Cofnodion:
Derbyniwyd trosolwg o gynigion
cyllidebol drafft y Gwasanaethau Corfforaethol ar gyfer 2021/2022, fel y nodir
yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Nodwyd mai cyfanswm y gyllideb
ar gyfer y Gwasanaethau Corfforaethol yn y flwyddyn ariannol gyfredol oedd
£18.4 miliwn, gyda £50,000 yn cael ei nodi fel arbedion ar gyfer 2021/22 a
£30,000 ar gyfer 2022/23. Gofynnodd yr Aelodau a fydd dadansoddiad pellach o
sut y gellid ailgyfeirio arbedion rheoli ychwanegol i wasanaethau rheng flaen.
Cadarnhawyd y bydd blaengynllun ariannol y dyfodol yn cael ei ddiweddaru yn yr
haf ac y bydd yn edrych ar arbedion a chreu incwm yn ddiweddarach yn y flwyddyn
a blynyddoedd ariannol y dyfodol. Ychwanegwyd mai un o brif ganolbwyntiau'r
Gwasanaethau Corfforaethol eleni oedd gweithredu o ran y rheng flaen drwy
gefnogi a thalu grantiau i'r holl fusnesau yn y gymuned, gyda chymorth
cydweithwyr ym maes datblygu economaidd; hyd yma roedd £36 miliwn wedi'i dalu i
fusnesau. Soniodd swyddogion fod y gyllideb o £18.4 miliwn hefyd yn cynnwys y
costau sy'n gysylltiedig ag Aelodau a Gwasanaethau Pwyllgorau wrth hwyluso'r
cyfarfodydd amrywiol gan gynnwys y Pwyllgorau Craffu.
O ran caffael ar gyfer
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, gofynnwyd a oedd disgwyl i'r swyddi
greu arbedion drwy gaffael effeithiol. Dywedodd swyddogion na fyddai hyn yn
creu arbedion ychwanegol yn benodol, ond yn hytrach byddai'n helpu i sicrhau
cydymffurfiaeth a'r gwerth gorau am arian. Nodwyd bod cymorth ychwanegol yn
cael ei geisio i sicrhau bod y contractau cywir yn cael eu rhoi ar waith fel
bod gweithgareddau, megis y gwaith sy'n gysylltiedig â'r contract hamdden
newydd sy'n ymwneud â chreu incwm drwy ddatblygiad Parc Margam, yn cael eu
caffael yn briodol a fydd, o ganlyniad, yn sicrhau bod gan y cyngor y gwerth
gorau am arian o ran contractau.
Gofynnwyd a roddwyd ystyriaeth
i adleoli neu ailhyfforddi staff, o ystyried yr hyblygrwydd a gafwyd o ran
trefniadau gweithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Tynnodd swyddogion sylw at y
ffaith bod polisi recriwtio cyfredol y cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i hyn
ddigwydd; mae'n rhaid ystyried pob swydd ar gyfer unrhyw aelodau o staff a oedd
mewn perygl; dim ond pan roddwyd ystyriaeth lawn i ymgeiswyr a ystyriwyd yn
flaenorol, y gellir hysbysebu swyddi i weithlu mewnol y cyngor. Ychwanegwyd os
nad oedd modd penodi rheolwr bryd hynny, y gallent gwblhau achos busnes i
geisio cymeradwyaeth i hysbysebu'r swydd yn allanol; fodd bynnag, mae polisi
cyfredol y cyngor yn mynnu bod ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i geisio adleoli
staff yn gyntaf.
O ran Cyfathrebu a Marchnata,
soniodd yr Aelodau fod y lefel uchel bresennol o weithgarwch cyfathrebu’n cael ei
gydnabod a'i werthfawrogi, ond gofynnwyd a oedd dadansoddiad ynghylch a oedd
angen y swyddi newydd hyn yn barhaol. Cadarnhaodd swyddogion fod y swyddi
ychwanegol yn gysylltiedig â marchnata digidol ac fe'u crëwyd yn wreiddiol i
gefnogi'r galw eithriadol a gafwyd oherwydd y pandemig. Dywedwyd y byddai
staff, dros yr ychydig fisoedd nesaf, yn edrych ar gynllunio'r dyfodol a sut y
gellid llywio cam adfer y pandemig, a fydd yn cynnwys nodi'r hyn sydd ei angen
ar wasanaethau unigol er mwyn cyflwyno yn y dyfodol; roedd yn debygol y byddai
marchnata digidol yn faes a fydd yn ehangu.
Gofynnodd yr Aelodau a oedd
cyllid allanol wedi'i geisio ar gyfer y swyddi Polisi ac Ymchwil. Esboniwyd,
pan nodwyd cyfleoedd cyllid grant, y byddai staff bob amser yn mynd ar drywydd
hyn i benderfynu a oedd modd darparu'r cyllid; roedd un swydd eisoes yn y tîm
Polisi ac Ymchwil a ariannwyd drwy arian grant. Hysbyswyd y Pwyllgor fod y
swydd benodol hon yn gysylltiedig â chyflwyno'r Ddeddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau a'i bod yn rôl bwysig ar gyfer cyflwyno'r Ddeddf ac olyniaeth y tîm
bach am ei bod yn rôl mor arbenigol.
Tynnodd swyddogion sylw at y
ffaith bod £27,000 hefyd wedi'i roi yn y gyllideb i reoli'r gwaith sy'n cael ei
wneud mewn perthynas â'r agenda tlodi, lle'r oedd y cyngor yn derbyn cymorth
allanol gan gwmni o'r enw Policy and Practice i ddarparu gwybodaeth,
dadansoddiadau a data i alluogi'r darn hwnnw o waith i fynd rhagddo.
Gofynnwyd a ragwelwyd y
byddai'r cynnydd mewn gweithgarwch digidol yn arwain at arbedion eraill.
Dywedodd swyddogion fod y Pwyllgor Personél wedi cymeradwyo creu swydd Prif
Swyddog Digidol newydd yn ddiweddar, heb unrhyw gostau ychwanegol gan iddi gael
ei chreu yn dilyn y newidiadau o ran swydd y Prif Weithredwr Cynorthwyol;
cyfrifoldeb y Prif Swyddog Digidol newydd fydd gweithio gydag Aelodau,
Swyddogion a Phartneriaid i helpu i yrru agenda ddigidol y cyngor yn ei blaen a
chydnabod y bydd hyn yn arwain at newid diwylliannol.
Gofynnwyd i swyddogion gadarnhau a fyddai'r £500,000 i gynyddu cyllideb cymorth
treth y cyngor yn benodol i ddarparu taliadau i dderbynwyr cymwys, ac a oedd
modd adennill unrhyw ran o hyn oddi wrth Lywodraeth Cymru neu'r Adran Gwaith a
Phensiynau (DWP). Cadarnhawyd y byddai'r
cynnydd yng nghyllideb cymorth treth y cyngor yn benodol i ddarparu taliadau i
dderbynwyr cymwys gan ei fod i adlewyrchu'r ffaith bod gan y cyngor nifer
cynyddol o hawliadau eleni (tua 500) ar gost o oddeutu £500,000. Nodwyd bod y
cyngor, o ran y flwyddyn gyfredol, wedi derbyn £306,000 yn ôl ar gyfer dau chwarter
cyntaf y flwyddyn a bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyhoeddiad y byddai’n
sicrhau bod £11 miliwn pellach ar gael ledled Cymru; felly roedd Swyddogion yn
disgwyl y byddai'r holl gostau ychwanegol yr aethpwyd iddynt ar gymorth treth y
cyngor eleni’n cael eu had-dalu drwy'r gronfa caledi. Ychwanegwyd nad oedd
unrhyw arwydd o lefelau ariannu ar gyfer y flwyddyn nesaf, a dyna pam yr oedd
£500,000 wedi'i gynnwys yn y gyllideb sylfaenol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Os
yw'r broses adennill yn helpu i leihau nifer yr hawliadau ar gyfer 2022/23,
bydd yn caniatáu i'r gyllideb hon gael ei lleihau yn y dyfodol.
Yn dilyn y drafodaeth, nodwyd
bod Llywodraeth y DU wedi datgan faint o arian yr oedd wedi'i roi i Lywodraeth
Cymru yng Nghaerdydd ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond nid oedd wedi rhoi unrhyw
arwydd o faint oedd ar gael ar gyfer y pandemig. Roedd hwn yn ffactor a allai
newid y flwyddyn nesaf os yw ymateb a gofyniad yr holl gyfyngiadau a chymorth
meddygol cyfredol yn sylweddol uwch y flwyddyn nesaf na'r hyn a oedd yn y
gyllideb sylfaenol a roddwyd gan Lywodraeth y DU i'w hadrannau yn San Steffan
a'r gweinyddiaethau yng Nghaerdydd, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ychwanegwyd
nad oedd gan Lywodraeth Cymru'r adnoddau ar hyn o bryd i neilltuo’n sylweddol
i'r flwyddyn nesaf, er ei bod wedi addo sicrhau y byddai £1.9miliwn ar gael ar
gyfer y Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) ar gyfer chwarter cyntaf y
flwyddyn nesaf; hyd yma, nid oedd unrhyw ymrwymiadau pellach wedi'u cyhoeddi.
Soniodd swyddogion y byddai'n cymryd amser i'r economi wella o'r pandemig ac
i'r cyngor weld gostyngiad yn nifer yr hawliadau am gymorth treth y cyngor,
felly roedd yn ddoeth cynnwys £500,000 yn y gyllideb sylfaenol; bydd unrhyw
gyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chyllid yn lleihau'r baich ar
sefyllfa bresennol y cyngor.
Hysbyswyd y Pwyllgor o'r
gwahaniaeth rhwng cronfeydd brys a chronfeydd wrth gefn:
·
Cronfa frys – o fewn y gyllideb ar gyfer eleni, roedd
Swyddogion wedi creu cronfa frys i dalu am gostau annisgwyl; gellid ei ailglustnodi
i wahanol wasanaethau yr oedd angen cymorth arnynt ar gyfer y costau annisgwyl.
Nodwyd ei bod yn bwysig gan ei bod yn sicrhau bod gan y cyngor ryw elfen o
gymorth ariannol o fewn y gyllideb sylfaenol.
·
Cronfa wrth gefn – amlygwyd cronfeydd wrth gefn fel
cymorth yn ôl y galw; unwaith y byddai'r arian hwn wedi'i ddefnyddio, ni ellid
ei defnyddio eto.
Gofynnodd yr Aelodau a oedd y
ffigurau o adroddiad diwethaf Rheoli'r Trysorlys, gan gynnwys tanwariant posib,
wedi'u cynnwys yn y gyllideb. Pan gyflwynwyd adroddiad Rheoli'r Trysorlys i'r
Cabinet ar 13 Ionawr 2021, nodwyd ei fod yn dangos gorwariant posib gan fod
cyfraddau llog wedi gostwng tua £250,000 ac amlygodd yr ymdrinnir ag unrhyw
amrywiadau yng nghyllideb flynyddol Rheoli'r Trysorlys drwy gronfa cyfartalu
Rheoli'r Trysorlys; roedd hyn yn enghraifft o sut y defnyddiwyd y gronfa wrth
gefn i helpu i gyfartalu costau rhwng blynyddoedd.
O ran y costau ychwanegol a
gafwyd oherwydd y pandemig, gofynnodd yr Aelodau am fanylion y cynnydd a'r
amcanestyniad ar adennill costau oddi wrth Lywodraeth Cymru a Thrysorlys y DU.
Darparodd swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf am y costau adennill, yn dilyn yr
adroddiad cychwynnol a gyflwynwyd i'r Pwyllgor ar 13 Ionawr 2021. Dywedwyd bod
y Cyngor bellach wedi hawlio £9.1 miliwn o gronfa caledi Llywodraeth Cymru a'i
fod wedi cael ad-daliad o £7.7miliwn; roedd gwerth £22,000 o wariant nad
oeddent wedi'i gefnogi neu a gefnogwyd yn rhannol yn unig. Er enghraifft dim
ond 15% o gostau'r cyfryngau a thua 50% o gostau TG yr oeddent yn eu talu.
Tynnwyd sylw at y ffaith mai'r balans o £1.1miliwn oedd gwerth yr hawliad ym
mis Rhagfyr a gyflwynwyd bythefnos yn ôl, ac roedd Swyddogion yn disgwyl i
gyhoeddiadau ac arian pellach ddod drwodd o'r hawliad hwnnw yn ystod y mis hwn.
