Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyng. C Clement-Williams, Aelod y
Cabinet dros Gyllid, yr adroddiad a gymeradwywyd i'r cyngor gan y Cabinet yn
ystod ei gyfarfod ar 13 Ionawr 2021.
Diolchodd yr Aelodau i swyddogion am adroddiad
rhagorol a nododd y buddsoddiad enfawr sy'n cael ei wneud gan y cyngor, a
gofynnon nhw sut roedd y gwaith i gyflwyno’r prosiectau amrywiol yn cael ei
fonitro i ganfod effaith pandemig COVID-19.
Dywedodd swyddogion fod y prosiectau'n cael eu monitro'n rheolaidd a'u
bod ar y trywydd iawn, bod hanner yr arian a ddyrannwyd eisoes wedi'i dalu a
bod disgwyl i’r gweddill gael ei wario erbyn diwedd mis Mawrth 2021.
PENDERFYNWYD |
1.
Cymeradwyo cyllideb
2020/2021 sy'n dod i gyfanswm o £70.682miliwn. 2.
Nodi swm y gwariant ar 31
Rhagfyr 2020. |
Dogfennau ategol: