· Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd y Pwyllgor ar
yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:
Addysg drwy Ddatblygiadau Consortiwm Gweithio Rhanbarthol
Diweddarwyd yr aelodau
ar ddatblygiadau consortiwm Ein Rhanbarth ar Waith (ERW).
Tynnwyd sylw at y
ffaith bod ERW wedi darparu cyrsiau hyfforddi amrywiol a gwybodaeth i
ymarferwyr addysgol fel athrawon, cynorthwywyr addysgu a llywodraethwyr ysgol;
Gofynnodd yr aelodau beth oedd wedi disodli'r ddarpariaeth honno, gan fod y
cyngor wedi tynnu'n ôl o ERW.
Esboniodd swyddogion
fod y cyngor yn darparu ei wasanaethau gwella ysgolion ei hun i ysgolion yn y
Fwrdeistref Sirol; roedd rhai enghreifftiau o'r trefniadau yn cynnwys y
canlynol:
· Cynhaliwyd yr ymweliad craidd, y gwahoddwyd cadeiryddion llywodraethwyr
iddo, gan Swyddogion Cefnogi Addysg y cyngor;
· Darparwyd y gefnogaeth i ddatblygu'r cwricwlwm hefyd gan staff gwella'r
ysgol. Cafwyd cyfleoedd i ysgolion rannu arfer er mwyn sicrhau eu bod yn elwa
o'i gilydd o ran dysgu, ac roedd nifer o ysgolion arloesi a fu'n ymwneud â
datblygu'r cwricwlwm yn rhan ohono ers y cychwyn;
· Roedd yr Adran Addysg yn ymwneud â chynnal rhaglenni cymorth i
lywodraethwyr;
· Rhoddodd y cyngor nifer o raglenni arweinyddiaeth cenedlaethol gan ERW ar
waith, megis y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth
(CPCP), yn ogystal â rhaglenni ar gyfer arweinyddiaeth ganol etc.
Yn dilyn hyn, dywedodd
swyddogion ei bod yn bwysig sicrhau bod ansawdd yr hyn a oedd yn cael ei
gyflwyno i ddisgyblion yn unol â'r dyheadau. Hysbyswyd yr aelodau fod grŵp
cynghori ar y cwricwlwm wedi'i ddatblygu lle'r oedd ymarferwyr ysgol yn cymryd
rhan ynghyd ag unigolion eraill, er enghraifft, pobl yn y gymuned sy'n rhedeg
eu busnesau eu hunain a swyddogion o Gyfarwyddiaeth yr Amgylchedd; roedd hyn yn
galluogi swyddogion i gael dealltwriaeth o sut roedd y sgiliau a ddatblygwyd ar
lefel ysgol o fudd i bobl ifanc o ran eu rhagolygon gwaith yn y dyfodol a'r
sgiliau a fydd yn ofynnol dros y 10-15 mlynedd nesaf, er mwyn sicrhau bod gan
bobl ifanc y sgiliau hynny yn ogystal ag ymwybyddiaeth o gyfleoedd gwaith.
Ychwanegwyd bod staff y Gyfarwyddiaeth Addysg wedi bod yn cwblhau gwaith mewn
perthynas â'r diwydiant creadigol; cynhaliwyd confensiwn cwricwlwm llwyddiannus
iawn lle'r oedd cwmnïau lleol a oedd yn ymwneud â rhaglenni cynhyrchu fel S4C
yn bresennol.
Sicrhaodd Cadeirydd y
Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant yr aelodau fod y Pwyllgor Craffu
Addysg, Sgiliau a Diwylliant wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas
ag ERW ac y byddai'n parhau i dderbyn diweddariadau; dywedodd y Cadeirydd y
gallai aelodau a oedd â diddordeb yn y pwnc gael cyfle i ddod i'r Pwyllgor
Craffu os oeddent yn dymuno dysgu rhagor.
Cynhaliwyd trafodaeth
mewn perthynas â hysbysiad o dynnu'n ôl Abertawe a Chaerfyrddin, a chadarnhaodd
Swyddogion fod yr hysbysiadau i dynnu'n ôl yn cael eu diddymu gan nad oeddent
yn gallu cwblhau'r prosesau cyfreithiol o fewn yr amserlen yr oeddent yn eu
hystyried yn wreiddiol.
Nodwyd yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd fod swyddogion wedi gofyn am fanylion yr atebolrwydd diswyddo,
ond nad oeddent wedi derbyn ymateb eto; gofynnwyd a oedd gan swyddogion unrhyw
syniad pryd y byddent yn cael ateb i hyn. Nodwyd nad oedd swyddogion wedi cael
gwybod pryd y byddent yn derbyn y dadansoddiad, a byddant yn anfon nodyn
atgoffa o hyn maes o law; fodd bynnag, gwneir gwaith sylweddol ar hyn o bryd o
ran ad-drefniad posib ERW a allai liniaru rhai o'r costau diswyddo. Ychwanegwyd
mai mater o weithio gyda chydweithwyr rhanbarthol oedd deall yr atebolrwydd
diswyddo, gan gynnwys y costau a sut y gellid ei liniaru wrth symud ymlaen.
Mewn perthynas ag
ymateb Llywodraeth Cymru wrth i'r cyngor dynnu'n ôl o ERW ac a oeddent am
barhau i ddarparu cyllid, cadarnhawyd bod y cyngor wedi derbyn cyllid drwy
Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol (RCSIG) ar gyfer y flwyddyn
ariannol gyfredol a'r flwyddyn ariannol nesaf.
Gofynnodd yr aelodau a
oedd unrhyw ofid o ran tynnu'n ôl o ERW. Dywedodd swyddogion mai'r ffactor
pwysicaf yn y trafodaethau cyfredol oedd a oedd y cymorth yr oedd ei angen ar
ysgolion yn cael ei ddarparu. Tynnwyd sylw at y ffaith bod proffil gwella ysgolion
Castell-nedd Port Talbot a'i data o ran categoreiddio'n gadarnhaol iawn ac yn
un o'r goreuon ledled Cymru. O ran categorïau Estyn, Castell-nedd Port Talbot
oedd un o'r isaf ledled Cymru; roedd dwy ysgol leol yn derbyn adolygiad Estyn
ac ar hyn o bryd, nid oedd unrhyw ysgolion yn y 'categori statudol' (er
gwybodaeth, roedd y categori statudol yn golygu bod angen gwelliant sylweddol
neu fesurau arbennig ar ysgol). Soniodd swyddogion fod y ffactorau hyn yn
cyfiawnhau'r penderfyniadau a wnaed, fodd bynnag fel ymarferwyr gwella
ysgolion, mae'n bwysig myfyrio ar anghenion yr ysgolion bob amser; roedd angen
deall yr hyn a oedd yn ofynnol wrth symud ymlaen o sefyllfa bresennol y
pandemig, a meddwl sut y gallai'r cyngor sicrhau ei fod yn bodloni'r gofynion hynny.
Soniwyd bod swyddogion yn dechrau derbyn adborth gan ysgolion, gan eu bod wedi
dechrau ailagor, ynghylch rhai o'r materion yr oedd pobl ifanc yn eu cyflwyno
wrth iddynt ddychwelyd; cafwyd adroddiadau gan yr Awdurdod Iechyd ynglŷn â
chynnydd mewn anhwylderau bwyta ymhlith plant a phobl ifanc, felly roedd yn
hanfodol gweithio'n agos gyda chydweithwyr iechyd a gwasanaethau plant i
gynllunio a chyflwyno rhaglen adfer a fyddai'n ddigon hyblyg i ymdrin â'r mater
wrth i blant ddychwelyd i'r ysgol. Ychwanegwyd bod arian ychwanegol ar gael i
gefnogi adferiad, ac y byddai angen iddo gyrraedd yr ystafell ddosbarth er mwyn
ceisio gwneud iawn am y profiadau y mae pobl ifanc wedi'u cael dros y 12 mis
diwethaf.
Yn dilyn craffu,
nodwyd cynnwys yr adroddiad.
Adroddiad Diweddaru a Monitro Cyllideb 2020 - 2021
Cyflwynwyd trosolwg
i'r pwyllgor o oblygiadau ariannol COVID-19 ar Adnoddau Ariannol y cyngor a
Chyllideb 2020/21.
Gofynnodd yr aelodau i
swyddogion ddarparu sylwebaeth ar ganlyniadau diwedd y flwyddyn a'r tanwariant
posib o £1.2 miliwn, a sut y byddai hynny'n cael ei drin wrth symud ymlaen.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi mai £1.9
miliwn oedd tanwariant rhagamcanol y flwyddyn, a fyddai'n cael ei roi yn y
cronfeydd wrth gefn cyffredinol; roedd hyn yn golygu mai £19.845 miliwn fyddai
balans rhagamcanol y gronfa wrth gefn ar ddiwedd mis Mawrth 2021. Soniodd
swyddogion y byddai'r aelodau'n derbyn adroddiad terfynol mewn perthynas â
ffigurau'r gyllideb maes o law. Mewn perthynas â'r tanwariant o £1.2 miliwn,
dywedwyd ei fod wedi'i gynnwys yn yr adroddiadau a ddosbarthwyd.
Gofynnwyd i swyddogion
a allent ddarparu manylion y cronfeydd wrth gefn cyffredinol a'r gwariant
refeniw net ar gyfer yr awdurdodau cyfagos. Cadarnhawyd nad oedd gan swyddogion
ffigurau cyffredinol y cronfeydd wrth gefn ar gyfer awdurdodau eraill ac nad
oeddent yn ymwybodol o sut y gellid cyrchu'r wybodaeth hon; fodd bynnag, gellid
dod o hyd i wybodaeth net y gyllideb refeniw ar wefan Stats Cymru. Nodwyd y
byddai swyddogion yn lawrlwytho'r wybodaeth hon o'r wefan ac yn ei dosbarthu
i'r aelodau.
Gofynnwyd ai'r fersiwn
ddiweddaraf oedd y tabl o gronfeydd wrth gefn cyffredinol a dderbyniodd aelodau
cyn hyn, a oedd yn dangos gwybodaeth o bob awdurdod lleol yng Nghymru ym mis Mawrth
2019. Cadarnhaodd swyddogion fod y tabl y cyfeiriwyd ato yn debygol iawn o fod
yn hen wrth i ddata'r cronfeydd wrth gefn cyffredinol newid yn rheolaidd, felly
ni fyddai'n dangos sefyllfa bresennol unrhyw awdurdod lleol.
Gofynnodd yr aelodau a
oedd yn orfodol i bob awdurdod lleol gyhoeddi gwybodaeth am eu cronfeydd wrth
gefn cyffredinol. Hysbyswyd y pwyllgor ei bod yn ofynnol i bob awdurdod lleol
wneud hyn fel rhan o'i ddatganiad o gyfrifon; Cyhoeddodd Cyngor Castell-nedd
Port Talbot y safbwynt diweddaraf ar y cronfeydd wrth gefn cyffredinol a
phenodol ym mhob adroddiad monitro cyllideb a gyflwynwyd i Bwyllgor Craffu'r
Cabinet a'r Cabinet, cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio ar
ddiwedd y flwyddyn ar gyfer y datganiad o gyfrifon.
Cafwyd trafodaeth mewn
perthynas â gwybodaeth gymharol â chynghorau eraill, ond dywedwyd bod
poblogaeth/maint Bwrdeistrefi Sirol yn amrywiol iawn ac er bod y gwasanaethau a
ddarparwyd gan gynghorau'n statudol debyg, roedd y lefel y maent yn ei darparu
yn wahanol iawn, felly roedd yn anodd eu cymharu.
Gofynnwyd a oedd
swyddogion yn gyfforddus â'r lefel arfaethedig bresennol o gronfeydd
rhagamcanol wrth gefn. O ran y cyfrifiadau, nodwyd mai dyma oedd yr amcangyfrif
gorau o safbwynt presennol y cyngor; roedd ychydig wythnosau i fynd o hyd cyn
diwedd y flwyddyn ariannol, ac roedd angen cwblhau prosesau gyda Swyddfa
Archwilio Cymru er mwyn cadarnhau cywirdeb y cyfrifon. Ychwanegwyd y bydd yr
holl ffactorau hynny'n cael eu hystyried dros y misoedd nesaf, gyda'r nod o
lofnodi'r holl gyfrifon ar gyfer y flwyddyn gyfredol erbyn diwedd mis
Gorffennaf. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol nad
oedd y cyngor erioed wedi cael adroddiad archwilio cymwysedig o ran y cyfrifon
ers iddo fod yn y rôl.
Gofynnwyd i swyddogion
a oedd enillion treth y cyngor yn tueddu i ostwng wrth i lefel treth y cyngor
gynyddu. Hysbyswyd yr aelodau fod y broses o gasglu treth y cyngor wedi bod yn
eithriadol o dda dros y 5 mlynedd diwethaf; y cyngor oedd un o'r rhai uchaf o
ran casgliadau treth y cyngor yng Nghymru, ac yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf
casglodd y cyngor y ganran uchaf, sef 98.1%. Soniwyd bod Tîm Treth y Cyngor
wedi bod yn gweithio'n galed iawn i ganiatáu i bobl ail-broffilio eu
rhandaliadau o ddechrau'r flwyddyn hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon; ar
ddiwedd mis Chwefror 2021 cofnodwyd bod 96.4% o dreth y cyngor wedi'i chasglu
ac roedd y rhandaliadau pellach yn uwch nag arfer.
Yn dilyn y broses
graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet
Cyllideb Refeniw 2021/2022
Cyflwynwyd adroddiad
mewn perthynas â'r gyllideb refeniw ar gyfer 2021/22 i'r Pwyllgor.
Nododd yr adroddiad a
ddosbarthwyd y byddai'r cyngor yn defnyddio £3.1miliwn i gydbwyso'r gyllideb
o'r cronfeydd wrth gefn; Gofynnodd yr aelodau am eglurder ynghylch yr hyn a
olygir gan ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i gydbwyso'r gyllideb.
Esboniwyd mai
cronfeydd wrth gefn oedd y trefniant o sicrhau bod gan y cyngor ddigon o arian
i ymdrin â'r pryniannau annisgwyl a mawr y byddai angen i'r cyngor eu hangen
neu am eu gwneud yn y dyfodol; roedd yn hanfodol bod gan y cyngor y gallu i
ymdrin â mesurau annisgwyl, er enghraifft llifogydd a sefyllfaoedd brys eraill.
Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod pandemig COVID-19 hefyd yn enghraifft o
hyn, ond roedd hyn wedi bod ychydig yn wahanol i amgylchiadau arferol gan fod
Llywodraeth Cymru wedi datgan y byddent yn darparu cyllid drwy'r Gronfa Galedi
ar gyfer y costau annisgwyl; fel arfer byddai angen i'r cyngor ei hun dalu'r
£6,013 cyntaf o waith y cyngor sy'n gysylltiedig ag argyfyngau, sef 0.2% o'r
gyllideb, ynghyd â 15% arall o unrhyw beth ar ben y trothwy o £6,013. Nodwyd
mai dyma oedd Cynllun Cymorth Ariannol Brys yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'i
roi ar waith i ymdrin â phroblemau. Ychwanegodd swyddogion fod y cronfeydd
cyffredinol wrth gefn ar gael ar gyfer y mathau hyn o sefyllfaoedd ynghyd ag
amrywiadau mewn lefelau gwasanaeth a chostau; roedd yn bwysig sicrhau bod gan y
cyngor gyllidebau a phrosesau cynaliadwy i reoli materion gweithgarwch ac
ariannol dros y blynyddoedd.
Gofynnodd yr aelodau
sut roedd swyddogion wedi gallu lleihau'r taliadau treth y cyngor arfaethedig
wreiddiol o 3.75% i 2.75%. Dywedwyd yng nghyfarfod blaenorol Pwyllgor Craffu'r
Cabinet lle cyflwynwyd cynigion y gyllideb ddrafft (13 Ionawr 2021), fod
Llywodraeth Cymru wedi nodi mai dim ond hyd at lefel benodol y gallent ddarparu
cymorth; rhagwariant rhagamcanol y cyngor ar y pryd oedd £2.5 miliwn ac erbyn
hyn rhagwelwyd y byddai'n £1.2miliwn. Tynnwyd sylw at y ffaith bod Llywodraeth
Cymru wedi cyhoeddi ers hynny ei bod yn darparu arian ychwanegol i gefnogi'r
heriau sy'n gysylltiedig â threth y cyngor; roedd y cyngor wedi derbyn £7,027
am hynny a £6,003 arall tuag at gymorth o ran treth y cyngor. Esboniodd swyddogion
fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y gallai cynghorau adennill mwy o arian o
ran colli incwm hyd at ddiwedd mis Rhagfyr, a oedd wedi arwain at ddarparu mwy
o arian i'w roi yn y cronfeydd wrth gefn; roedd hyn yn golygu y gellid cymryd
£3.1 miliwn o'r cronfeydd wrth gefn y flwyddyn nesaf er mwyn gostwng treth y
cyngor 1%.
Cafwyd trafodaeth
ynglŷn â'r cynnydd o ran treth y cyngor ar gyfer Cyngor Castell-nedd Port
Talbot o'i gymharu â'r cynnydd o ran treth y cyngor mewn awdurdodau lleol
eraill. Hysbyswyd yr aelodau fod y rhan fwyaf o gynghorau naill ai wedi pennu
eu treth y cyngor yn ddiweddar ar gyfer y flwyddyn nesaf neu ar fin cwblhau eu
ffigurau; roedd yr wybodaeth yr oedd swyddogion wedi'i gweld hyd yma yn awgrymu
bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi pennu'r ail gynnydd isaf o ran treth y
cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf. Nodwyd mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda
Cynon Taf oedd yn debygol o fod â'r gyfradd isaf, sef 2.65%; roedd cynghorau
eraill wedi datgan bod eu cyfradd rhwng 3-4% ac ychydig yn uwch na hynny.
Nodwyd bod bwlch ariannol rhagamcanol o £49 miliwn ar hyn o bryd dros y tair
blynedd nesaf os nad oedd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gallu
cynyddu'r lefel bresennol o gymorth ariannol maent yn ei ddarparu; roedd hyn yn
eithaf sylweddol gan eu bod yn darparu ychydig o dan 75% o'r cyllid ar gyfer
cynnal gwasanaethau'r cyngor a oedd yn cyfateb i £236.68 miliwn. Ychwanegwyd
bod talwyr treth y cyngor lleol yn cyfrannu 25% o gostau cynnal gwasanaethau'r
cyngor.
Yn dilyn hyn, nodwyd
mai Cyngor Castell-nedd Port Talbot oedd â'r drydedd gyfradd uchaf o ran treth
y cyngor yng Nghymru. Esboniodd swyddogion fod y rhesymu dros hyn yn mynd yn ôl
i’r adeg pan ad-drefnwyd llywodraeth leol; arweiniodd manylion hyn at dreth y
cyngor uwch yn y flwyddyn gyntaf. Dywedwyd y gwnaed penderfyniadau bob blwyddyn
ers hynny er mwyn ceisio dod yn agosach at ffigurau'r asesiad gwariant safonol.
Hysbyswyd yr aelodau
fod y balans terfynol rhagamcanol ar y cronfeydd wrth gefn ar gyfer y flwyddyn
ariannol hon wedi cynyddu i £19.845 miliwn, ac mai dyna fyddai balans agoriadol
2021/22; gyda’r defnydd rhagamcanol o werth £3.1miliwn o gronfeydd wrth gefn
cyffredinol i ategu'r gyllideb ar gyfer 2021/22, roedd yn golygu y byddai'r
cronfeydd rhagamcanol wrth gefn ar 31 Mawrth 2022 yn gostwng i £16.86 miliwn.
Darllenodd y
Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol ddarn o erthygl a ysgrifennwyd
gan Rob Whiteman, Prif Weithredwr Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a
Chyfrifyddiaeth (CIPFA), a ysgrifennwyd ar 2 Ebrill 2020.
Dywedodd swyddogion pe
bai gormod o arian yn cael ei dynnu o gronfeydd cyffredinol mewn blwyddyn,
byddai angen rhoi paratoadau ar waith i leihau gweithgareddau a/neu wasanaethau
ar gyfer y blynyddoedd ariannol canlynol; byddai'r strategaeth yr oedd angen ei
rhoi ar waith yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot
ar gyfer blynyddoedd ariannol yn y dyfodol, nid y flwyddyn ariannol gyfredol yn
unig. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y blaengynllun ariannol wedi nodi pe na bai
unrhyw arian ychwanegol yn cael ei gyflwyno o unrhyw ffynhonnell, yna byddai
her o greu £49miliwn dros y tair blynedd nesaf; roedd angen ystyried yr her hon
bob blwyddyn wrth edrych ar y gyllideb. Ychwanegodd swyddogion nad oeddent wedi
derbyn unrhyw gynigion amgen gan aelodau dros y misoedd diwethaf ers iddynt
ystyried cynigion y gyllideb.
Yn ogystal, er bod y
£206.6 miliwn yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'i roi i'r Cyllid Caledi i dalu am
COVID-19 y flwyddyn nesaf wedi'i groesawu, nid oedd hirhoedledd nac effaith y
pandemig ar yr arian cyffredinol yn hysbys; felly, gallai swm yr arian y gallai
fod angen ei dynnu o'r cronfeydd wrth gefn fod yn uwch na £3.1 miliwn fel y
nodir ar hyn o bryd yn adroddiad y gyllideb a ddosbarthwyd. Hysbyswyd y
Pwyllgor fod angen ystyried yr holl faterion hyn wrth lunio strategaeth
gyllideb gynaliadwy ar gyfer y blynyddoedd ariannol nesaf ac yn y dyfodol.
Gofynnodd yr aelodau
pa gymorth oedd ar gael i'r rheini sy'n ei chael hi'n anodd talu treth y
cyngor. Dywedwyd mai cyfanswm yr arian a oedd ar gael ar gyfer cymorth gyda
threth y cyngor eleni oedd £18.7 miliwn, a byddai hyn yn codi i £19.8 miliwn ar
gyfer y flwyddyn ariannol nesaf; byddai'r arian hwn yn cefnogi tua 17,500 o
dalwyr treth y cyngor allan o 64,000 o eiddo ar draws y fwrdeistref sirol, wrth
i dros 12,000 o breswylwyr gael cymorth ariannol llawn tuag at eu taliadau
treth y cyngor. Ychwanegwyd y byddai'r 5,500 o breswylwyr eraill yn cael
cymorth rhannol gan fod eu henillion a'u lefelau incwm yn caniatáu iddynt wneud
rhai cyfraniadau tuag at dreth y cyngor. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith
bod y gwerth band D arfaethedig ar gyfer treth y cyngor yng Nghastell-nedd Port
Talbot wedi'i nodi yn yr adroddiad a ddosbarthwyd (£1,660), ond soniodd yr
adroddiad hefyd fod tua 80% o eiddo yn y fwrdeistref sirol yn y tri band isaf
(A,B ac C) o drefn treth y cyngor; byddai'r rhai ym mand C gyda dau oedolyn
sy'n talu yn y tŷ yn talu tua £1,457, a byddai'r rhai a oedd yn ddeiliaid
sengl yn cael gostyngiad o 25% tuag at gyfanswm eu taliadau treth y cyngor.
Hysbyswyd yr aelodau fod rhan fwyaf o breswylwyr Castell-nedd Port Talbot yn
talu llai na'r £1,457 a grybwyllwyd ar gyfer band D, ac er y byddai'r cynnydd o
2.75% yn cael ei gymhwyso i bob band, roedd cymhareb talwyr treth y cyngor y
fwrdeistref sirol ym mandiau A, B a C yn bennaf, sef y gyfradd treth y cyngor
is.
Cynhaliwyd pleidlais i
benderfynu pa aelodau oedd o blaid ac yn erbyn yr argymhellion a nodir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Roedd canlyniadau'r bleidlais fel a ganlyn:
· O blaid – 12
· Yn erbyn – 4
· Ymatal – 0
Yn dilyn y broses
graffu, roedd mwyafrif y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y
Cabinet.
Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2021/2022
Darparwyd adroddiad
i'r aelodau a oedd yn nodi Strategaeth Rheoli Trysorlys y cyngor, y Strategaeth
Buddsoddi Flynyddol a'r Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw ar gyfer 2021/22.
Darparodd swyddogion
sylwebaeth ar yr arwyddion ar gyfer y gyfradd chwyddiant yn ystod y flwyddyn a
sut y gallai effeithio ar strategaeth reoli'r trysorlys. Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn rhoi syniad o beth fyddai'r effaith debygol ar log
buddsoddiadau ar gyfer y flwyddyn gyfredol hyd at 2024/25. Nodwyd ei fod yn
debygol mai’r adenillon tebygol fyddai 0.10% am y tair blynedd nesaf ac y
byddai yna'n codi i 0.25% yn 2024/25; dyma farn cynghorwyr y trysorlys ynghylch
sut y gallai cyfraddau llog fod yn berthnasol dros y blynyddoedd nesaf. O ran
chwyddiant, dywedwyd bod 1% wedi'u cynnwys yn amcangyfrifon y cyngor ar gyfer
codiadau cyflog ar gyfer staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu; roedd y
galw am godiadau cyflog yn debygol o fod yn uwch na hyn, ond byddai hynny'n
cael ei ddatrys gyda thrafodaethau mewn mannau eraill. Hysbyswyd yr aelodau mai
targed y llywodraeth oedd parhau i gadw chwyddiant ar neu tua 2% dros amser,
ond ar hyn o bryd roedd yn llawer is na hynny; ar hyn o bryd, mae'r chwyddiant
yn uwch na llog buddsoddiadau, ond roedd y rhan fwyaf o'r benthyciadau sydd ar
waith yn rhai tymor hir (dros 40-50 mlynedd). Tynnwyd sylw at y ffaith mai'r
mater mwy heriol wrth symud ymlaen oedd nodi pa gyfraddau llog a fyddai ar gael
o hyn ymlaen i gefnogi rhaglen gyfalaf y cyngor a'r cyllid y mae ei angen i
ategu'r rhaglen gyfalaf. Cyfeiriodd swyddogion at y Gofyniad Ariannu Cyfalaf
a'r posibilrwydd o gyfraddau llog y manylwyd arnynt yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd; byddai'r ffactorau hyn yn cael effaith ar y rhaglen gyfalaf, ond
roeddent wedi'u cynnwys yng nghyllideb rheoli'r trysorlys a byddant yn cael eu
rheoli yn unol â hynny.
Cafwyd trafodaeth
ynglŷn â'r arian ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru a'r effaith y
byddai'n ei chael ar brosiectau cyfalaf y cyngor, yn enwedig ysgolion yr 21ain
ganrif, gan y nodwyd na fyddai unrhyw swm o'r arian ar gael ar gyfer prosiectau
cyfalaf. Nodwyd bod Swyddogion wedi cyflwyno'u cynlluniau cychwynnol ar gyfer y
buddsoddiad o £80miliwn drwy fand B; roedd y buddsoddiad cyntaf yn ymwneud ag
Ysgol Gyfun Cefn Saeson, a gyflwynwyd yn ystod y pandemig ac y disgwyliwyd iddi
agor ym mis Mehefin 2021. Hysbyswyd yr aelodau fod rhai o'r prosiectau eraill
yn y rhaglen gyfalaf wedi'u hadlewyrchu'n gynharach a'u bod wedi'u cynnwys yn y
pecyn £80 miliwn; ni ddylai'r ffaith na chafwyd unrhyw gyhoeddiad ychwanegol
gan Lywodraeth y DU gael effaith ar y strategaeth band B, ond gallai gael
effaith ar yr hyn y gallai Llywodraeth Cymru fod eisiau ei wneud, naill ai o
ran ei ymestyn ar gyfer bandiau buddsoddi pellach neu ar gyfer prosiectau
eraill. Daethpwyd i'r casgliad nad oedd swyddogion yn credu y byddai hyn yn
cael effaith ar brosiectau ysgolion yr 21ain ganrif o'r adeg hon.
Yn dilyn y broses
graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.