Yn ogystal, roedd Swyddogion wedi cyflwyno tri hawliad o golli incwm, sef £8.2
miliwn ar gyfer y cyfnod hyd at ddiwedd mis Rhagfyr, lle'r oedd Llywodraeth
Cymru wedi ad-dalu bron £6.1miliwn; £1.8 miliwn oedd gwerth y cais diwethaf, a
anfonwyd yr wythnos diwethaf ar gyfer y trydydd chwarter, yr oedd Swyddogion yn
disgwyl adborth arno a thaliad yn ddiweddarach y mis hwn.
Gofynnwyd a fydd dadansoddiad
o rai arbedion posib o drefniadau gweithio yn y dyfodol, e.e. llai o
ddibyniaeth ar gael swyddfeydd ffisegol. Cadarnhaodd swyddogion, pan fydd y
cyngor yn mynd drwy broses adfer y pandemig, y bydd staff yn ymchwilio i hyn,
gan nodi pa wasanaethau y gellid eu darparu a sut i wneud y defnydd gorau o
bobl ac asedau ffisegol yn y blynyddoedd i ddod. Hysbyswyd y Pwyllgor y byddai
adroddiadau'n cael eu cyflwyno i'r Aelodau yn y dyfodol, wrth i waith cynllunio
ariannol ddechrau o fis Ebrill ymlaen, er mwyn iddynt ystyried yr holl faterion
hyn.
Yn 2019/20, nodwyd bod cryn
drafodaeth am y Strategaeth Creu Incwm; bu tarfu oherwydd y pandemig, ond
gofynnwyd a oedd y darn hwnnw o waith wedi'i gynnwys yn y gyllideb ar gyfer y
blynyddoedd i ddod. Cadarnhaodd swyddogion fod creu incwm yn dal i gael ei
ddatblygu drwy'r pandemig, er nid ar yr un lefelau ag o'r blaen. Soniwyd y
byddai'r Aelodau'n gyfarwydd â'r adroddiad cynigion cyllidebol drafft
gwreiddiol a gyflwynwyd i'r Pwyllgor ar 13 Ionawr 2021, a oedd yn nodi bod
incwm parcio ceir ac incwm rhent wedi gostwng a bod darpariaethau cyllideb
ychwanegol yn cael eu gwneud i gwmpasu hynny ar gyfer y flwyddyn nesaf, gyda'r
disgwyliadau y byddai'n gwella wrth symud ymlaen i'r ddwy flynedd ariannol
nesaf. Tynnodd y swyddogion sylw at y ffaith bod adnoddau staff hefyd wedi'u
hailgyfeirio, gyda'r Cydlynydd Masnachol yn cael ei ddefnyddio i ymdrin â materion
sy'n ymwneud â'r cyfryngau, gan weithio i sicrhau bod y cyngor yn ymdrin â'r
gwaith sylweddol yr oedd y pandemig wedi'i achosi yn y maes gwasanaeth penodol
hwnnw. Nodwyd bod staff hefyd wedi parhau i weithio ar rai gweithgareddau creu
incwm megis ailddatblygu'r cynnig hamdden ym Mharc Margam; roedd hyn yn symud
i'r cam dylunio ar hyn o bryd ac wrth iddo fynd yn ei flaen, byddai'r Aelodau'n
cael yr wybodaeth ddiweddaraf am hynny.
Tynnodd y Prif Weithredwr sylw
at y ffaith ei fod wedi'i nodi yn yr ymateb i COVID-19 y bu ymdrech tîm enfawr
ar draws yr holl wasanaethau i chwarae rôl i sicrhau bod y gymuned yn cael ei
chefnogi a'i diogelu; roedd y staff wedi bod yn rhan o'r ymdrech rheng flaen
dros y 12 mis diwethaf ac roedd hyn yn debygol o barhau hyd y gellir rhagweld.
Mae rhai enghreifftiau o'r rôl
bwysig y mae gwasanaethau cymorth wedi'i chwarae’n cynnwys:
·
Cyflwyno'r isadeiledd digidol i gefnogi dysgu mewn
ysgolion ar draws y Fwrdeistref Sirol, rhaglen waith sylweddol a oedd yn
parhau;
·
O ran agenda Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd y Tîm
Cyfathrebu wedi bod yn rhan bwysig o ymdrech gyffredinol Iechyd Cyhoeddus Cymru
i gael y cyhoedd i ddeall sut i ddiogelu eu hunain o ran golchi eu dwylo, cadw
pellter cymdeithasol a'r negeseuon pwysig eraill;
·
Ar draws nifer o feysydd gwasanaethau, roeddent yn
chwarae rhan hanfodol wrth geisio cefnogi pobl sy'n wynebu caledi ariannol,
p'un a oeddent yn unigolion neu'n berchnogion busnes.
O ran adferiad, nodwyd y
byddai angen cynnal trafodaethau drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
ynghylch cael cymorth i ddechrau'r broses o gynllunio adferiad; byddai rhan o'r
broses hon yn gofyn am adolygu blaenoriaethau'r cyngor ac edrych yn feirniadol
ar ble y byddai'n well buddsoddi refeniw ac adnoddau cyfalaf. Ychwanegwyd y
byddai Aelodau yn cael cyfle i ystyried llunio'r gyllideb ar gyfer y cyfnod y
tu hwnt i hynny dros y 12 mis nesaf.
Gofynnodd yr Aelodau faint y
mae'n ei gostio i'r cyngor leihau treth y cyngor hanner y cant, a phetai
hynny'n digwydd, pa mor anodd fyddai codi'r arian hynny eto. Esboniwyd mai tua
£77 miliwn oedd swm treth y cyngor a gynhyrchwy ar hyn o bryd, gan olygu bod
pob 1% gyfwerth â £780,000 cyn y byddai cynllun cymorth treth y cyngor yn cael
ei roi ar waith; roedd bron £19miliwn wedi'i gyllidebu ar gyfer y cynllun.
Ychwanegodd swyddogion mai tua £590,000 oedd cyfanswm net y cynnydd ar gyfer
pob 1% o dreth y cyngor ac y byddai pob hanner y cant ychydig yn is na
£300,000; roedd cynllun cymorth treth y cyngor ar waith i helpu'r rheini a oedd
dan yr anfantais ariannol mwyaf a byddai'r cynllun hwn yn dal i fod ar waith y
flwyddyn nesaf. Soniwyd bod dros 17,500 o bobl wedi elwa o'r cynllun hwnnw;
Talwyd treth y cyngor 12,500 o bobl yn llawn ac roedd tua 5,000 o bobl yn
derbyn cyfraniadau tuag at eu treth y cyngor.
Pe bai newidiadau gan
Lywodraeth Cymru a oedd yn effeithio ar gynigion y gyllideb a nodwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd, o bwynt y cyfarfod hyd nes y bydd angen gwneud y
penderfyniad, gofynnodd yr Aelodau pa gyfleoedd y byddent yn eu cael rhwng yr
amser hwnnw i sicrhau bod ganddynt y darlun cliriaf o'r gyllideb gyffredinol.
Amlygodd swyddogion fod disgwyl i Lywodraeth Cymru wneud ei chyhoeddiad
terfynol ar ei chyllideb ariannu ar gyfer y flwyddyn nesaf ar 2 Mawrth 2021 ac
y bydd unrhyw wybodaeth bellach, gan gynnwys manylion y cyhoeddiad hwn, yn cael
ei chynnwys yn yr adroddiad terfynol a oedd yn cael ei baratoi ar gyfer y
Pwyllgor ar gyfer ail wythnos mis Mawrth. Ychwanegwyd bod seminar ar gyfer yr
holl Aelodau wedi'i drefnu ar gyfer 4 Mawrth 2021 lle gallai Aelodau drafod
agweddau ar y gyllideb ymhellach.
Yn dilyn craffu ar fanylion
cyllidebol yr adroddiad, atgoffwyd yr Aelodau y byddai eu sylwadau o'r cyfarfod
hwn yn rhan o'r ymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad ar gyfer cyllideb 2021/22. Gofynnwyd
iddynt gysylltu â Swyddogion os oedd ganddynt unrhyw gynigion eraill ar gyfer
arbedion cyllidebol nad oeddent wedi'u cynnwys yn yr adroddiad amgaeedig, er
mwyn iddynt eu hystyried.
Dogfennau ategol: