Agenda item

Adroddiad Monitro'r Rhaglen Gyfalaf 2020-2021

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd C Clement-Williams, Aelod Cabinet dros Gyllid, yr adroddiad a oedd wedi'i argymell i'r cyngor gan y Cabinet ar 8 Mawrth 2021.

 

Holodd yr Aelodau pam fod yr arian ar gyfer Parc Tirwedd Cwm Cefn Coed wedi'i leihau fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.  Esboniwyd na ellid hawlio'r £1.8 miliwn (Cyllid Ewropeaidd) oherwydd anawsterau technegol ac nad oedd y gwaith wedi'i gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2021. O ganlyniad, cafodd yr £1.8 miliwn ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau eraill.  Ymgorfforwyd yr arian a neilltuwyd gan y cyngor fel rhan o'r gofyniad arian cyfatebol yn arian y Rhaglen Gyfalaf.  Dywedwyd hefyd fod cyfarfod gydag aelodau lleol wedi'i drefnu ar gyfer mis Ebrill i edrych ar opsiynau a chynigion ariannu yn y dyfodol ac os oedd angen unrhyw arian cyfatebol, byddai'n cael ei ystyried o fewn y Rhaglen Gyfalaf.

 

PENDERFYNWYD:

1.   Cymeradwyo cyllideb 2020/2021 sy'n dod i gyfanswm o £65.387m.

 

2.   Nodi mai'r gwariant ar 31 Ionawr 2021 oedd £39.1m.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: