Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Doreen Jones, Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Chydraddoldeb yr adroddiad a'i
argymell i'r cyngor i'w gymeradwyo i'w gyhoeddi ar wefan y cyngor.
Holodd yr Aelodau pam mai dim ond 47% o'i wariant
gros yr oedd y cyngor yn ei dalu ar gyflogau, pan mae cynghorau eraill, fel y
cynghorir yng Nghanllaw i Gynghorwyr y Gymdeithas Llywodraeth Leol, yn gallu
gwario mwy na 50% o'r gwariant refeniw gros.
Esboniodd swyddogion y byddai hyn yn cael ei godi gyda'r Cyfarwyddwr Cyllid
a Gwasanaethau Corfforaethol, ond bod y cyfraddau cyflog yn cael eu talu yn
unol â'r set o raddfeydd cyflog y cytunwyd arnynt yn genedlaethol. Mae cynghorau'n cytuno ar delerau ac amodau
ar sail unigol gydag undebau llafur. Lleihaodd y cyngor hwn ei delerau a'i
amodau yn 2018 fel dewis amgen i ddiswyddiadau a drafodwyd gyda chydweithwyr
mewn undebau llafur. Byddai maint y
gweithlu hefyd yn effeithio ar y gwariant sydd gan bob cyngor o ran cyflogau.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod rhai cynghorau eraill
yn cynnig cynlluniau disgownt i weithwyr.
A oes gan y cyngor hwn unrhyw gynlluniau tebyg? Esboniodd swyddogion fod amrywiaeth o
gynlluniau ar gael i staff. Sefydlwyd y
Grŵp Iechyd a Lles i gynnig cyfle i weithwyr ymuno â'r grŵp i gael
mynediad at amrywiaeth o fanteision ac un ohonynt oedd gostyngiadau mewn siopau
ar y stryd fawr. Mae gweithwyr hefyd yn
gallu cael mynediad at Hamdden Celtic am brisiau gostyngol. Mae gan y cyngor hefyd fenter Beicio i'r
Gwaith sy'n caniatáu i staff gael mynediad at feiciau ac offer a thalu amdano
drwy gynllun aberthu cyflog. Roedd y
pecyn tâl a gynigiwyd i weithwyr yn seiliedig ar yr argymhelliad a oedd yn
seiliedig ar y bargeinio cyflog cenedlaethol a bennir ar gyfer y cyngor ar lefel
genedlaethol.
Roedd yr Aelodau'n falch o weld bod y bwlch rhwng y
cyflog isaf a'r cyflog uchaf yn lleihau gan ystyried cyfrifoldebau rolau. Gofynnodd yr Aelodau a ellid ystyried lefel
genedlaethol yn y dyfodol i ddyfarnu codiadau cyflog drwy werth ariannol yn
hytrach na chanran, a fyddai o fantais i'r rhai â chyflog is.
PENDERFYNWYD: |
Cyhoeddi'r Datganiad Polisi Tâl ar gyfer
2021/2022 ar wefan y cyngor. |
Dogfennau ategol: