a oedd yn cynnwys
Fframwaith Cydgynhyrchu, Pecyn Cymorth Cydgynhyrchu a Siarter Cydgynhyrchu fel
y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Roedd Cyfarwyddwr CGG CNPT, Gaynor Richards, Mark
Davies, Dinesydd Castell-nedd Port Talbot a Kelly Gillings, Cyfarwyddwr Rhaglen
Drawsnewid Gorllewin Morgannwg, yn bresennol i gyflwyno'r adroddiad ar y cyd â
Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai.
Yn dilyn y cyflwyniad, canmolodd Aelod y Cabinet
dros Wasanaethau i Oedolion ac Iechyd y ddogfen.
Gofynnodd Aelodau Craffu pa wahaniaeth weledol
fyddai yn dilyn rhoi'r fframwaith ar waith. Tynnodd swyddogion sylw at y
ffaith, yn dilyn twf y fframwaith hwn, y byddai gan graffu fewnwelediad i’r
cynlluniau a’r strategaethau wrth symud ymlaen, gyda golwg ehangach ar
gynllunio gan aelodau'r cyhoedd, defnyddwyr y gwasanaeth a theuluoedd.
Gofynnodd aelodau am nifer y dinasyddion a oedd yn
ymwneud â’r grŵp gan fod nifer isel o ddilynwyr ar y llwyfan cyfryngau
cymdeithasol. Nodwyd, yn dilyn y pandemig, nad oedd y niferoedd wedi cynyddu'n
sylweddol, fodd bynnag, gyda gwaith ymgysylltu pellach yn y dyfodol byddai
hynny'n cynyddu nifer y dilynwyr.
Trwy gydol y drafodaeth roedd pwyslais ar
bwysigrwydd cael nifer o ddinasyddion yn rhan o’r grŵp i sicrhau bod
amrywiaeth eang o syniadau'n cael eu hystyried.
Cynhaliwyd trafodaeth hefyd ynghylch cynnwys
Cynghorau Iechyd Cymunedol yn y dyfodol.
Mynegodd yr Aelodau bryder ynghylch y bwlch a oedd
ar hyn o bryd yn ein trefniadau llywodraethu rhanbarthol fel y nodir yn yr
adroddiad. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod gwaith yn cael ei wneud ar y
bwlch hwn ar hyn o bryd. Roedd mewn perthynas â'r broses werthuso a sicrhau bod
gwerthusiadau'n cael eu gwneud drwy broses cydgynhyrchu ac nid fel sefydliadau
gwahanol.
Cynigwyd gwahoddiad agored i aelodau fod yn
bresennol mewn grŵp cydgynhyrchu i gael rhagor o wybodaeth os oedd angen.
Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch strwythur adrodd y
strategaeth ar gyfer y dyfodol. Nodwyd y byddai adroddiad yn cael ei
ailgyflwyno mewn 6 mis i ddarparu diweddariad pellach ar gynnydd y fframwaith
hwn. Caiff adroddiadau pellach eu darparu i'r pwyllgor yn ôl yr angen.
Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.
Rhaglen Grant Cyfalaf Tai Llywodraeth Cymru
Rhoddwyd gwybod i aelodau am Alldro Cynllun
Datblygu Rhaglen Grant Cyfalaf
Tai Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20 a
2020/21. Ar y cyd â'r gwariant arfaethedig a
drefnwyd ar gyfer 2021/22-2024/25, fel y nodwyd yn yr adroddiad a dosbarthwyd.
Gofynnodd aelodau am adeilad County Flats.
Cadarnhaodd swyddogion eu bod yn ddatblygiad Tai Tarian o'r enw County Flats.
Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch monitro'r gwaith
adnewyddu. Nodwyd bod y gwaith adnewyddu'n cael ei wneud gan landlordiaid
cymdeithasol cofrestredig. Byddai penseiri, arolygwyr a thimau dylunio
proffesiynol hefyd yn rhan o'r broses i sicrhau eu bod yn glynu at safon uchel.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.
Strategaeth bum mlynedd Gofalwyr Rhanbarthol
Gorllewin Morgannwg
Cyflwynwyd diweddariad i aelodau ar Strategaeth Bum
Mlynedd Gofalwyr Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg, fel y nodwyd yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd.
Roedd Cyfarwyddwr CGG CNPT yn bresennol a darparodd
gyflwyniad byr i'r adroddiad.
Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch y goblygiadau cost
y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu wrth iddynt geisio defnyddio mathau o
gludiant. Tynnodd Cyfarwyddwr CGG CNPT sylw at y ffaith byddai'r sector
gwirfoddol yn trafod ffyrdd o ystyried dewisiadau i helpu i weithio gyda
gofalwyr di-dâl.
Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.