Cofnodion:
Gyda thristwch mawr y rhoddodd y Maer wybod i'r
cyngor am farwolaeth y cyn-gynghorydd Malcolm Isaac Jones, a gynrychiolodd Ward
Tonmawr ac a oedd yn Faer y Fwrdeistref Sirol rhwng 1998 a 1999. Roedd hefyd yn Gynghorydd Sir i Gyngor Sir
blaenorol Gorllewin Morgannwg cyn ei ad-drefnu.
Atgoffodd y Maer y cyngor hefyd mai ddoe oedd Diwrnod Cenedlaethol Myfyrdod a gofynnodd i'r
Aelodau gofio'r bywydau niferus a gollwyd o ganlyniad i bandemig COVID-19.
Roedd meddyliau'r cyngor gyda ffrindiau a theuluoedd y rheini a gollodd eu
bywydau.
Fel arwydd o barch, cynhaliaodd yr aelodau funud o
ddistawrwydd.
Roedd y cyngor hefyd yn dymuno gwellhad buan i'r
Cynghorydd Rhydian Mizen o'i gyfnod diweddar o salwch.