Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn
penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd y Pwyllgor ar yr
eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:
Cynllun Rheoli Coedyddiaeth
Cyflwynwyd yr wybodaeth
ddiweddaraf am Gynllun Rheoli Coedyddiaeth y cyngor i'r Pwyllgor.
Hysbyswyd yr Aelodau fod y
cynllun rheoli wedi'i adolygu a'i ddiweddaru yn unol â hynny; un o'r prif
newidiadau a amlygwyd oedd ei fod bellach yn cynnwys gwybodaeth am glefyd coed
ynn.
Cafwyd trafodaeth mewn
perthynas â manylion yr archwiliadau coed, yn enwedig yr ymyrraeth â cheblau
uwchben a'r ymyrraeth â derbyniad lloeren/teledu. Nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd fod cyfrifoldeb cyfreithiol (ar y cwmnïau cyfleustodau perthnasol)
i sicrhau bod yr ardal o amgylch ceblau uwchben yn cael ei chlirio er mwyn
darparu gwasanaeth di-dor i'w cwsmeriaid; Gofynnodd yr Aelodau pe bai stryd neu
ardal benodol yn cael problemau oherwydd ymyrraeth â derbyniad lloeren/teledu,
a fyddai gan y cwmnïau lloeren yr opsiwn i dorri'r coed hynny yn ôl pe
dymunent. Cadarnhaodd swyddogion na fyddai hyn yn digwydd, gan nad oedd
ganddynt yr un pwerau statudol; rhoddwyd y pwerau statudol ar waith ar gyfer
ymyrryd â cheblau uwchben er mwyn diogelu adeiledd y ceblau.
Yn dilyn y drafodaeth,
gofynnwyd a ellid gwneud unrhyw beth pe bai coed yn ymyrryd â'r rhyngrwyd neu
signal lloeren i stryd, gan fod mwy o bobl yn gweithio gartref ac yn dibynnu ar
y cysylltiadau hyn. Cadarnhaodd swyddogion yn y mathau hyn o amgylchiadau lle
yr effeithiwyd ar ardal, y byddai angen iddynt weithio gyda darparwyr
gwasanaethau i nodi sut y gallent ddarparu gwasanaethau i breswylwyr e.e. drwy
gebl; gan ystyried y polisi presennol, ni allai'r cyngor dorri coed i lawr er
mwyn gwella signal lloeren gan ei fod dan lawer o rwymedigaethau statudol i
amddiffyn coed a bioamrywiaeth. Ychwanegwyd bod adegau pan oedd gan breswylwyr
bryderon ynghylch golau, dail, cysylltiadau lloeren a diogelwch y coed; roedd
yn rhaid i fanylion y canllawiau yn yr adroddiad adlewyrchu'r rhwymedigaethau a
grybwyllwyd i amddiffyn coed.
Mewn perthynas â systemau
gwraidd, soniwyd bod gwreiddiau'r coed wedi achosi i'r palmentydd godi mewn
rhai ardaloedd, gyda rhai ohonynt yn rhwystro'r llwybrau ac yn golygu nad oedd
preswylwyr yn gallu eu defnyddio. Gofynnwyd i swyddogion am wybodaeth am sut y
gellid datrys y math hwn o fater; pan fydd swyddogion yn derbyn adroddiadau am
y digwyddiadau hyn, bydd rhywun yn cael y dasg o archwilio'r ardal, ac os oes
angen, byddai'r tarmac yn cael ei dorri allan a byddai proses o'r enw 'tocio
gwraidd' yn cael ei chynnal, cyn ailosod y tarmac wedyn. Nodwyd nad oedd y
broses hon bob amser yn bosib, ond bod swyddogion yn anelu at ei gwneud gan ei
bod yn cadw'r goeden ac yn cadw'r briffordd mewn cyflwr ymarferol.
Esboniodd yr Aelodau eu bod
wedi derbyn cwynion dros amser mewn perthynas ag ymyriadau coed, a oedd yn
cynnwys y rhai nad oeddent ar dir sy'n eiddo i'r cyngor; Gofynnodd yr Aelodau i
swyddogion ystyried pwy fyddai'n gyfrifol am fynd i'r afael â'r materion a
adroddwyd mewn perthynas â choed nad ydynt ar dir sy'n eiddo i'r cyngor, p'un
ai'r cyngor neu ddarparwyr/asiantaethau partner yw hyn, gan fod hyn yn bwysig
wrth symud ymlaen.
Hysbyswyd y Pwyllgor fod y Tîm
Gofal Strydoedd yn penodi aelod ychwanegol o staff, fel rhan o gynyddu'r gwaith
arolygu coed a oedd yn cael ei wneud yn gysylltiedig â'r clefyd coed ynn; bydd
gan y Swyddog Coed gylch gwaith ehangach hefyd i edrych ar bob ardal arall o
amgylch coed, gan gynyddu gallu yn hynny o beth.
Gofynnwyd i swyddogion a
edrychwyd ar faterion yn unigol gan y gallai fod amgylchiadau arbennig yn
gysylltiedig, er enghraifft, coed yn rhwystro golygfeydd allan o ffenestri gan
achosi problemau lles meddyliol i unigolion. Drwy gydol yr adroddiad a
ddosbarthwyd, nodwyd mai arweiniad oedd yr wybodaeth yn y cynllun rheoli; felly
gallai'r ffordd y caiff un achos ei ddatrys fod yn wahanol i achos arall, yn
dibynnu ar fanylion yr achos.
Yn dilyn craffu, roedd y
pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.