Cofnodion:
Roedd y Maer yn falch o gyhoeddi'r enwebiadau
canlynol ar gyfer y Gwobrau Dewi Sant o Gastell-nedd Port Talbot:
Ethan Hutchings, o Bort Talbot, a achubodd ddyn a
oedd yn boddi o afon yng Nghwmafan, Port Talbot, a oedd wedi ei enwebu am Wobr
Person Ifanc.
Enwebwyd Angharad Paget-Jones, ymgyrchydd dros
hawliau i'r anabl o Bort Talbot am Wobr Ddyngarol.
Hefyd, enwebwyd John Puzey o Bontardawe am Wobr
Dyngarol am ei waith fel ymgyrchydd amlwg dros dai ac fel cyfarwyddwr Shelter
Cymru am fwy na 30 mlynedd nes iddo ymddeol ym mis Hydref 2020.
Llongyfarchodd y cyngor hefyd â phum aelod o Gyngor
Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot a gymerodd ran mewn ffug etholiad, a
gynhaliwyd gan y Senedd fel rhan o wythnos Pleidleisio 16. Enillon nhw 41% o gyfanswm y bleidlais dros
eu plaid "Cymru Gyfartal". Y
pum person ifanc dan sylw oedd Stella Orrin (Ysgol Gatholig a Chanolfan
Chweched Dosbarth Sant Joseph), Isabel Williams (Ysgol Gymunedol Cwmtawe), Lola
Thair (Ysgol Gymunedol Cwmtawe), Bonnie Connor (Cwm Brombil) a Bethan
Nicholas-Thomas (Ysgol Gymunedol Cwmtawe).