·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu
(amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd y Pwyllgor ar yr
eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:
Adroddiad Diweddaru a Monitro
Cyllideb Refeniw 2020-21
Cyflwynwyd Adroddiad Diweddaru
a Monitro Cyllideb Refeniw 2020-21 i'r Pwyllgor a roddodd drosolwg o oblygiadau
ariannol COVID-19 ar Adnoddau Ariannol y Cyngor a Chyllideb 2020/21.
Nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi £424 mil ar gyfer colli incwm i
Leoliadau'r Celfyddydau yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, a
gofynnwyd sut y defnyddiwyd yr arian hwnnw. Nodwyd bod y cyngor wedi cyllidebu
ar gyfer incwm drwy gydol y flwyddyn; roedd y lleoliadau wedi bod ar gau am naw
mis, ac roedd staff yn disgwyl iddynt fod ar gau am dri mis olaf y flwyddyn.
Soniwyd mai'r arian hwn oedd cyfanswm gwerth yr incwm y byddai'r cyngor wedi
bod yn ei gynhyrchu, a oedd yn talu'r costau felly roedd yr holl gostau wedi'u
had-dalu. Ychwanegwyd nad oedd staff Lleoliadau'r Celfyddydau wedi cael eu rhoi
ar ffyrlo, a'u bod wedi'u hadleoli yn lle.
Mewn perthynas â lleoliadau
preswyl i blant sydd mewn perygl, nododd yr adroddiad y bu gorwariant o £385k;
gofynnwyd a oedd y cyngor yn rhagweld y byddai'r angen am fwy o leoliadau
preswyl yn cynyddu ymhellach. Cadarnhaodd swyddogion y bu ychydig dros ddau
leoliad ychwanegol eleni; roedd y gyllideb wedi cynyddu o ddau leoliad gan fod
11 o blant wedi'u lleoli erbyn hyn ac roedd y staff yn disgwyl i'r nifer hwn
aros yn debyg am beth amser. Nodwyd nad oedd y cyngor yn rhagweld angen
ychwanegol am ofal preswyl a fyddai'n uwch na'r 11 a grybwyllwyd, er ei fod yn
anodd asesu hyn. Roedd swyddogion yn rhagweld y byddai mwy o bwysau ar y system
Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG) o ganlyniad i effaith COVID-19; fodd bynnag,
roedd disgwyl y gellid ymdrin â hyn o fewn y systemau gofal maeth, gan y
byddai'r rhan fwyaf o leoliadau gofal ychwanegol mewn gofal maeth ac nid mewn
gofal preswyl.
Amlygodd yr adroddiad fod
cyllid Llywodraeth Cymru ar gael ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis
Mawrth, er mwyn cynyddu'r gyfradd fesul awr a dalwyd (£1 yr awr) i ddarparwyr
gofal cartref a oedd yn profi costau ychwanegol oherwydd y pandemig; gofynnwyd
a oedd y cynnydd mewn cyflog ar gyfer y darparwyr allanol yn unig. Nodwyd bod
Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod gwahanol becynnau o arian ychwanegol ar gael
ar gyfer gofal preswyl a gofal cartref; o ran gofal cartref, roedd y cynnydd o
£1 mewn cyflogau ar gyfer y darparwyr allanol, ond byddai'r cyngor yn cael
ad-daliad o £1 ar gyfer darparwyr allanol a mewnol, felly byddai'r gwasanaethau
mewnol hefyd yn elwa o hyn.
Nodwyd bod gorwariant
Cyfathrebu a Marchnata o £26 mil o ganlyniad i gostau ychwanegol a gafwyd
oherwydd effaith COVID-19, megis arwyddion, baneri; Dim ond 25% o'r costau a
oedd wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru, a soniodd yr Aelodau fod y ganran
hon yn siomedig. Soniodd swyddogion fod Llywodraeth Cymru wedi darparu swm
sylweddol o gymorth ariannol fel y nodwyd yn yr adroddiad, ond mewn rhai
achosion roeddent wedi dweud nad oeddent yn mynd i dalu'r holl gostau gan eu
bod yn credu y dylai rhai o gyllidebau sylfaenol, cynlluniau wrth gefn ac
adnoddau cyffredinol y cyngor gyfrannu at orwariant penodol.
Hysbyswyd yr Aelodau fod gan y
Rheolwyr Gofal Cymunedol danwariant o £78 mil, a oedd yn bennaf oherwydd
gostyngiad yn nifer y taliadau a wnaed i aseswyr allanol ar gyfer asesiadau
Colli Rhyddid (DoLS); gofynnwyd a oedd y rheolau ar gyfer y ceisiadau hyn wedi
newid neu a oedd unigolion wedi'u hepgor yn y cyd-destun hwn, gan fod y
tanwariant yn eithaf arwyddocaol. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd hyn yn wir
a bod COVID-19 wedi effeithio ar nifer yr asesiadau DoLS a gynhaliwyd, a
adlewyrchwyd yn y tanwariant; Cadarnhaodd swyddogion y byddent yn cael gwybod
manylion y rhestr aros ar gyfer yr asesiad hwn ac yn rhoi'r wybodaeth i'r
Aelodau yn unol â hynny.
Yn dilyn y broses graffu,
roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.
Ymgynghoriad ar Gyllideb
Ddrafft 2021/22
Cyflwynwyd Cyllideb Ddrafft ar
gyfer Ymgynghoriad 2021/22 i'r Aelodau a oedd yn cynnwys cynigion cyllideb
ddrafft, arbedion ariannol, gostyngiadau mewn gwasanaethau a chynigion
cynhyrchu incwm; yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, cynigiwyd y byddai'r ymgynghoriad
yn cael ei gynnal yn dilyn y cyfarfod ac yn para hyd at 12 Chwefror 2021.
Tynnodd y Cadeirydd sylw at y
ffaith y byddai'r Pwyllgorau Craffu unigol yn cael cyfle i graffu ar feysydd
o'r gyllideb ddrafft, o fewn eu cylchoedd gwaith, yn fanylach yn eu cyfarfodydd
sydd i ddod.
Dywedwyd bod y cynigion a
gynhwyswyd yn yr adroddiad yn ystyried y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro a
gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn y cyfnod cyn y Nadolig. Soniodd swyddogion
fod yr adroddiad yn cynnig pennu cyllideb o £317m a oedd yn cynnwys defnyddio
£3.1m o gronfeydd wrth gefn, ymgynghori ar gynnydd o 3.75% yn nhreth y cyngor a
chynigion buddsoddi o tua £7.7m ar ben chwyddiant, yn bennaf er mwyn cyflawni'r
cynnydd yn y galw am wasanaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf; bydd angen
gwneud rhagor o waith mewn perthynas â blynyddoedd ariannol yn y dyfodol,
unwaith na fydd COVID-19 yn her mwyach ac ar ôl i Lywodraeth y DU gynnal ei
hadolygiadau o wariant, gan roi lefelau ariannu dangosol i flynyddoedd ariannol
dilynol.
Nodwyd bod setliad dros dro
Castell-nedd Port Talbot yn chweched allan o'r 22 Awdurdod Lleol o ran cyfran
ddiwygiedig o'r gyllideb gan Lywodraeth Cymru, fodd bynnag roedd gan
Gastell-nedd Port Talbot naill ai'r ail neu'r drydedd gyfradd treth y cyngor
uchaf yng Nghymru, gyda chynnydd arfaethedig o 3.75% ar gyfer y flwyddyn
ariannol nesaf; Gofynnodd yr Aelodau sut roedd Llywodraeth Cymru yn cyfiawnhau
hyn. Cadarnhaodd swyddogion fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cynnydd setliad
cyffredinol o 3.8% ledled Cymru; Roedd cynnydd Castell-nedd Port Talbot yn well
na'r cyfartaledd, ar 4.2%. Tynnwyd sylw at y ffaith mai un o brif sbardunau'r
fformiwla, i ddosbarthu'r £4.6 biliwn ar draws pob un o'r 22 Awdurdod Lleol yng
Nghymru, oedd y boblogaeth; roedd poblogaeth Castell-nedd Port Talbot wedi
gwella ychydig o'i chymharu â sefyllfa Cymru gyfan, a oedd yn un o'r newidiadau
mawr a'r rhesymau pam yr oedd rhai Awdurdodau Lleol wedi elwa mwy nag eraill.
Gofynnodd yr Aelodau a ellid
dylanwadu ar Lywodraeth Cymru i newid yr asesiad gwariant safonol fel rhan o'r
setliad terfynol gan nad oedd yn diwallu anghenion rhai cynghorau ar hyn o
bryd. Nodwyd bod hyn yn rhywbeth y gellid ymchwilio iddo ar gyfer y blynyddoedd
i ddod; er mwyn gallu cael dylanwad gwell a chyfleoedd i gael gwell adnoddau.
Soniwyd na fyddai'n fuddiol i unrhyw un geisio gwneud hyn rhwng nawr a'r
setliad terfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.
Gofynnwyd i swyddogion roi
sylwadau ar batrymau'r cronfeydd wrth gefn a adlewyrchwyd yn y ffigurau a
ddarparwyd gan y Cyfarwyddwr Cyllid a'r Gwasanaethau Corfforaethol.
Y Flwyddyn Ariannol |
Cau'r Gronfa wrth Gefn Gyffredinol |
Cronfa wrth Gefn Gyffredinol fel % y Gyllideb |
2018/19 |
£20.9m |
7.4% |
2019/20 |
£19.9m |
6.9% |
2020/21 (rhagolwg) |
£14.6m |
4.8% |
2020/21 (cyllideb ddrafft) |
£12m |
3.8% |
Esboniwyd bod COVID-19 wedi
effeithio ar y rhagolwg gwreiddiol ar gyfer diwedd y flwyddyn ariannol hon
(2020/21); manylwyd ar y rhagolwg newydd yn y tabl uchod. Nododd yr adroddiad
rai o'r mesurau doeth yr oedd y cyngor wedi'u mabwysiadu yn ystod y blynyddoedd
diwethaf, ynghyd â'r cyfraddau casglu treth y cyngor sylweddol a gyflawnwyd;
roedd y cyngor wedi bod yn cyflawni cyfraddau casglu rhwng 97.9% - 98% mewn
blynyddoedd blaenorol, a oedd wedi rhoi hwb i faint o arian a oedd yn cael ei
gadw yn y cronfeydd wrth gefn cyffredinol. Ychwanegwyd bod hyn wedi helpu i
roi'r cyngor mewn gwell sefyllfa eleni i allu cynnig, fel rhan o'r gyllideb
ddrafft, ddefnyddio £3.1m arall ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i alluogi'r
cyngor i fod mewn gwell sefyllfa ariannol ar gyfer 2022/23, pan ystyriwyd
ystyriaethau pellach yn y broses o bennu cyllidebau ynghylch yr hyn a oedd yn
fforddiadwy a blaenoriaethau'r cyngor.
Gofynnwyd a ellid rhannu union
eiriad yr ymgynghoriad, a oedd yn mynd allan i'r cyhoedd fel y gallant ymateb,
gyda'r Aelodau. Cytunodd swyddogion i ddosbarthu'r geiriad i'r Aelodau a
thynnwyd sylw at y ffaith y byddai hefyd yn cael ei lanlwytho i wefan y cyngor.
Rhoddwyd yr wybodaeth ganlynol i'r Aelodau mewn perthynas â nod yr ymgynghoriad,
sef holiadur am broses bennu cyllideb y cyngor ar gyfer holiadur 2021/22, a'r
mathau o faterion yr oedd yn mynd i'w codi:
·
Mae’n cadarnhau bod buddsoddiad gros y cyngor yng
Ngwasanaethau'r Cyngor tua £445m, a bod bwlch o £3.2m er mwyn wynebu cyllideb y
flwyddyn nesaf
·
Cyfeiriadau a dolenni i'r adroddiad a ddosbarthwyd i'r
Pwyllgor (Cyllideb Ddrafft ar gyfer Ymgynghori 2021/22)
·
Mae’n amlygu'r ffaith bod y cyngor yn ymgynghori ar
ddefnyddio £3.1m o gronfeydd wrth gefn cyffredinol, yn cynyddu treth y cyngor
3.75% ac yn defnyddio mesurau cynilo a chynhyrchu incwm a gymeradwywyd eisoes
gan y cyngor y llynedd (135 mil i'w defnyddio)
·
Mae’n rhoi syniad o’r hyn yw cynnydd o 3.75% yn nhreth y
cyngor ac yn gofyn i'r cyhoedd am eu barn am y cynnydd
·
Mae’n esbonio'r cronfeydd wrth gefn cyffredinol ac yn
rhoi enghreifftiau o ystyr cronfeydd wrth gefn cyffredinol a'r defnydd posib
o'r £3.1m
·
Mae’n gofyn am unrhyw awgrymiadau ar ffyrdd y gallai'r
cyngor gynhyrchu incwm neu arbed arian.
·
Mae’n gofyn a oedd unrhyw wasanaethau'r cyngor y mae
unigolion yn credu y dylid eu diogelu, eu lleihau a/neu eu hatal yn gyfan gwbl
·
Mae’n gofyn cwestiynau mewn perthynas â'r £7.7m o
fuddsoddiadau yr oedd y cyngor yn eu gwneud ac a oedd y cyhoedd yn cytuno â hwy
Ychwanegwyd y byddai'r ymgynghoriad
eleni ychydig yn wahanol oherwydd COVID-19; byddai'r cyngor yn annog y cyhoedd
i ymgynghori ac ymateb i'r ymgynghoriad hwn drwy lwyfannau cyfryngau
cymdeithasol a mesurau eraill.
Gofynnwyd a ellid ailystyried
y cynnydd arfaethedig o 3.75% yn nhreth y cyngor ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i
ben, oherwydd yr effaith ariannol sylweddol y mae COVID-19 wedi'i chael ar y
cyhoedd. Dywedwyd bod yr holl Aelodau wedi'u cynnwys yn y broses o bennu'r
gyllideb a'u bod yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y broses hon drwy
hyrwyddo'r ymgynghoriad i'w cymunedau a'u hannog i gymryd rhan, a chyflwyno
gwybodaeth am awgrymiadau a syniadau wrth addasu, newid neu wella'r gyllideb.
Hysbyswyd yr Aelodau bod y
cynnydd arfaethedig o 3.75% yn nhreth y cyngor yn is na'r dreth y cyngor a
osodwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y cyngor yn gwneud ei orau
i werthfawrogi'r busnesau a'r unigolion hynny y mae COVD-19 yn effeithio
arnynt; roedd y cyngor wedi talu £32m hyd yma mewn perthynas â grantiau busnes
ers dechrau'r feirws. Ychwanegwyd nad oedd unrhyw doriadau wedi'u cynnig yn y
gyllideb ac un o'r blaenoriaethau oedd gwella setliadau o fewn adrannau unigol;
dyma'r tro cyntaf i'r cyngor gymryd swm sylweddol o arian allan o gronfeydd
wrth gefn er mwyn gwneud iawn am y setliadau anghyfiawn a oedd wedi bod ar
waith ers peth amser.
Cafwyd trafodaeth mewn
perthynas â'r cronfeydd wrth gefn ac a oedd unrhyw oblygiadau yn seiliedig ar
yr hyn a gynigiwyd. Dywedodd swyddogion mai swm y cronfeydd wrth gefn a
ragwelwyd ar gyfer diwedd eleni oedd £14.6m (4.8%), ac os bydd y cyngor yn cael
ad-daliadau colli incwm ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, gall y sefyllfa honno
wella; gofynnwyd yn ddiweddar i'r cyngor baratoi hawliad incwm a gollir ar gyfer
y chwarter a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr ac roedd arwyddion y gellid gwneud
cais pellach ar gyfer y chwarter nesaf sydd i ddod. Nodwyd y bydd yr archwilwyr
allanol am weld cynlluniau'r cyngor ar gyfer cyllideb gynaliadwy yn y dyfodol o
2022/23; nid oedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei hadolygiad o wariant ar
gyfer lefelau ariannu y tu hwnt i 2022, y gobaith yw y byddai'r wybodaeth honno
ar gael ar ddiwedd yr haf/ddechrau'r hydref a bydd gwaith yn cael ei wneud gan
swyddogion a'r Cabinet dros yr haf i geisio datblygu strategaethau i gael
cyllidebau gytbwys o 2022/23 ymlaen. Ychwanegodd swyddogion nad oeddent yn
disgwyl unrhyw heriau gan archwilwyr yn seiliedig ar y cynigion yr oedd y
cyngor yn eu cyflwyno i'r Cabinet a'r cyhoedd, fel rhan o'r broses ymgynghori.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod archwilwyr allanol ac eraill wedi datgan o'r blaen
fod unrhyw gyfradd o tua 3-5% yn briodol i gynghorau ei chael, a bod y gyfradd
o tua 3.8% a ragwelwyd erbyn diwedd y flwyddyn nesaf yn golygu bod Cyngor
Castell-nedd Port Talbot o fewn y lefel briodol honno; fodd bynnag, roedd angen
gwneud gwaith ychwanegol yn ddi-oed ar gyfer 2022/23 gan na allai'r cyngor
barhau i gymryd £3.1m o gronfeydd wrth gefn o flwyddyn i flwyddyn.
Diolchodd y Pwyllgor i holl
staff y Gwasanaethau Cyllid am eu gwaith drwy gydol pandemig COVID-19.
Yn dilyn y broses
graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet