Cofnodion:
Dywedwyd wrth yr Aelodau fod
cyfansoddiad y mwyafrif yn cael ei ragnodi yn ôl y gyfraith. Er bod y Swyddog Monitro wedi diweddaru'r Cyfansoddiad
pan fo deddfwriaeth newydd wedi dod i rym, mae'r
Swyddog Monitro o'r farn y gellid ei ddiweddaru ymhellach a'i symleiddio i
wneud y ddogfen yn addas i'r defnyddiwr ac yn
ddealladwy i aelodau'r cyhoedd sy'n dymuno'i adolygu.
Cyflwynodd Bil Llywodraeth
Leol ac Etholiadau (Cymru) gynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r fframwaith
deddfwriaethol ar gyfer trefniadau etholiadol , democratiaeth, perfformiad
a llywodraethu llywodraeth leol.
Byddai’r Bil arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i'r
cyngor wneud nifer o newidiadau i'w Gyfansoddiad. Mae angen adolygu'r cyfansoddiad.
Roedd yr Aelodau'n awyddus i
sicrhau bod y gweithdrefnau a gynhwysir yn y Cyfansoddiad, fel y'u rhagnodir yn
ôl y gyfraith, yn glir fel y gall Cynghorwyr ddeall goblygiadau'r rhain yn
llawn. At hynny, fod yr angen i gynghorwyr lynu wrth y Côd Ymddygiad mewn perthynas
â'u hymddygiad yn cael ei amlinellu'n glir a bod modd i aelodau ei ddeall yn
hawdd.
Amlinellwyd yn yr adroddiad
raglen weithredu i gynnal yr adolygiad. Byddai'n ofynnol sefydlu Grŵp Tasg
a Gorffen i ddatblygu'r eitem. Byddai ei angen yn unol â strwythur y rhaglen
weithredu a amlinellir.
Cadarnhaodd swyddogion nad
oedd unrhyw ofyniad am gydbwysedd gwleidyddol o fewn y Grŵp Tasg a
Gorffen. Byddai'r Grŵp Tasg a Gorffen yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd, gyda chymeradwyaeth derfynol am unrhyw newidiadau a
argymhellir yn cael ei roi gan y Cyngor Llawn.
Penderfynwyd: Sefydlu grŵp tasg a gorffen i ymgymryd
â'r gwaith arfaethedig a amlinellir yn yr adroddiad er mwyn gallu paratoi
cyngor i'r cyngor;
Cytuno ar aelodaeth y grŵp tasg a gorffen;
Cytuno ar y cynllun prosiect
arfaethedig a amlinellir yn yr adroddiad hwn.
Aelodau'r Grŵp Tasg a Gorffen:
Y Cynghorwyr D Morgan, A Taylor, A Aubrey, S
Miller, J Hurley, S Hunt, E Latham, S Pursey.
Aelodaeth y Grŵp Tasg a Gorffen i'w hehangu i
aelodau'r pwyllgor nad ydynt yn bresennol.
Dogfennau ategol: