Cofnodion:
Esboniodd y Prif Weithredwr fod gan y Cyfarwyddwyr
Corfforaethol, y Penaethiaid Gwasanaeth a'r Swyddogion a oedd yn bresennol yn y
cyfarfod heddiw ddatganiadau o fuddiannau personol ac ariannol mewn perthynas â
Datganiad Polisi Tâl 2021/2022 ac y byddai'n rhaid i bob un ohonynt adael y
cyfarfod ar gyfer yr eitem hon. Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai'r
Pennaeth Adnoddau Dynol (gyda'i ganiatâd) yn parhau i ateb unrhyw gwestiynau
gan Aelodau a allai godi ynghylch yr adroddiad.
Hefyd, byddai Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd hefyd yn aros yn y
cyfarfod.
Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiadau o fudd ar
ddechrau'r cyfarfod:
Y Cynghorydd N T Hunt |
Parthed: Datganiad Polisi Tâl 2021/2022 gan fod
ganddo fangre masnachu yng nghanol Tref Port Talbot. |