Cofnodion:
Anerchodd yr Arweinydd y cyngor ar y sefyllfa
bresennol o ran COVID-19.
Mae cyfradd yr achosion fesul 100,000 o'r
boblogaeth wedi gostwng ymhellach. Ar 14
Ionawr cofnodwyd cyfradd o 363.5 a chofnodwyd cyfradd bositifedd o 20.2%. Ar 24
Ionawr roedd y cyfraddau wedi gostwng i 235.8 a 17.2%, yn eu trefn. Mae'r
lefelau presennol yn cymharu â'r rheini a welwyd adeg y cyfnod atal byr
diwethaf. Ar 27 Ionawr 2021 roedd y ffigurau wedi gostwng ymhellach i 187.7
gyda chyfradd bositifedd o 15.1.
Ar hyn o bryd, mae 3 amrywiolyn newydd sy'n peri
pryder (VOC), sef amrywiolyn Caint, amrywiolyn De Affrica ac amrywiolyn Brasil
yn y DU. Yng Nghymru, nodwyd 10 achos o
amrywiolyn De Affrica. Nodwyd bod yr
holl amrywiolion hyn yn fwy trosglwyddadwy.
Mae tystiolaeth wedi dod i'r amlwg y gallai fod gan amrywiolyn Caint
gyfradd farwolaethau ychydig yn uwch gydag 13 o achosion fesul 1,000 o'i
chymharu â 10 fesul 1,000. Yng Nghymru
roedd 50% o'r achosion a brofwyd yn achosion amrywiolyn Caint. Yn ogystal, mynegwyd pryder y gallai
amrywiolyn Brasil a De Affrica effeithio ar effeithiolrwydd y brechlynnau. O
ganlyniad mae llywodraeth y DU wedi cyflwyno cyfyngiadau teithio.
Er bod nifer yr achosion yn lleihau, mae'r system
iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod dan straen difrifol. O ganlyniad, rhaid i gymunedau beidio â bod
yn hunanfodlon, rhaid cadw at y canllawiau o hyd.
Mae nifer y bobl sy'n cael eu profi'n parhau i fod
cryn dipyn yn is na'r hyn a welwyd cyn gwyliau'r Nadolig. Mae'r rhesymau dros hyn yn aneglur o hyd.
Mae'r gallu i brofi wedi cynyddu ac roedd pryder ynghylch y posibilrwydd nad
oedd pobl yn gwneud cais am brofion. Mae cyfathrebu cyhoeddus wedi cynyddu i
annog pobl i gael eu profi ni waeth pa mor ysgafn yw eu symptomau oherwydd heb
yr wybodaeth hon roedd yn anodd deall sut roedd y clefyd yn cael ei drosglwyddo
mewn cymunedau.
Tynnwyd sylw Llywodraeth Cymru at bryderon ynghylch
y dulliau profi ychwanegol sy'n cael eu cyflwyno mewn prifysgolion a Tata
Steel, er enghraifft. Os nad yw'r rhain
wedi'u hintegreiddio'n llawn yn y trefniadau Profi, Olrhain a Diogelu, roedd
risg y byddai'r system yn cael ei thanseilio.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod brechiadau'n mynd
rhagddynt, a bod 37,236 (ar 26 Ionawr 2021) o frechiadau wedi'u rhoi yn ardal
Bwrdd Iechyd Bae Abertawe. Nododd yr
Aelodau fod angen cadarnhau'r data hwn gan fod oedi yn yr wybodaeth a gafwyd
gan feddygfeydd a oedd yn rhoi'r brechlyn.
Roedd angen rhagor o ddata ar y dadansoddiad o'r grwpiau sy'n cael
brechlynnau i ddangos darlun mwy clir o'r cynnydd a wnaed o ran brechu'r pedwar
grŵp blaenoriaeth uchaf erbyn 14 Chwefror 2021.
Roedd pwysau'n tyfu i ychwanegu poblogaethau eraill
at y rhestrau blaenoriaeth, ond mae Llywodraeth Cymru yn dilyn cyngor y
Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio, ac felly ni fyddai'r grwpiau hyn yn cael
eu hystyried i'w cynnwys ar y rhestr flaenoriaethau tan Gam 2.
Mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio diffiniadau o
bwy sy'n cael brechiadau yn y gweithlu gofal cymdeithasol a allai arwain at
beidio â chynnwys y gweithlu gofal cymdeithasol plant. Hefyd, roedd y cyngor yn dal i aros i
gyflwyno staff cymwys o ysgolion arbennig i gael eu brechu. Cafwyd oedi mewn penderfyniadau polisi o fewn
Llywodraeth Cymru ynghylch pwy fyddai'n cael eu cynnwys er i Lywodraeth Cymru
gyhoeddi y byddent yn cael eu cynnwys rhai wythnosau'n ôl.
Roedd pwysau gwasanaeth yn dal i barhau yn y maes
gofal cymdeithasol i oedolion, gyda nifer o gartrefi gofal mewn perygl. Hefyd, cafwyd cynnydd yn nifer y clystyrau yn
y maes gofal cartref.
Cyhoeddwyd na fyddai Lloegr yn agor ysgolion tan ar
ôl gwyliau hanner tymor neu'n hwyrach oherwydd diffyg data i'w galluogi i wneud
penderfyniad. Rydym yn aros am
gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ar yr ymagwedd i’w rhoi ar waith yng
Nghymru. Roedd 95% o boblogaeth disgyblion
Castell-nedd Port Talbot wedi parhau i ddysgu o bell. Rhoddwyd dyfeisiau un i un i ddisgyblion a
myfyrwyr Cyfnod Allweddol 3 i 5. Hefyd,
rhoddwyd un i bob aelod o staff yr oedd angen dyfais arno i'w alluogi i
ddarparu dysgu o bell.
Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y byddai'r
cymwysterau diwedd blwyddyn yn cael eu dyfarnu’n seiliedig ar raddau asesu
canolfannau. Roedd pryder ynglŷn
â'r broses gan nad oedd lleiafrif sylweddol o ddisgyblion Cyfnod Allweddol 4
wedi bod yn ymwneud â dysgu o bell ac ni ellid peryglu'r sylfaen dystiolaeth y
mae ei hangen ar gyfer asesiadau cywir.
Roedd gwaith yn parhau i ddatrys yr heriau hyn.
Roedd swyddogion gwella ysgolion wedi bod yn
monitro ymgysylltiad disgyblion â dysgu, ac roeddent yn parhau i wneud hyn, a
dangosodd y data diweddaraf, er bod y niferoedd yn cynyddu, fod darlun anghyson
o hyd gyda chanran y disgyblion sy'n ymwneud â dysgu o bell yn amrywio o 45% i
bron 100%. Mae gwaith yn parhau i
gefnogi ysgolion i oresgyn problemau er mwyn sicrhau cyfradd ymgysylltu gyson
uwch.
Roedd trafodaethau'n mynd rhagddynt â Chymdeithas
Cyfarwyddwyr Addysg Cymru a Llywodraeth Cymru i nodi opsiynau ar gyfer dod â
disgyblion yn ôl i ddysgu ar y safle. Ar
hyn o bryd, y cyngor oedd y dylid rhoi blaenoriaeth i'r disgyblion hynny sy'n
teimlo bod dysgu yn y cartref yn fwy cyfyngol a'r rheini ag anghenion dysgu
ychwanegol. Roedd Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried sut byddai ailagor
ysgolion yn cael ei hwyluso.
Maes arall a oedd yn peri pryder oedd brechu staff
mewn ysgolion sy'n darparu gofal personol agos.
Rydym yn aros am eglurhad o ddiffiniad 'gofal personol agos' gan
Lywodraeth Cymru gan fod darlun anghyson ledled Cymru. Roedd nifer o gynghorau
a Byrddau Iechyd wedi dechrau brechu staff mewn ysgolion, a grwpiau staffio eraill
yn seiliedig ar ddehongliadau lleol.
Roedd ysgolion Castell-nedd Port Talbot yn aros am arweiniad gan Fwrdd
Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Roedd hyn yn achosi cryn densiwn a her ddilys i
undebau llafur.
Byddai swyddogion yn dechrau ymdrin â'r ffordd y
byddai adferiad yn cael ei drafod yn ystod y mis nesaf, gyda gwaith manwl yn
dechrau tuag adeg y Pasg, yn amodol ar y cyd-destun cyffredinol.
Diolchodd yr Aelodau i'r Arweinydd am adroddiad mor
gynhwysfawr a chodwyd y cwestiynau canlynol:
·
O ran gwahanol amrywiolion
COVID, beth sy'n cael ei wneud i brofi'r brechlyn er mwyn sicrhau ei fod yn
parhau i weithio ar yr holl amrywiolion newydd?
Esboniwyd bod gwaith yn parhau i ymchwilio i effeithiau'r gwahanol
amrywiolion ond nad oedd unrhyw wybodaeth newydd ar hyn o bryd. Cyfarfu'r Arweinydd a'r Prif Weithredwr yn
rheolaidd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac roeddent yn hapus i godi'r cwestiwn yn y
fforwm hwnnw.
·
A oedd rheswm pam y bu cynnydd
yn y gyfradd farwolaethau neu a oedd hyn oherwydd oedi cyn i'r data gael ei
dderbyn? Roedd y data'n cymharu'r
niferoedd yn erbyn blwyddyn arferol, ac roedd unrhyw un a oedd yn profi'n
bositif am COVID-19 o fewn cyfnod o 28 diwrnod ac a fu farw yn cael ei
ychwanegu at nifer y marwolaethau oherwydd COVID-19.
·
Gofynnodd yr Aelodau a oedd
plant ysgol wedi derbyn dyfais er mwyn gallu dysgu o bell? Cafwyd cadarnhad fod holl blant cyfnod
allweddol 3 a 5 wedi derbyn dyfeisiau.
Bu oedi wrth ddosbarthu'r archebion a wnaed, ond derbyniwyd y
dosbarthiad yr wythnos hon felly byddai pob plentyn ysgol uwchradd yn derbyn
dyfais ar gyfer dysgu un i un.
Neilltuwyd dyfeisiau i blant ysgol gynradd ar sail 1 rhwng 3 neu 5.
·
A oedd unrhyw drafodaethau'n
cael eu cynnal â darparwyr band eang i gynorthwyo gyda phroblemau
cysylltedd? Mewn achosion o broblemau
cysylltedd, esboniwyd bod y disgyblion hynny wedi derbyn MiFi Dongle i'w
galluogi i gysylltu. Gofynnwyd i'r
Aelodau a oeddent yn ymwybodol o unrhyw ddisgybl a oedd yn profi problemau
cysylltedd fel y gellir cynghori rhieni i gysylltu â'u hysgol, ond ni chodwyd
unrhyw broblemau gyda'r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes.
Y Diweddaraf am Lifogydd Sgiwen
Parhaodd yr Arweinydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf
am y sefyllfa bresennol yn Sgiwen yn dilyn y llifogydd diweddar.
Ddydd Iau, 21 Ionawr 2021, derbyniwyd gwybodaeth am
ddigwyddiad llifogydd sylweddol ym Mharc Goshen, Sgiwen. O ganlyniad, rhoddwyd ymateb brys ar
waith. Yn dilyn hynny, datganwyd
digwyddiad mawr gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a
chynullwyd Grŵp Cydgysylltu Strategol.
Cafodd wyth deg o gartrefi eu gwagio ond ar ôl i'r
bygythiad uniongyrchol i fywyd gael ei reoli, sylwyd ar bant dwfn wrth gyffordd
Heol Drummau a Pharc Goshen felly cafodd
30 o dai eraill eu gwagio.
Cadarnhawyd yr achoswyd y llifogydd gan bwysedd
dŵr gormodol mewn siafft yn un o’r hen byllau glo segur yn yr ardal.
O ganlyniad, mae'r Awdurdod Glo yn arwain yr
ymchwiliad i achos y digwyddiad a byddai hefyd yn arwain ar waith adferol ar
gyfer y dyfodol agos i benderfynu ar ateb tymor hwy ar gyfer ymdrin â dŵr
y pwll glo.
Roedd y tîm Strydlun a Draenio wedi gwneud gwaith
eithriadol o ran gosod draeniad dros dro i arwain y dŵr sy'n dal i ollwng
o’r pwynt lle y dihangodd o’r pwll i mewn i system ddraenio. Yn ogystal,
aethant ati i lanhau a chlirio asedau'r briffordd yn yr ardal yr effeithiwyd
arni. Derbyniwyd sylwadau cadarnhaol gan
breswylwyr a phartneriaid am ymateb y cyngor.
Sefydlodd y Gwasanaethau Cymdeithasol ganolfan
orffwys yng Nghwrt Herbert i ymdrin â'r preswylwyr a oedd wedi gorfod gadael eu
cartrefi. Roedd yr holl breswylwyr wedi
llwyddo i sicrhau llety gyda ffrindiau, teulu, cymdogion neu mewn gwestai
lleol. Cefnogwyd staff y Ganolfan
Orffwys gan Fyddin yr Iachawdwriaeth, pobl leol, busnesau a'r Cydlynydd Ardal
Leol i ddosbarthu parseli bwyd a dillad.
Sefydlwyd canolfan wybodaeth i breswylwyr yn Ysgol
Gynradd Abbey gyda thros 60 o drigolion yn ymweld â'r ganolfan dros y
penwythnos. Roedd gwaith yn mynd rhagddo
i ymestyn rôl y ganolfan i gynnwys ystod ehangach o asiantaethau i gynorthwyo
gyda'r broses adfer.
Sefydlwyd llinell gyngor a gwefan bwrpasol i
hwyluso gweithgareddau cyfryngau cymdeithasol a chyfryngau darlledu. Mae Prif Weinidog Cymru wedi ymweld â'r
safle. Derbyniwyd canmoliaeth am y
ffordd yr aed i'r afael â hyn.
Mae’r cyngor yn mynd i arwain ar y broses adfer
gyda grŵp adfer amlasiantaethol yn cael ei gynnull i edrych ar y
blaenoriaethau uniongyrchol.
Nododd yr Aelodau y byddai'r effaith ar breswylwyr,
yn gorfforol ac yn seicolegol, yn parhau am fisoedd lawer. Roedd system ar-lein yn agor i wneud taliadau
i breswylwyr ar ran Llywodraeth Cymru.
Roedd eithriadau treth y cyngor hefyd yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer
yr holl eiddo yr effeithiwyd arnynt.
Roedd cerbydau gwaredu gwastraff yn cael eu
defnyddio ac roedd cyngor iechyd cyhoeddus yn cael ei ddarparu drwy Iechyd yr
Amgylchedd, yn y ganolfan wybodaeth i ddechrau ac yna drwy wasanaeth o ddrws i
ddrws.
Byddai adroddiadau diweddaru’n cael eu rhoi i'r
Aelodau o bryd i'w gilydd.
Canmolodd y cyngor waith staff a phartneriaid
Castell-nedd Port Talbot wrth ymateb i'r argyfwng hwn. Yn ogystal, diolchodd y cyngor i gymunedau,
busnesau a gwirfoddolwyr lleol ac aelodau lleol a oedd wedi cefnogi'r
preswylwyr hynny yr effeithiwyd arnynt.
Trafododd yr Aelodau'r canlyniadau parhaus yr oedd
hen byllau glo’n eu cael ar yr ardal, a Chymru gyfan, a'r costau parhaus o ran
lliniaru'r canlyniadau hynny. Rhoddwyd cadarnhad fod yr Awdurdod Glo yn atebol
i Lywodraeth y DU ac mai Llywodraeth y DU fyddai’n sbarduno unrhyw waith
archwilio ac adfer. Cafwyd trafodaethau
â Llywodraeth Cymru ar ganlyniadau cloddio yn yr ardal ac mae llythyr wedi'i
gyflwyno i Lywodraeth Cymru gan Mr. Stephen Kinnock A.S. yn amlinellu'r
materion.