PENDERFYNWYD:
|
a)
Y bydd unrhyw dreuliau a
ysgwyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wrth
berfformio, yn rhan o'i ardal, swyddogaeth a gyflawnir gan Gyngor Cymuned,
mewn man arall yn ei ardal, yn cael eu trin fel treuliau cyffredinol yr
awdurdod.
b)
Bod ardoll Awdurdod Iechyd
Porthladd Bae Abertawe yn cael ei thrin fel cost gyffredinol.
c)
Bod y symiau canlynol a
gyfrifir yn unol ag Adrannau 32 i 36 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn
cael eu cymeradwyo.
|
Swm
|
Cyfanswm yr eitemau a amcangyfrifwyd o dan
Adran 32 (2) - gwariant.
|
£464.543,174
|
Cyfanswm yr eitemau a amcangyfrifwyd o dan
Is-adran 32 (3) - incwm.
|
£145,966.043
|
Swm a gyfrifwyd yn unol ag adran 32(4) –
gofyniad cyllidebol.
|
£318,577,131
|
Y cyfanswm sy'n daladwy mewn perthynas â'r
Ardreth Annomestig Genedlaethol a'r Grant Cynnal Refeniw a ailddosbarthwyd,
yn cael ei leihau'n unol ag Adran 33 (3B) o'r Ddeddf.
|
£236,293,345
|
Swm sylfaenol Treth y Cyngor yn unol ag Adran
33 (1) o'r Ddeddf.
|
£1,708.43
|
Cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeiriwyd
atynt yn adran 34(1) o'r Ddeddf.
|
£2,331,482
|
Swm sylfaenol Treth y Cyngor ar gyfer anheddau
yn y rhannau hynny o'i ardal nad oes unrhyw eitem arbennig yn ymwneud â
nhw, yn unol ag Adran 34 (2) o'r Ddeddf.
|
£1,660.02
|
Symiau sylfaenol Treth y Cyngor ar gyfer
anheddau yn y rhannau hynny o'i ardal nad yw bandiau eitemau arbennig yn
ymwneud â hwy, a gyfrifir yn unol ag adran 34(3) o'r Ddeddf.
|
Fel
y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
|
Symiau i'w hystyried mewn perthynas â
chategorïau o anheddau a restrir mewn prisiad gwahanol, a gyfrifir yn unol
ag Adran 36(1) o'r Ddeddf.
|
Fel
y nodir yn Atodiad 2 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
|
ch) Bod Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi datgan y symiau
canlynol mewn praesept a roddwyd i'r cyngor, yn unol ag Adran 40 o'r Ddeddf.
Band A
|
£191.81
|
Band B
|
£223.78
|
Band C
|
£255.75
|
Band D
|
£287.72
|
Band E
|
£351.66
|
Band F
|
£415.60
|
Band G
|
£479.53
|
Band H
|
£575.44
|
Band I
|
£671.35
|
Cyfanswm y praesept sy'n daladwy yw £13,857,591.
d)
Ar ôl cyfrifo'r cyfansymiau
ym mhob achos uchod, mae'r cyngor, yn unol ag adran 30(2) o'r Ddeddf drwy hyn
yn pennu'r symiau a ddangosir yn Atodiad 3 fel Treth y Cyngor ar gyfer 2021/2022
ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau a ddangosir.
|