Cofnodion:
Nododd yr aelodau y byddai'r ceisiadau am
ollyngiadau sydd dan ystyriaeth yn ystod cyfarfod heddiw ar waith am weddill y
cyngor etholedig hwn tan gyfarfod cyntaf y Pwyllgor Safonau'n dilyn Cyfarfod
Blynyddol y cyngor yn 2022 os cânt eu cymeradwyo.
Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r
swyddog monitro wybod i'r aelodau am ddau ddiwygiad bach i'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Ar dudalen 24 yn yr amserlen Gollyngiad Cyflogaeth
newidiwyd y Cynghorydd M. Crawley i fod y Cynghorydd M. Crowley. Ar
dudalen 26, dylai gollyngiad y Cynghorydd D Jones gyfeirio at y Gymdeithas
Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig a Du, nid Un Llais Cymru.
Ystyriodd aelodau adnewyddiadau a cheisiadau a
dderbyniwyd am ollyngiadau sy'n perthyn i gyflogaeth a
gollyngiadau amrywiol, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
PENDERFYNWYD: (a) y dylid cymeradwyo'r ceisiadau am ollyngiadau
sy'n perthyn i gyflogaeth a nodir ym mharagraff 16 yr adroddiad a ddosbarthwyd
er mwyn i'r aelod a restrir siarad a phleidleisio, a bod y gollyngiad yn
berthnasol yng nghyfarfod y Pwyllgor Safonau sy'n dilyn Cyfarfod Blynyddol y
Cyngor ar gyfer 2022;
(b) y
dylid cymeradwyo'r cais am ollyngiad a nodwyd ym mharagraff 20 dan yr
amgylchiadau a restrir ym mharagraff 21, a bod y gollyngiad yn berthnasol yng
nghyfarfod y Pwyllgor Safonau sy'n dilyn y Cyfarfod Blynyddol ar gyfer 2022.
Dogfennau ategol: