Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd C Clement-Williams, Aelod y
Cabinet dros Gyllid, yr adroddiad a gafodd ei argymell i'r cyngor gan y Cabinet
ar 8 Mawrth 2021. Tynnwyd sylw at y
ffaith bod 1,069 o ymatebion ynghyd â llythyrau a deiseb wedi'u derbyn mewn
perthynas â'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y gyllideb a gofynnodd i'r cyngor
gefnogi'r argymhellion yn yr adroddiad.
Diolchodd yr Aelodau i swyddogion a'r Cabinet am y
gwaith a wnaed i gyflawni sefyllfa'r gyllideb yma gerbron y cyngor heddiw, yn
enwedig y ffaith nad oedd unrhyw doriadau newydd i wasanaethau'n cael eu cynnig
ar gyfer 2021/2022.
Mynegwyd pryder gan rai Aelodau ynglŷn â'r
effaith y byddai'r cynnydd o 2.75% yn Nhreth y Cyngor yn ei chael ar
breswylwyr/drethdalwyr. Cydnabuwyd mai 3.75% oedd y cynnydd arfaethedig yn
Nhreth y Cyngor yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ond ar ôl gwrando ar yr ymatebion
gostyngwyd y cynnig terfynol i 2.75%.
Tynnwyd sylw at y ffaith mai Cyngor Castell-nedd Port Talbot oedd ag un
o'r cyfraddau Treth y Cyngor uchaf yng Nghymru o hyd.
Esboniodd swyddogion fod y gostyngiad o'r cynnydd
gwreiddiol yn Nhreth y Cyngor, o 3.75% i 2.75%, o ganlyniad i arian ychwanegol
a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn y setliad terfynol, ynghyd ag ad-dalu
costau COVID-19 a cholli incwm yn 2020/2021 a chronfeydd Llywodraeth Cymru a
ddarparwyd ar gyfer 2021/2022.
Cafwyd trafodaeth ar y cynnig a gyflwynwyd y dylid
defnyddio cronfeydd wrth gefn i osgoi cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer eleni
(2021/2022) er mwyn lliniaru'r effaith ar deuluoedd a chymunedau yng
Nghastell-nedd Port Talbot.
Esboniodd swyddogion y byddai effaith cymryd yr
arian ychwanegol i osgoi cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn effeithio ar y gyllideb
ar gyfer 2022/2023 gan fod yn rhaid i'r cyngor gael cyllideb gynaliadwy wrth
symud ymlaen am y pum mlynedd nesaf.
Cafwyd trafodaeth bellach ar sut mae Castell-nedd
Port Talbot yn cymharu â chynghorau eraill a'r gwahanol fathau o gronfeydd wrth
gefn y maent yn eu cadw a pha wasanaethau a dderbynnir.
Ymatebodd Aelod y Cabinet dros Gyllid a dywedodd y
rhoddir ystyriaeth bob blwyddyn i geisio lleihau lefel Treth y Cyngor ac mai'r
cyngor oedd â'r cynnydd isaf ond un yng Nghymru dros y 4 blynedd diwethaf. Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai'n rhaid
nodi unrhyw arian pellach a gymerir o gronfeydd wrth gefn fel arbedion gan
wasanaethau eraill i ailgyflenwi cronfeydd wrth gefn er mwyn galluogi'r cyngor
i ymateb i argyfyngau nas cynlluniwyd ac effaith barhaus y pandemig. Yn
ogystal, tynnwyd sylw at Dreth y Cyngor yn yr ymgynghoriad cyhoeddus, ac o
ganlyniad, fe'i gostyngwyd 1% o 3.75% i 2.75% ar ôl i ffigur y setliad gan
Lywodraeth Cymru ddod i law. Byddai effaith
lleihau'r cynnydd Treth y Cyngor i ddim byd yn arwain at ostyngiadau mewn
gwasanaethau neu staff yng nghyllideb 2022/2023.
Argymhellwyd diwygiad i'r cyngor a chafwyd cais am
bleidlais wedi'i chofnodi yn sgîl hyn, ar y diwygiad canlynol, a gafodd y
gefnogaeth angenrheidiol yn unol â gofynion Adran 14.5 o Ran 4 o Gyfansoddiad y
Cyngor – Rheolau Gweithdrefn.
Bydd y swm cyfatebol ar gyfer Band D 2021/22 Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn £1,615.59, gan olygu na fydd
cynnydd yn Nhreth y Cyngor o'i gyferbynnu â chynnydd o 2.75% fel y nodir yn yr
adroddiad gyda'r bwlch o 2.75% yn cael ei ariannu o'r gronfa gyffredinol wrth
gefn (sy'n cynrychioli swm ychwanegol o £2.14m ar gyfer 2021/2022). Felly, cyfanswm y cronfeydd wrth gefn
cyffredinol i gydbwyso'r gyllideb yw £5.24m h.y. £3.1m fel yn yr adroddiad
gwreiddiol) ynghyd â £2.14m. Balans
cronfeydd wrth gefn cyffredinol a ddeilliodd o hynny fyddai £14.72m sef 4.69%
o'r gyllideb refeniw.
O blaid y Diwygiad:
Y Cynghorwyr: S
Bamsey, H C Clarke, R Davies, C Edwards,
J
Evans, W F Griffiths, J Hale, N T Hunt,
H Jones, A Llewelyn, D
M Peters, R Phillips, L M Purcell, A J Richards, M Spooner a C Williams
Yn erbyn y Diwygiad:
Y Cynghorwyr: |
A Aubrey, D Cawsey, C Clement-Williams, C M
Crowley, A P H Davies, N E Davies, O S Davies, S E Freeguard, C Galworthy, S
Harris, M Harvey, S K Hunt, J Hurley, C James, H N James, C J Jones, D Jones,
J Jones, L C Jones, D Keogh, E V Latham, A R Lockyer, A McGrath. , R Mizen, S
Paddison, SM Penry, M Protheroe, S M Pursey,
Rahaman, P A Rees, S Renkes, S H Reynolds, P D Richards, A J Taylor, R
L Taylor, J Warman, D Whitelock, A Winfedd, R W Wood, A N Woolcock. |
Ymataliad:
Y Cynghorydd: S
Jones
O ganlyniad i'r uchod, methodd y diwygiad a
dilynwyd cais am bleidlais wedi'i chofnodi, ar yr argymhelliad sylweddol a geir
yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, a gafodd y gefnogaeth angenrheidiol yn unol â
gofynion Adran 14.5 o Ran 4 o Gyfansoddiad y Cyngor – Rheolau Gweithdrefn.
O blaid yr Argymhelliad:
Y Cynghorwyr: |
A R Aubrey, D Cawsey, C Clement-Williams, C M
Crowley, A P H Davies, O S Davies, S E Freeguard, C Galsworthy, S Harris, M
Harvey, S K Hunt, J Hurley, C James, H N James, C J Jones, D Jones, L C Jones,
D Keogh, E V Latham, A R Lockyer, A McGrath, J Miller, S Miller, R Mizen, S S
M Penry, M Protheroe, S M Pursey, S Rahaman, P A Rees, S Renkes, S H
Reynolds, P D Richards, A J Taylor, R L Taylor, J Warman, D Whitelock, A
Winfedd, R W Wood ac A N Woolcock. |
Yn erbyn yr Argymhelliad:
Y Cynghorwyr: |
S Bamsey, H C Clarke, R Davies, C Edwards, J
Evans, W F Griffiths, J Hale, N T Hunt, H Jones, A Llewelyn, D M Peters, R
Phillips. L M Purcell, A J Richards, M Spooner a C
Williams. |
Ymataliad:
Y Cynghorwyr: N
E Davies, J Jones ac S Jones
PENDERFYNWYD: |
Gan roi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, fel y'i cynhwysir yn Atodiad 7 i'r adroddiad a ddosbarthwyd: a)
Dirprwyo'r materion canlynol
i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol priodol yn dilyn ymgynghoriad ag Arweinydd y
Cyngor, yr Aelod Cabinet perthnasol a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu
perthnasol:- · Ffïoedd a Thaliadau sy'n gymwys ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022 · Ffïoedd a thaliadau sy'n berthnasol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol
ddilynol ac, ym marn y Cyfarwyddwr Corfforaethol perthnasol, y mae angen
penderfynu arnynt cyn y flwyddyn ariannol am resymau gweithredol. b)
Y dylid cymeradwyo'r
sefyllfa gyllidebol ddiwygiedig a'r trefniadau ar gyfer 2020/2021. c)
Ar ôl ystyried yr Asesiad
Effaith Integredig ac Effeithiau Troseddu ac Anhrefn, y dylid cymeradwyo'r
Gyllideb Refeniw Net ar gyfer 2021/2022 a'r cynlluniau gwasanaeth ar gyfer
cyflawni'r cyllidebau. ch) Cymeradwyo arbedion y
Gyllideb/Blaengynllun ariannol. d)
Y bydd Cyfarwyddwyr Corfforaethol
yn cael eu cyfarwyddo i fwrw ymlaen â'r arbedion a'r rhaglen wella ar gyfer
yr awdurdod. dd)Dirprwyo ffïoedd a thaliadau ar gyfer swyddogaethau anweithredol i'r
Cyfarwyddwr Corfforaethol priodol yn dilyn ymgynghoriad ag Arweinydd y
Cyngor, y Dirprwy Arweinydd a Chadeirydd y Pwyllgor Anweithredol perthnasol. ·
Ffioedd a thaliadau sy'n
berthnasol yn 2021/2022. ·
Ffïoedd a thaliadau sy'n
berthnasol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol ddilynol ac, ym marn y
Cyfarwyddwr Corfforaethol, y mae angen penderfynu arnynt cyn y flwyddyn
ariannol am resymau gweithredol. e)
Mai swm Treth y Cyngor
cyfatebol ar gyfer Band D 2021/2022 Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot fydd £1,660.02. |
|
|
Dogfennau ategol: