Cofnodion:
Penderfyniadau:
1.
Bod y trosglwyddiadau a'r
symudiadau o ran arian wrth gefn fel y'u nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd,
yn cael eu cymeradwyo.
2.
Bod y materion gweithredol ac ariannol
fel y'u nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn cael eu nodi.
3.
Bod y cyngor yn parhau i
weithio gyda Llywodraeth Cymru ac yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau a
chyfarwyddiadau, i ddarparu gwasanaethau yn ystod y cyfnod heriol hwn.
4.
Bod y grantiau ychwanegol a
dderbyniwyd yn cael eu nodi.
5.
Bod y cyngor yn parhau i
geisio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i dalu am effeithiau COVID-19 sef
gwariant cynyddol, colli incwm, cost uwch Cymorth Treth y Cyngor a diffygion
casglu Treth y Cyngor sy'n cael effaith andwyol ar gyllid a gweithgarwch y
cyngor.
Rheswm dros y penderfyniadau:
Galluogi'r cyngor i
fonitro a diweddaru amcanestyniadau'r Gyllideb ar gyfer 2020/21 a rhoi gwybod
i'r Aelodau am y risgiau ariannol sy'n deillio o COVID-19.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei
roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dogfennau ategol: