Cofnodion:
Trafodwyd ystyr 'ymgysylltu a chynorthwyo', fel y’u
cynhwysir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Nodwyd y gallai hyn olygu sawl peth,
gan gynnwys sicrhau bod cynghorau tref/cymuned a'u clercod yn ymwybodol o sut y
dylent weithredu'r Côd Ymddygiad trwy daflenni, sgyrsiau, hyfforddiant, etc.
PENDERFYNWYD: y byddai Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r
swyddog monitro'n cyflwyno adroddiad pellach i'r Pwyllgor Safonau ynghylch
hyfforddi cynghorau tref/cymuned.
Dogfennau ategol: