Agenda item

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 - 2024 - Camau gweithredu i fodloni'r Amcanion Cydraddoldeb

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd D. Jones, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Chydraddoldeb.

 

Roedd yr Aelodau'n hapus gyda'r gwaith yr oedd Swyddogion wedi'i wneud i ddatblygu'r cynllun gweithredu i sicrhau bod y cyngor yn bodloni'r amcanion cydraddoldeb.

 

Yn dilyn hyn, gofynnodd yr Aelodau am y canlynol:

 

·        Yn yr adroddiad mae'n nodi y byddai contractau dim oriau yn cael eu disodli gan gontractau achlysurol neu dros dro.  A allai swyddogion gadarnhau nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn cyflogi staff ar gontractau dim oriau. Cadarnhawyd nad yw'r awdurdod yn cyflogi unrhyw un o'i staff ar gontract dim oriau.

·        Pa gynlluniau oedd ar waith i sicrhau bod yr awdurdod yn rhoi cyfle cyfartal i gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) o ran cyflogaeth?  Esboniwyd bod y cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth BAME gan y cydnabuwyd bod angen gwneud mwy o waith.  Cynhaliwyd trafodaethau â staff a'r Grŵp Cydraddoldeb a Chydlyniant. Ar hyn o bryd, roedd fforwm gweithwyr BAME yn cael ei drefnu i helpu i ddatblygu'r cynllun gweithredu. 

·        Sut mae effaith pandemig COVID-19 wedi'i mesur o ran Cam-drin Domestig?  Mewn ymateb, eglurodd swyddogion y cynhaliwyd asesiad o'r effaith ar y gymuned i fesur effaith y pandemig ar wahanol rannau o gymunedau.  Mae'r asesiad wedi dangos y bu effaith anghymesur ar rai pobl yn fwy nag eraill. Roedd yr asesiad yn cael ei ddiweddaru'n barhaus ac roedd yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i lywio'r blaenoriaethau presennol wrth i ni ymateb i'r pandemig, ac wrth i'r sefyllfa ddatblygu ac wrth i ni gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r pandemig yn effeithio ar gymunedau, byddai'r cynllun gweithredu’n parhau i gael ei ddiweddaru a'i gyflwyno eto i'r aelodau maes o law.

·        A yw'r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu cynrychioli fel grŵp ethnig yn y grwpiau BAME? Hefyd, a oedd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer lletya Sipsiwn a Theithwyr wrth gyrraedd Castell-nedd Port Talbot?  Sicrhawyd yr Aelodau fod amrywiaeth o ffyrdd y mae swyddogion yn ymgysylltu â'r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr a phan oedd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cael ei ddatblygu, roedd swyddogion a oedd â chysylltiadau â'r cymunedau hynny’n rhan o hyn.  Clywodd yr Aelodau nad oedd unrhyw safleoedd tramwy Sipsiwn a Theithwyr yng Nghastell-nedd Port Talbot er bod rhai ar gael gan awdurdodau cyfagos.  Mae gan Gastell-nedd Port Talbot ddau safle awdurdodedig lle'r oedd llety ar gael.  Mae'r ddau safle wedi'u cynnwys yn yr asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gynllunio ar gyfer anghenion yn y dyfodol, cyflwyno'r ddarpariaeth briodol a'i nodi yn y Cynllun Datblygu Lleol a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

1.   Mabwysiadu'r camau gweithredu a ddatblygwyd i gyflawni'r amcanion cydraddoldeb.

 

2.   Y byddai'r Pennaeth Datblygu Dynol a Sefydliadol yn cael ei awdurdodi i gyhoeddi'r camau gweithredu fel rhan o'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: