Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd C Clement-Williams, Aelod y
Cabinet dros Gyllid, yr adroddiad a oedd wedi'i argymell i'r cyngor gan y
Cabinet a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2021.
PENDERFYNWYD: |
1.
Bod y trosglwyddiadau a'r symudiadau
o ran arian wrth gefn fel y'u nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn cael
eu cymeradwyo. 2.
Bod trosglwyddiadau'r
gyllideb sy'n fwy na £500,000 fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn
cael eu cymeradwyo. 3.
Bod y materion gweithredol ac
ariannol fel y'u nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn cael eu nodi. 4.
Bydd y cyngor yn parhau i
weithio gyda Llywodraeth Cymru ac yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau a
chyfeiriadau, i gyflwyno gwasanaethau yn ystod yr adeg heriol hon. 5.
Bod y grantiau ychwanegol a
dderbyniwyd yn cael eu nodi. 6.
Mae'r gwaith hwnnw'n parhau
i geisio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i dalu am ganlyniadau
COVID-19. |
Dogfennau ategol: