Cofnodion:
Clywodd y Cyngor fod 100,000 o farwolaethau wedi’u
cofnodi ddoe o ganlyniad i bandemig COVID-19.
Fel arwydd o barch, cafwyd munud o ddistawrwydd yng
nghyfarfod y cyngor.
Estynnodd y Maer gydymdeimlad y cyngor hefyd i bawb
yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd diweddar yn Sgiwen a diolchodd i'r holl
staff ac asiantaethau partner a fu’n ymwneud â'r argyfwng.
Roedd y Maer yn falch o gyhoeddi'r derbynwyr
canlynol a oedd yn Fedalyddion Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn Rhestr
Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2021:
Robert Malcolm Davies, Cwnstabl Arbennig, Heddlu De
Cymru, am wasanaethau gwirfoddol i Blismona yng Nghastell-nedd.
Vicki Broed, Pennaeth Gofal Tymor Hir, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Hywel Dda – am wasanaethau i GIG Cymru yn ystod yr ymateb i COVID-19,
sy'n byw yng Nghastell-nedd.