Cofnodion:
Penderfyniadau:
1.
Bod awdurdod dirprwyedig yn
cael ei roi i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion i ddarparu Rhaglen Gymorth
Grant Cyfleusterau i'r Anabl i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn
unol â'r trefniadau a nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
2.
Bod awdurdod dirprwyedig yn
cael ei roi i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion mewn ymgynghoriad â Phennaeth
y Gwasanaethau Cyfreithiol i gytuno ar delerau cytundeb cydweithio rhwng Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Bwrdeistref Sirol
Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer darparu Rhaglen Gymorth Grant Cyfleusterau i'r
Anabl.
Rheswm
dros y penderfyniad:
Galluogi'r cyngor i
ymrwymo i gytundeb gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPBO) i
ddarparu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ar ran CBSPBO.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Rhoddir y penderfyniad
ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.