Unrhyw eitemau brys (boed yn
gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Maer yn unol ag Adran 100B
(4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Cofnodion:
Dywedodd yr Arweinydd wrth yr Aelodau mai hwn oedd
cyfarfod olaf y cyngor y byddai Mr A Evans, Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu
Gydol Oes, yn bresennol ynddo oherwydd ei ymddeoliad sydd ar ddod. Talodd yr Arweinydd a'r Aelodau deyrnged i'r
gwaith a wnaed ac ymrwymiad Mr Evans i fywydau pobl ifanc a phlant Castell-nedd
Port Talbot yn ystod ei gyfnod fel Cyfarwyddwr a dymunodd ymddeoliad hir a
hapus iddo. Ymatebodd Mr Evans, gan
ddiolch i'r Aelodau, y colegau a'r staff am yr holl gefnogaeth a gafodd yng
Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.