Agenda item

Monitro'r Rhaglen

        Quarterly Performance Report

        Integrated Assurance and Approval Plan

        Portfolio Risk Register

        Covid-19 Impact Assessment

        Accounting Officer Review Action Plan

Cofnodion:

Cyflwynodd Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr Swyddfa Rheoli'r Portffolio (CSRhP), drosolwg a diweddariad o'r prosiectau. Yn gryno, mae tri phrosiect wedi'u cymeradwyo ac yn cael eu cyflawni, mae tri phrosiect yn aros am gymeradwyaeth weinidogol, mae un prosiect wedi'i gymeradwyo'n rhanbarthol ac yn aros i gael ei gyflwyno i'w gymeradwyo gan weinidogion ac mae dau brosiect yn cael eu datblygu.

 

Darparwyd amlinelliad i'r aelodau o'r holl brosiectau yn y Fargen Ddinesig a lle ceir buddsoddiad. Dywedwyd wrth yr aelodau fod £241m o'r Fargen Ddinesig, ond ar hyn o bryd mae £4.3m heb ei ddyrannu o hyd. Gall hyn newid yn ôl angen yr achos busnes cyffredinol.

 

Ar hyn o bryd amcangyfrifir mai cyfanswm y buddsoddiad yw £1.157 biliwn. Mae hyn o fewn 10% o'r buddsoddiad gwreiddiol a amcangyfrifwyd yn 2017. Mae gwerth ychwanegol gros a swyddi wedi cynyddu ar yr amcangyfrifon cyfredol o'r rhagamcaniad gwreiddiol.

 

Holodd yr aelodau pryd y mae ffigurau pendant yn debygol o gael eu cyflwyno, o ran gwerth ychwanegol gros a swyddi a grëwyd.  Dywedwyd y byddai adrodd ar y pethau y gellir eu cyflawni go iawn yn ffocws allweddol wrth symud ymlaen, ac mae'r templedi a'r mecanwaith ar gyfer adrodd amdanynt yn cael eu drafftio ar hyn o bryd. Byddai'n ffocws allweddol i'r CSRhP wrth ddarparu adroddiadau chwarterol yn y dyfodol. Bydd yr aelodau'n derbyn y ffigurau yn yr adroddiad chwarterol nesaf a byddant hefyd yn cael eu cynnwys yn yr achos busnes.

 

Dywedodd yr aelodau, yn ogystal â gwybod faint o swyddi a grëwyd, y byddai aelodau hefyd yn hoffi gwybod pa fath o swyddi sy'n cael eu creu. At hynny, byddai angen gwybodaeth am gontractau a gynhelir h.y. a yw cwmnïau lleol yn cael y cyfleoedd angenrheidiol i gymryd rhan yn y datblygiadau.

 

Bydd gan bob un o'r naw prosiect ei gynllun busnes ei hun a bydd monitro fforddiadwyedd yn cael ei gynnal ar gyfer pob prosiect.

 

Rhoddwyd rhywfaint o wybodaeth i'r aelodau am systemau adrodd am lywodraethu a sicrwydd sydd ar waith ar hyn o bryd. Mae proses monitro a gwerthuso yn cael ei datblygu. Mae hyn yn cynnwys Adroddiad Blynyddol. Cafwyd amryw o Adolygiadau Gateway hefyd lle mae achosion busnes yn cael eu herio gan dimau allanol. Erbyn hyn, mae gan y Tîm CSRhP wyth aelod o staff ac maent yn gweithio gyda'i gilydd yn llwyddiannus i sicrhau bod trefniadau ar waith fel y bo'n briodol.

 

Trafododd y CSRhP y Cynllun Sicrwydd a Chymeradwyo Integredig (IAAP) a'r Gofrestr Risg. Ar hyn o bryd mae dwy risg goch wedi'u nodi. Darparwyd manylion ynglŷn â sut mae'r risgiau hyn yn cael eu lliniaru. Mae'r asesiad risg COVID-19 yn parhau i fod yn gymharol sefydlog ers ei gyflwyno diwethaf gerbron y pwyllgor.

 

Holodd yr aelodau am drefniadau caffael a mynegon nhw eu pryder y dylid talu busnesau lleol fel y bo'n briodol heb unrhyw oedi diangen. At hynny, dylid monitro hyn. Cadarnhawyd y gellir ychwanegu hyn at gofrestr risg pob prosiect a dylid rhoi gwybod am liniaru'r risg drwy'r broses hon. Yna gall y CSRhP fonitro hyn.

 

Rhoddwyd diweddariad byr am bob prosiect i'r aelodau.

Mynegwyd pryder ynglŷn â'r Prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer. Nodwyd bod y gofrestr risg yn portreadu'r holl risgiau melyn, ac eto nid yw'r achos busnes wedi cael unrhyw gymeradwyaeth ffurfiol o hyd. Roedd yr aelodau am gael sicrwydd pendant y gellir ei gyflawni. Cadarnhaodd y CSRhP fod yr achos busnes ar gyfer y prosiect wedi bod yn destun adolygiad Gateway a'i fod yn aros am gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar hyn o bryd.

 

Holodd yr aelodau pam nad oedd Sgiliau a Doniau wedi'u datblygu fel blaenoriaeth pan nodwyd yn flaenorol ei bod yn bwysig creu a datblygu sgiliau ar draws y rhanbarth i helpu i gyflawni gofynion y prosiectau eraill. Roedd ymgynghorwyr allanol wedi ymgysylltu'n ddiweddar ag arweinwyr prosiectau i benderfynu pa sgiliau sydd eu hangen ar gyfer pob prosiect. Cadarnhaodd y CSRhP eu bod ar hyn o bryd yn cyfrannu adnoddau i'r prosiect i'w gyflymu. Mae'r CSRhP yn amcangyfrif y bydd y broses gymeradwyo ranbarthol yn gallu dechrau ar y prosiect yn ystod mis Mai 2021.

Dogfennau ategol: