Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyng. C Clement-Williams, Aelod y
Cabinet dros Gyllid yr adroddiad.
Yn dilyn yr uchod, gofynnodd yr Aelodau a oedd
arian wedi'i gynnwys i dalu am unrhyw gynnydd ychwanegol mewn hawliadau i'r
Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ar gyfer 2021/2022, yng ngoleuni pandemig
parhaus COVID-19. Esboniwyd bod y
gyllideb ddrafft ar gyfer ymgynghori'n cynnwys £500,000 yn ychwanegol ar gyfer
2021/2022 a bod Llywodraeth Cymru, mewn perthynas â'r flwyddyn gyfredol, wedi ad-dalu
Castell-nedd Port Talbot ar gyfer y costau uwch a gafwyd hyd yma ac wedi nodi y
byddai'n parhau i wneud hynny am weddill y flwyddyn. Caiff hyn ei adolygu'n barhaus i sicrhau bod
yr holl arian yn cael ei adennill ond yn ogystal, roedd arian wedi'i ddyrannu
yn y gyllideb i gefnogi hyn.
PENDERFYNWYD: |
1.Y byddai Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r
Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, fel y'u diwygiwyd ymhellach
gan Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r
Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn cael eu mabwysiadu. 2.Rhoi cymeradwyaeth i gadw'r elfennau dewisol
presennol mewn perthynas â'r Cynllun Rhagnodedig. (a) Ni fydd unrhyw gynnydd yn y cyfnod ôl-ddyddio ar gyfer pob hawliwr yn
cael ei roi ar waith o'r 3 mis safonol a gynhwysir yn y Cynllun Rhagnodedig. (b) Ni fydd unrhyw gynnydd yn y cyfnod gostyngiad estynedig ar gyfer pob
hawliwr yn cael ei roi ar waith o'r 4 wythnos safonol sydd wedi'u cynnwys yn
y Cynllun Rhagnodedig ar hyn o bryd. (c) Y bydd diystyriad o 100% yn cael ei roi ar waith ar gyfer Pensiynau
Anabledd Rhyfel, Pensiynau Gweddwon Rhyfel a Phensiynau Gŵyr Gweddw
Rhyfel i bob hawliwr. |
Dogfennau ategol: