Cofnodion:
Penderfyniadau:
Rhoi
ystyriaeth briodol i'r Asesiad Sgrinio Effaith Integredig:
1. Nodi'r gwaith a wnaed hyd yma gan
Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Powys a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot wrth ddatblygu'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd;
2. Nodi'r cytundeb benthyciad rhwng
Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Powys i hwyluso datblygiad y Ganolfan
Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd;
3. Bod y Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr
yr Amgylchedd ac Adfywio yn parhau i drafod gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor
Sir Powys ar Gytundeb Menter ar y Cyd diwygiedig ar gyfer Cam 2 y prosiect,
gydag adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Aelodau maes o law i'w gymeradwyo fel y
gellir bwrw ymlaen â hyn.
Rheswm dros
y penderfyniadau:
Ceisio
cymeradwyaeth gan Aelodau i barhau i drafod gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor
Sir Powys ar gytundeb menter ar y cyd diwygiedig, gydag adroddiad yn cael ei
gyflwyno i'r Aelodau yn 2021 i'w gymeradwyo fel y gellir bwrw ymlaen â menter
ar y cyd o'r fath.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar unwaith.