Cofnodion:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi
ystyriaeth briodol i'r Asesiad Effaith Integredig fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd;
1. Dirprwyo'r materion canlynol i'r
Cyfarwyddwr Corfforaethol yn dilyn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, yr Aelod
Cabinet perthnasol a Chadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol:-
·
Ffïoedd a thaliadau sy'n gymwys ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022
·
Ffïoedd a thaliadau sy'n berthnasol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol
ddilynol ac, ym marn y Cyfarwyddwr Corfforaethol perthnasol, y mae angen
penderfynu arnynt cyn y flwyddyn ariannol am resymau gweithredol.
2. Bod sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb
2020/2021 yn cael ei hargymell i'r cyngor i gymeradwyo sefyllfa a threfniadau
diwygiedig y gyllideb ar gyfer 2020/2021.
3. Penderfynwyd argymell y canlynol i'r
cyngor i'w cymeradwyo:
a) Y sefyllfa gyllidebol ddiwygiedig
ddiweddaraf ar gyfer 2020/2021 a'r trefniadau ar gyfer 2020/2021;
b) Cyllideb Refeniw'r Cyngor 2021/2022.
Ystyried effeithiau'r Asesiad Effaith Integredig a Throsedd ac Anhrefn wrth
benderfynu ar y gyllideb ar gyfer 2021/2022.
c) Cymeradwyo gofynion y Gyllideb
Refeniw Net ar gyfer 2021/2022, a chynlluniau'r gwasanaeth ar gyfer cyflwyno’r
cyllidebau.
ch) Cymeradwyo'r arbedion yn y gyllideb/blaengynllun
ariannol a amlinellir yn Atodiad
4 i'r adroddiad a
ddosbarthwyd.
d) Cyfarwyddo Cyfarwyddwyr
Corfforaethol i weithredu'r arbedion a'r rhaglen wella ar gyfer yr Awdurdod.
4. Penderfynwyd argymell y canlynol i'r
cyngor i'w cymeradwyo:
a)
Dirprwyo ffïoedd a thaliadau ar gyfer swyddogaethau anweithredol i'r
Cyfarwyddwr Corfforaethol priodol yn dilyn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor,
y Dirprwy Arweinydd a Chadeirydd y Pwyllgor Anweithredol perthnasol.
b)
Ffïoedd a thaliadau sy'n gymwys yn 2021/2022
c)
Ffïoedd a thaliadau sy'n berthnasol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol
ddilynol ac, ym marn y Cyfarwyddwr Corfforaethol, y mae angen penderfynu arnynt
cyn y flwyddyn ariannol am resymau gweithredol.
5.
Bod y swm cyfatebol ar gyfer Band D Treth y Cyngor 2021/2021 Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot o £1,660.02, yn cael ei argymell i'r
cyngor i'w gymeradwyo.
Rhesymau dros y Penderfyniadau:
Galluogi'r cyngor i gyflawni ei ofyniad statudol i benderfynu ar gyllideb
ar gyfer 2021/2022.
Sicrhau cefnogaeth i Flaengynllun Ariannol y cyngor a rhoi trefniadau ar
waith ar gyfer talu Ffïoedd a Thaliadau.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y penderfyniadau i'w rhoi ar waith ar unwaith.
Ymgynghoriad:
Cynhaliwyd ymgynghoriad ac ymgysylltu helaeth rhwng 13 Ionawr 2021 a 12
Chwefror 2021 fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Dogfennau ategol: