Agenda item

Ffordd fynediad Brombil a Gelli Tudur, Margam. Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg - Gorchymyn 2020

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Gwrthod y gwrthwynebiad i Orchymyn (Heol Fynediad Brombil a Gelli Tudur, Margam) (Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg) 2020 fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd, a bod y cynllun yn cael ei weithredu ar y safle fel y'i hysbysebwyd.  Hysbysir gwrthwynebwyr o'r penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Atal parcio diwahaniaeth er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad ym mis Tachwedd 2020 a derbyniodd oddeutu 20 eiddo lythyrau a ddosbarthwyd â llaw gyda chynllun.  Ymgynghorwyd hefyd â'r aelod lleol.

 

 

 

Dogfennau ategol: