Cofnodion:
Ystyriodd y cyngor y
gwahanol faterion gweinyddol fel y'u nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
PENDERFYNWYD:
1) Bod y Fframwaith Polisi a
Chyllideb fel y'i cynhwysir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd yn
cael ei gymeradwyo.
2) Bod y trefniadau Gweithredol
ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2021/22 mewn perthynas â maint y Cabinet; penodiad
Aelodau iddo; penodiad Byrddau'r Cabinet; a dyraniad Portffolios y Cabinet fel y'u
cynhwysir yn Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd yn cael eu cymeradwyo;
3) Bod dosraniad y seddi
ymhlith cyfansoddiad y Grwpiau Gwleidyddol ar gyfer gweddill Blwyddyn Ddinesig
2021/22 fel y'i nodir yn Atodiad C i'r adroddiad a ddosbarthwyd
yn cael ei gadarnhau (ond PENDERFYNIR yn unfrydol, yn unol ag Adran 17 o Ddeddf
Llywodraeth Leol a Thai 1989, na ddylai gofynion cydbwysedd gwleidyddol
Adrannau 15 ac 16 fod yn berthnasol i'r Panel Apeliadau, y Pwyllgor Safonau a'r
Is-bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Hapchwarae);
4)
Bod strwythur arfaethedig y pum Pwyllgor Craffu a'u swyddogaethau a
dosraniad cadeiryddion pwyllgorau craffu ymhlith y Grwpiau Gwleidyddol a
gyfansoddwyd a phenodiadau'r aelodau i bob Pwyllgor Craffu yn unol â
dymuniadau'r grwpiau gwleidyddol ynghyd ag ail-benodi'r aelodau cyfetholedig
i'r Pwyllgor Craffu Sgiliau a Diwylliant Addysg fel y'u nodir yn Atodiad C a
Ch yn cael eu cadarnhau ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2021/22
5)
Bod y cynigion mewn perthynas â
threfniadau eraill y Pwyllgor ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2021/22 yn cael eu
cymeradwyo, ynghyd â phenodi Aelodau iddo, fel y'i nodir yn Atodiad D i'r adroddiad a ddosbarthwyd. Cymeradwyo bod Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor
Archwilio yn dod o blith aelodau'r gwrthbleidiau yn y pwyllgor ac y bydd y
Pwyllgor Archwilio'n penderfynu ar hyn, ac mai'r Is-bwyllgor Trwyddedu fydd yn
penderfynu ar Gadeirydd ac Is-gadeirydd yr Is-bwyllgor Trwyddedu.
Bod cylch gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel y'i
cynhwysir yn Atodiad Dd i'r adroddiad a ddosbarthwyd yn cael ei
gymeradwyo.
6)
Bod y bwriad i benodi Aelodau i Grwpiau Aelodau/Swyddogion eraill fel y
nodir yn Atodiad E i'r adroddiad a ddosbarthwyd ar gyfer Blwyddyn
Ddinesig 2021/22 yn cael ei gymeradwyo.
7) Bod y penodiad arfaethedig (ar ôl iddo gael ei
gymeradwyo gan y Cabinet) Aelodau/Swyddogion i Gyd-bwyllgorau, Cyrff Cyhoeddus
Allanol a Chyrff Cyhoeddus Eraill ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2021/22 fel y
nodir yn Atodiad F yn cael ei nodi.
8)
Bod Cylch ac Amserlen y Pwyllgor ar gyfer gweddill Blwyddyn Ddinesig
2021/221 (gan gynnwys Seminarau Aelodau) a nodir yn Atodiad Ff yn cael
eu cymeradwyo.
9) Bod dosbarthiad y Cyflogau Uwch sydd ar gael fel
y'u cynhwysir yn Atodiad G yn cael ei gymeradwyo
10)
Bod y strwythur ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd a nodir yn Atodiad .
yn cael ei gymeradwyo
11)
Bod Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd yn cael awdurdod
dirprwyedig i ddiwygio'r cyfansoddiad i adlewyrchu'r newidiadau a amlygwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
Dogfennau ategol: