Cofnodion:
Rhoddodd
swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor Cynllunio ar y cais hwn (adnewyddu'r 69 o
fflatiau 2 ystafell wely presennol, newid 3 fflat 2 ystafell wely yn 3 fflat 1
ystafell wely newydd ac adeiladu 1 fflat 2 ystafell wely a 54 o fflatiau 1
ystafell wely ychwanegol, gyda lle parcio cysylltiedig ynghyd â gwaith tirlunio
ac isadeiledd
ar dir i'r
Gogledd o Bevin Avenue, Sandfields) fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Roedd
aelodau'r ward lleol yn bresennol i gyflwyno’u sylwadau.
PENDERFYNWYD: |
Cymeradwyo
cais rhif P2020/09924, yn unol ag argymhellion swyddogion, ac yn amodol ar
Adran 106 ac amodau a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, a'r amod
ychwanegol a nodwyd yn y Daflen Ddiwygio. |
Dogfennau ategol: