Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad i'r
Pwyllgor mewn perthynas â'r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau (BES) 2;
roedd yr adroddiad yn nodi cyd-destun ehangach y cynllun a gyflwynwyd o
ganlyniad i'r pandemig.
Esboniwyd bod Llywodraeth
Cymru wedi cynnig newidiadau i'r ffordd y byddai gwasanaethau bysiau'n cael eu
darparu yng Nghymru cyn y pandemig; roedd Bil Gwasanaethau Bysiau i fod i gael
ei gyflwyno yn ystod tymor presennol y Senedd, ond roedd y pwysau sy'n
gysylltiedig â COVID-19 wedi golygu bod llawer o waith cyfreithiol, ynghyd â
phontio Brexit, wedi arwain at oedi'r bil hwnnw. Tynnodd swyddogion sylw at y
ffaith bod cymaint o arian cyhoeddus mewn gwasanaethau bysiau, gan fod
Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol am i'r sector cyhoeddus gael mwy o
ddylanwad dros feysydd fel y rhwydweithiau a'r gwasanaethau bysiau y maent yn
eu darparu, tocynnau ac integreiddio cyffredinol ac ar draws y gwasanaethau
rheilffyrdd.
Hysbyswyd yr Aelodau bod
Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Thrafnidiaeth Cymru, sydd bellach yn
cynnwys bysiau; roeddent wedi darparu llawer o gefnogaeth, yn gyntaf gyda
Chynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau 1 ac yna’r Cynllun Brys ar gyfer y
Sector Bysiau 1.5. Nodwyd bod gan bob cynllun yn ei dro set o feini prawf i'w
dilyn, i'w wneud yn fwy atebol am yr arian cyhoeddus yr oedd yn ei dderbyn i
gefnogi ei sefydliadau gan ei fod yn darparu'r gwasanaethau. Soniodd swyddogion
fod y cynllun newydd yn fwy arwyddocaol na'r cytundeb blaenorol gan ei fod yn
cynnwys llawer mwy o amodau i'r gweithredwyr bysiau.
Nododd yr Asesiad Effaith
Integredig (AEI), a gynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, nad oedd unrhyw
effeithiau ar gymunedau'r cymoedd yn gysylltiedig â chytundeb BES 2; Gofynnodd
yr Aelodau a allai'r swyddogion egluro pam nad oedd y cymoedd yn cael eu
heffeithio. Esboniodd swyddogion fod yr adroddiad penodol hwn yn ymwneud â'r
weinyddiaeth gefndir yn hytrach na'r gwasanaethau ar lawr gwlad, ac felly nid
oedd yn rhywbeth a fyddai'n cael unrhyw effaith ar y cymoedd. Cadarnhaodd
swyddogion, pan gawsant ragor o fanylion am yr adolygiad rhwydwaith o
wasanaethau, y byddent yn adrodd yn ôl i'r Aelodau.
Gofynnwyd i swyddogion egluro
manteision llofnodi cytundeb BES 2 i'r cyngor. Nodwyd y byddai gan y cyngor fwy
o ddylanwad dros weithredwyr y gwasanaethau bysiau ac y gallai wneud
penderfyniadau mewn perthynas â sut y byddent yn gweithredu yn y dyfodol; bydd
yn caniatáu rhwydwaith mwy hollgynhwysol a fydd yn gweithio i'r cyngor,
Trafnidiaeth Cymru a'r cyhoedd. Dywedodd
swyddogion y tynnwyd gwasanaethau bysiau yn ôl yn rheolaidd o wahanol ardaloedd
yn y Fwrdeistref Sirol; bydd y cynllun yn rhoi rhywfaint o reolaeth i'r cyngor
dros y gwasanaeth, gan gynnwys gallu herio penderfyniadau a wneir gan weithredwyr
bysiau. Ychwanegwyd bod y cyngor yn rhoi cymhorthdal i wasanaethau bysiau lleol
ar gyfer cymunedau'r cymoedd a chymunedau gwledig nad oeddent yn hyfyw yn
fasnachol ar hyn o bryd, a chyda'r cytundeb ar waith, y byddai partneriaethau'n
cael eu datblygu er mwyn goresgyn hyn; Roedd swyddogion eisoes yn gweithio
gyda'r ymgynghorwyr a gyflogwyd gan Lywodraeth Cymru ar y rhwydwaith bysiau
strategol, a chynhelir cyfarfod ym mis Chwefror 2021 i nodi sut olwg fyddai ar
y rhwydwaith delfrydol.
Soniodd yr Aelodau fod
dechrau'r pandemig wedi effeithio'n negyddol ar fusnesau a gwasanaethau bysiau,
a gofynnwyd a ellid defnyddio bysiau i helpu i hyrwyddo gwahanol gyrchfannau yn
y Fwrdeistref Sirol, e.e. Marchnad Castell-nedd a Chanolfan Siopa Aberafan, pan
fyddant yn gallu agor eto a hefyd hyrwyddo'r cysyniad bod pobl yn defnyddio'r
bysiau i gyrraedd y cyrchfannau hyn. Esboniwyd bod pob bws yn fasnachol ar hyn
o bryd ac yn hyrwyddo'i wasanaethau ei hunan, ac oherwydd hynny roedd
swyddogion yn ansicr a fyddai'r bysiau'n hyrwyddo'r rhain yn rhad ac am ddim;
fodd bynnag, roedd lle ar gefn y bws y gallai busnesau ei brynu i hysbysebu
beth bynnag a ddewisent, felly gellid ymchwilio i hyn. Ychwanegwyd bod
Llywodraeth Cymru wrthi'n ystyried cynnal gweithgorau ar sut i annog pobl i
ddal bysiau eto; awgrymodd swyddogion y gallent hefyd gyflwyno'r syniad hwn
drwy'r gweithgorau.
Rhoddodd swyddogion yr
wybodaeth ddiweddaraf o'r cyfarfod rhwng Lee Waters (Dirprwy Weinidog) a
Grŵp Aelodau Bysiau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a gynhaliwyd
ar 18 Ionawr 2021:
·
Yn ystod y cyfarfod, nodwyd bod y Dirprwy Weinidog yn
awyddus i fynd i'r afael â'r ffaith bod Llywodraeth Cymru am weithio mewn
partneriaeth ag awdurdodau lleol; roedd yn gyfarfod cyntaf adeiladol, lle'r
oedd Llywodraeth Cymru yn gallu cyflwyno ei barn ynghylch ffyrdd posib ymlaen.
Ychwanegwyd bod y cyfarfodydd hyn yn mynd i barhau bob chwe wythnos.
·
Mynegodd aelodau'r cyfarfod eu barn am yr angen am
ddylanwad yr awdurdod lleol, ac ar yr un pryd roeddent yn cydnabod rolau
allweddol y rhanbarth;
·
Tynnwyd sylw at y ffaith y gallai deddfwriaeth yn y maes
hwn yn y dyfodol fod yn bosibilrwydd o hyd, yn enwedig os na fydd y trefniadau
partneriaeth arfaethedig gyda gweithredwyr o amgylch y BES 2 yn llwyddo;
byddai'r cytundeb yn para tan ddiwedd mis Gorffennaf 2022, a phe na fyddai
canlyniadau'n dod i'r amlwg erbyn hynny, gallai'r Llywodraeth ddeddfu
newidiadau yn y maes;
·
Nodwyd bod amcan hen Ddeddf 1985 yn gwrthdaro â nodau
allweddol integreiddio'r rhwydwaith bysiau â'r rheilffyrdd, ac elfennau
allweddol eraill, megis tocynnau a gwybodaeth;
·
Hysbyswyd y rheini a oedd yn y cyfarfod bod y Llywodraeth
wedi bod yn talu nifer o weithredwyr i gystadlu â'i gilydd ar lwybrau masnachol
drwy Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau Llywodraeth Cymru (BSSG) a'r tocynnau
teithio rhatach, yn enwedig yn yr amgylchedd trefol a chanol trefi; cydnabuwyd
bod y drefn ariannu'n gymhleth, bod nawdd yn dirywio a bod COVID-19 wedi amlygu
rhai diffygion yn y system;
·
Cyfeiriwyd at eithrio cymdeithasol, yn enwedig y ffaith
nad oedd gan 78% o'r bobl a oedd yn defnyddio gwasanaethau bysiau fynediad i
gar;
·
Cydnabu'r Gweinidog mai awdurdodau lleol oedd y man
cychwyn ar gyfer cludiant cyhoeddus a bod ganddynt rôl allweddol wrth lywio
lleoedd, gwrando ar y cymunedau a sicrhau bod y cyrff yn atebol, gan gynnwys
Llywodraeth Cymru, boed yn rhanbarthol neu'n genedlaethol;
·
Esboniwyd mai'r amcan llywodraethu oedd darparu mynediad
i bawb, a soniodd y Grŵp am yr ymateb i'r newid yn yr hinsawdd a'r nod o
greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cynaliadwy;
·
Nodwyd bod gan y pedwar rhanbarth ledled Cymru rôl
allweddol o ran adeiladu ar ei arfer da blaenorol a sicrhau bod Trafnidiaeth
Cymru yn atebol am ddatblygu'r rhwydwaith gwasanaethau bysiau a gynigiwyd;
·
Cydnabuwyd rôl Mentrau Bach a Chanolig yn y rhwydwaith
bysiau a buddsoddiadau yn yr ardaloedd gwledig. Teimlai'r Gweinidog fod angen
daduno’r ddau, ond cynigiodd gyhoeddi dogfen arall i Aelodau ei hadolygu
ynghylch y dimensiwn gwledig a'r rhwydweithiau bysiau;
·
O ran rôl Trafnidiaeth Cymru, cyfeiriodd y Gweinidog at y
systemau tocynnau, cynllunio teithiau a gwybodaeth am y farchnad, yr oedd angen
datblygu pob un ohonynt wrth symud ymlaen fel rhan o'r cytundeb BES 2 hwn;
·
Nodwyd bod y Grŵp wedi trafod y cyllid a'i fod yn
hanfodol i sicrhau y bydd yn gynaliadwy wrth symud ymlaen;
·
Cynigiodd Julie James (y Gweinidog Tai a Llywodraeth
Leol) rywfaint o fewnbwn ynglŷn â'r berthynas rhwng cydbwyllgorau
corfforaethol y dyfodol a sut caiff y cynlluniau hynny eu datblygu yn y
sectorau Cynllunio a Thai a Thrafnidiaeth;
·
Yn y cyfarfod, awgrymodd y Gweinidog y byddai angen i
awdurdodau lleol a'r rhanbarthau benderfynu ble oedd orau i gyflawni, ac nad
oedd unrhyw ffiniau penodol yn hyn o beth. Ychwanegwyd y cynhelir trafodaethau
fel rhanbarth o ran pa swyddogaethau cymharol y gellid eu datganoli i'r
rhanbarth a'u cysylltu â'r cydbwyllgorau corfforaethol;
·
Tynnodd rhai aelodau yn y grŵp sylw at y ffaith nad
oeddent yn cytuno â'r model canolog ac y byddai'n cael ei reoli o Gaerdydd a
chan Drafnidiaeth Cymru, ac y byddai'r rhanbarth ac awdurdodau lleol yn rhan
allweddol o'r model newydd. Roedd aelodau'r grŵp yn ffafrio ateb hybrid yn
hynny o beth;
·
I gloi, nododd y Gweinidog yr adborth gan y pedwar
rhanbarth a'r 22 awdurdod lle'r oedd yr awdurdodau lleol yn eithaf bodlon ar
hyn o bryd wrth gefnogi'r cyfeiriad hwn.
Holodd yr Aelodau a fyddai'r
cynigion yn cael unrhyw effaith ar drefniadau tocynnau teithio consesiynol.
Cadarnhaodd swyddogion na fydd unrhyw newidiadau a fydd yn effeithio ar y
cyhoedd sy'n teithio, ond bydd rhai newidiadau o amgylch y trefniadau
gweinyddu; Caiff swyddogion eu cynnwys mewn trafodaethau, fel rhan o gytundeb
partneriaeth gwirfoddol, mewn perthynas â sut olwg fydd ar y gwasanaeth
gweinyddol hwnnw a pha adnoddau bydd ganddo.
Gofynnwyd i swyddogion a
fyddai'r cynigion yn symud ymlaen tuag at docyn cyfnewidiol rhwng cwmnïau
bysiau. Nodwyd bod Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn awyddus iawn i
gyflawni hyn; roedd yn rhywbeth y gellid ei gyflawni gydag ymyrraeth gan y
Llywodraeth yn unig, ac nid oedd yn rhywbeth y gallai awdurdodau lleol unigol
ei gyflawni gyda'r sector. Roedd swyddogion yn gobeithio y byddai newid yn y
maes hwn gyda chymorth y Llywodraeth.
Mynegodd yr aelodau eu
pryderon ynghylch oedi wrth dendro a gofynnwyd i'r swyddogion a oeddent yn
gwybod ar ba sail y byddai gwasanaethau'n cael eu hail-dendro ar ddiwedd BES 2.
Soniodd swyddogion eu bod wedi derbyn rhybudd gan Lywodraeth Cymru y gallai
unrhyw un a oedd yn rhoi tendrau ar hyn o bryd wynebu cynnydd sylweddol yn y
prisiau oherwydd y byddai'r gweithredwyr yn ceisio adfer ar ôl colli arian
hefyd; felly roedd yn bryder gan y gallai cymorthdaliadau a oedd yn cael eu
talu ar hyn o bryd dreblu. Hysbyswyd yr aelodau bod swyddogion yn edrych ar y
rhwydwaith trafnidiaeth rhanbarthol gyda'r ymgynghorwyr yr oedd Trafnidiaeth
Cymru wedi'u cyflogi i wneud y gwaith hwn; gellid tynnu sylw at y ffactorau hyn
yn y trafodaethau hyn, ac efallai na fydd angen rhoi cymhorthdal o reidrwydd i
rai o'r llwybrau yr oedd y cyngor yn talu cymorthdaliadau ar eu cyfer ar hyn o
bryd. Ychwanegwyd y byddai canllawiau ar hyn yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol.
Gofynnwyd a ellid cynnal
trafodaethau trawsffiniol cynnar gydag awdurdodau lleol eraill o fewn fframwaith
cynllun BES 2, lle mae gwasanaethau'n croesi ffiniau sirol. Mewn perthynas â
gweithio rhanbarthol, cadarnhaodd swyddogion fod Cyngor Castell-nedd Port
Talbot wedi gweithio'n agos gydag Abertawe, Caerfyrddin a Sir Benfro; cynhelir
cyfarfodydd Swyddogion Trafnidiaeth misol gyda'r cysylltiadau hyn. Soniwyd ei
bod yn anodd ymgysylltu â Phowys ar adegau, ac roedd yn peri pryder i
swyddogion pan roedd Powys wedi llwyddo neu fethu i roi cynllun ar waith, a
oedd wedi effeithio'n andwyol ar wasanaethau i rai ardaloedd. Fodd bynnag,
tynnwyd sylw at y ffaith y gellid gwella'r materion hyn wrth symud ymlaen, yn
enwedig trwy sefydlu'r cydbwyllgorau; roedd trafodaethau eisoes yn cael eu
cynnal yn fewnol ynghylch y materion y mae angen mynd i'r afael â hwy.
Sylwodd yr aelodau nad oedd
gan y Grŵp Aelodau Bysiau unrhyw gynrychiolaeth gan ddefnyddwyr bysiau,
felly gofynnwyd pa gyfleoedd oedd gan gynghorwyr lleol i gyfrannu at
drafodaethau'r grŵp hwn er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn yr holl wybodaeth
a bod yr holl anghenion yn cael eu diwallu. Tynnwyd sylw at y ffaith y gallai
aelodau sôn am eu pryderon drwy gysylltu â'r Pennaeth Peirianneg a
Thrafnidiaeth a/neu'r Rheolwr Trafnidiaeth Integredig; y swyddogion a
grybwyllwyd a'r Aelod Cabinet (Dirprwy Arweinydd) oedd cynrychiolwyr y cyngor
ar y Fforwm Trafnidiaeth a byddant yn mynegi unrhyw bryderon yn y cyfarfodydd
hyn er mwyn eu bwydo i mewn i'r broses. Ychwanegwyd y byddai unrhyw bryderon
neu ymholiadau a godwyd yn y cyfarfodydd hyn yn cael eu nodi gan gadeiryddion
rhanbarthol y Fforwm Trafnidiaeth a fyddai'n eu codi ar lefel CLlLC; y budd
ychwanegol i Gyngor Castell-nedd Port Talbot oedd mai'r Dirprwy Arweinydd oedd
llefarydd y Dirprwy Gadeirydd yng nghyfarfodydd CLlLC ar drafnidiaeth hefyd,
felly roedd gan y cyngor gynrychiolaeth dda.
Cafwyd trafodaeth ynglŷn
â chwmnïau bysiau llai lle nodwyd bod Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru
yn arwain yr adolygiad o'r rhwydwaith bysiau a'r BES, a'u bod wedi ymgynghori'n
llawn â'r prif weithredwyr; fodd bynnag, cafwyd rhywfaint o feirniadaeth nad
oeddent wedi siarad â'r gweithredwyr llai. Hysbyswyd yr aelodau y cynhelir
trafodaethau pellach gyda'r cwmnïau hynny.
Nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd y byddai safonau’n cael eu pennu fel rhan o gytundeb BES 2 i
ddarparu ffordd wrthrychol o amddiffyn hawl yr awdurdod lleol i osod contract â
chymorth, lle nad yw'r gwasanaeth a gynigir gan y gweithredwr yn bodloni'r
safon benodedig; Gofynnodd yr aelodau am ragor o wybodaeth am hyn. Mewn
perthynas â'r ymyriadau cyfreithiol lle gellid herio, tynnwyd sylw at y ffaith
bod y BES yn cynnig y byddai trefniadau partneriaeth o safon ar waith ac y
gallai fod trefniadau rhyddfreinio posib gyda'r rhanbarth; at hynny, efallai y
byddai angen ymyrryd pe bai'r gweithredwyr yn gwrthod gwasanaethau am resymau
penodol, er enghraifft peidio â darparu gwasanaeth oherwydd y nawdd. Yn yr
achosion hyn, nodwyd y gallai swyddogion gamu i mewn a chyfarwyddo'r
gweithredwyr i gynnal y gwasanaethau, yn enwedig pe bai'r arian cyhoeddus yn
parhau i gael ei drosglwyddo iddynt.
Hysbyswyd yr aelodau na
allai'r cyngor rhoi cymhorthdal ar hyn o bryd i wasanaeth bws sy’n gweithredu
ar lwybr sydd eisoes yn fasnachol; fodd bynnag, roedd hyn yn cael ei ystyried a
gallai hynny newid yn y dyfodol.
Hysbyswyd y Pwyllgor bod
Trafnidiaeth Cymru eisoes yn treialu cynlluniau yn Sir Benfro a Gogledd Cymru
mewn perthynas â chynnal eu bysiau eu hunain i fwydo i mewn i'r prif
wasanaethau bysiau; fodd bynnag, gallai gwasanaethau fel y sefydliadau cludiant
cymunedol sy'n gweithredu o fewn CBSCNPT gymryd rhan yn hawdd drwy alluogi eu
gwasanaethau i fwydo i mewn i rwydwaith Trafnidiaeth Cymru. Ychwanegwyd yr
adlewyrchwyd y meddylfryd hwn yn Strategaeth Drafnidiaeth newydd Cymru.
Gofynnodd yr aelodau a oedd
potensial wrth symud ymlaen i awdurdodau lleol wasanaethu eu rhwydweithiau
trafnidiaeth eu hunain. Soniwyd y byddai'n ddrud i awdurdodau lleol gynnal eu
gwasanaethau bysiau eu hunain, ond roedd cyfleoedd ar gael a byddai
Trafnidiaeth Cymru yn edrych ar bob cyfle i integreiddio cymaint o drafnidiaeth
â phosib. Ychwanegodd swyddogion y gallai fod newidiadau i weithrediadau
bysiau, ac y gall fod mwy o alw am wasanaethau sy’n ymateb i'r galw a thacsis
mewn cymunedau gwledig; y gobaith oedd cael bws bob awr yn yr ardaloedd gwledig
ac roedd yn rhywbeth yr oedd angen ei drafod ymhellach. Hysbyswyd yr aelodau
bod swyddogion yn awyddus i sicrhau ateb cyfunol i gynnal a gwella gwasanaethau
yng nghymunedau cymoedd y Fwrdeistref Sirol.
Nododd yr adroddiad a ddosbarthwyd fod trefniadau
BES 2 yn ceisio sicrhau bod gweithredwyr yn cael eu cymell i gefnogi adferiad y
rhwydwaith cyfan yn hytrach na nifer cyfyngedig o lwybrau masnachol yn unig;
Gofynnodd yr aelodau a fyddai hynny'n gweithio o ran y darparwyr, ac a fyddai'r
cymunedau'n gweld gwelliant, ac os na fyddant, beth fyddai'n digwydd. Dywedodd
swyddogion y byddai'n heriol, ond roedd swm enfawr o arian yn mynd i
wasanaethau bysiau ledled Cymru; nod cytundeb BES 2 oedd mynd i'r afael â
materion, ac os yw’r gweithredwyr yn methu â gweithio gyda'r awdurdodau lleol a
darparu rhwydwaith sicr ar gyfer y gymuned, efallai y byddai angen i Lywodraeth
Cymru gymryd rhan a deddfu ar y sefyllfa honno. Ychwanegwyd bod angen
gwasanaeth dibynadwy a chyson er mwyn annog y cyhoedd i ddefnyddio'r gwasanaeth
bws a'i wneud yn gynaliadwy. O ran cyllid, roedd Llywodraeth Cymru wedi tynnu
sylw at y ffaith ei bod yn elfen allweddol ac y caiff rhagor o arian ei
fuddsoddi yn y maes hwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf; Roedd swyddogion yn
gobeithio y byddai'r cyngor yn gweld rhai o'r manteision o'r arian ychwanegol.
Wrth gwblhau’r Asesiad Effaith Integredig ar y
cymoedd yn y dyfodol, awgrymwyd y gallai swyddogion nodi ei fod o fudd / yn
well i’r gymuned, yn hytrach na datgan na chafwyd unrhyw effaith.
Gofynnodd yr aelodau faint o ddylanwad fyddai gan y
cyngor i newid llwybrau penodol yn dibynnu ar angen y cyhoedd pe bai'r cynllun
yn ddigon hyblyg, a sut y gallai'r cyngor gosbi gweithredwyr bysiau os na
fyddant yn cydymffurfio â'r hyn y cytunwyd arno. Hysbyswyd y Pwyllgor y byddai
angen cynnal trafodaethau mewn perthynas â manylion y cytundeb pe bai'r
gweithredwyr yn ymrwymo i gytundeb BES 2, gan gynnwys y disgwyliad o ran
cyflawni a safonau. Ychwanegwyd nad oedd gan y cyngor lawer o reolaeth ar hyn o
bryd, felly pan roddodd y gweithredwyr eu gwasanaethau masnachol ar waith, a
phan roeddent yn ystyried nad oedd yn fasnachol, byddent yn tueddu i leihau neu
dynnu'r gwasanaeth yn ôl; gyda BES 2 ar waith, roedd y swyddogion yn gobeithio
y byddai'r cyngor yn cael y math hwn o ddylanwad a rheolaeth.
Gofynnwyd i swyddogion am wybodaeth am yr
Awdurdodau Arweiniol Rhanbarthol a sut y cawsant eu dewis. Nodwyd bod Dinas a
Sir Abertawe wedi gweithredu fel bancwyr rhanbarthol ar gyfer y trefniadau
ariannu ers 2013 ac mai Sir Gâr oedd yn arwain y gwaith gweinyddu; islaw hyn,
roedd yr adrannau trafnidiaeth ar draws y pedwar awdurdod lleol wedi
cydweithio'n agos iawn ac wedi cael cyfarfodydd misol o ran y trefniant y
cytunwyd arno. Hysbyswyd yr aelodau bod y Fforwm Trafnidiaeth Rhanbarthol wedi
trafod y pwnc, gan fod y cynnig wedi'i dderbyn ar fyr rybudd; teimlai'r aelodau
rhanbarthol ei bod yn well parhau i gefnogi'r newid hwn gyda threfniant tebyg,
at ddibenion parhad ac i'r swyddogion presennol dan sylw. Esboniwyd y gofynnwyd
i Ddinas a Sir Abertawe a chadarnhawyd ei bod yn barod i arwain BES 2 ac y
byddai’n dod yn Awdurdod Arweiniol Rhanbarth y De-orllewin; roedd pob un o'r
swyddogion a'r aelodau’n cytuno ar hyn. Ychwanegwyd nad oedd y pedwar tîm wedi
llunio'r cytundeb partneriaeth gwirfoddol a rannwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth
Cymru; bydd y rhanbarthau a'r holl gydweithwyr cyfreithiol yn adolygu'r ddogfen
fesul llinell cyn cofrestru, er mwyn sicrhau bod pawb yn fodlon ac yn
gyfforddus gyda'r trefniadau gweithio. Soniodd y swyddogion fod gan y
Swyddogion Rhanbarthol ac Aelodau'r Cabinet dros Drafnidiaeth berthynas waith
dda.
Yn dilyn y broses graffu,
roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.