Adeiladu siop fwyd dosbarth A1 (ag arwynebedd llawr gros 1,899 metr sgwâr) gyda mynedfeydd, maes parcio a thirlunio cysylltiedig (llinell goch wedi’i diwygio i wella mynediad a lleiniau gwelededd) ar dir gerllaw CSN Precision Engineering, Heol Mynachlog Nedd SA10 7BR.
Cofnodion:
Rhoddodd
swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor Cynllunio ar y cais hwn (Codi siop fwyd
Dosbarth A1 (Aldi Stores Ltd) (arwynebedd llawr gros 1,899 metr sgwâr) gyda
mynedfa, lle parcio ceir a thirlunio cysylltiedig (llinell goch ddiwygiedig i
hwyluso gwell mynediad a lleiniau gwelededd) ar dir gerllaw CSN Precision
Engineering, Neath Abbey Road, Castell-nedd, SA10 7BR) fel y nodir yn yr
adroddiad cylchredeg.
Roedd
aelodau'r ward leol yn bresennol i roi eu sylwadau, yn ogystal â siaradwr
cofrestredig yn erbyn y cais, a'r ymgeisydd, a arferodd ei hawl i ymateb.
PENDERFYNWYD: |
Cymeradwyo
cais rhif P2019/5304 yn unol ag argymhellion Swyddogion, ac yn amodol ar yr
amodau a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. |
Dogfennau ategol: