Cofnodion:
Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiadau o fuddiant
ar ddechrau'r cyfarfod.
Y Cynghorydd A. Wingrave |
Parthed: Ceisiadau amrywiol am gronfa grant gan
ei bod yn aelod o Gyngor Cymuned Blaenhonddan. Roedd o'r farn bod ei buddiant
yn niweidiol a gadawodd y cyfarfod ar ddechrau'r eitem. |
Parthed: Cynllun Prosiectau Bach Cynghorau
Cymuned gan ei bod yn aelod o Gyngor Cymuned Blaenhonddan. Roedd o'r farn bod
ei buddiant yn niweidiol a gadawodd y cyfarfod ar ddechrau'r eitem. |
|
Parthed: Adroddiad Preifat - Cytundeb Arfaethedig
am brydles, prydles tir, trwydded i adeiladu ac opsiwn i brynu tir ac
adeiladau a adwaenir fel yr hen Laethdy oddi ar Cribbs Row, Castell-nedd gan
ei bod yn adnabod perchnogion y busnes dan sylw ac maent wedi rhoi gwobrau i
gystadlaethau ar-lein a drefnwyd gan y Cyng. Wingrave drwy Facebook er budd y
gymuned yn ystod y cyfyngiadau symud. Nid yw'r Cyng. Wingrave wedi derbyn
unrhyw un o'r gwobrau yn bersonol ond roedd o'r farn bod ei diddordeb yn
niweidiol a gadawodd y cyfarfod ar ddechrau'r eitem. |
|
Y Cynghorydd E.V.Latham |
Parthed: Penodi a Diswyddo Cynrychiolwyr
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol gan ei fod yn gadeirydd corff llywodraethu
Ysgol Gynradd Tywyn lle maent yn ystyried ei ail-benodi'n
Llywodraethwr-gynrychiolydd yr ALl. Mae hefyd yn gadeirydd corff llywodraethu
Ysgol Bae Baglan. Roedd y Cyng. Latham o'r farn bod ei fuddiant yn niweidiol
a gadawodd y cyfarfod ar ddechrau'r eitem. |
Y Cynghorydd C
Clement-Williams |
Parthed: Gorchmynion Creu neu Ddiddymu
Arfaethedig ar gyfer y llwybr troed o Heol Hodgson i afon Tawe – Cymuned
Ystalyfera, gan fod ganddi deulu sy'n byw ar Heol Hodgson. Roedd y Cyng. Clement-Williams o'r farn bod
ei buddiant yn niweidiol a gadawodd y cyfarfod ar ddechrau'r eitem. Parthed: Penodi a Diswyddo Cynrychiolwyr
Llywodraethwyr yr Awdurdodau Lleol gan fod ganddi wyrion ac wyresau sy'n
mynychu ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae gan y Cyng. Clement-Williams hawl i
siarad a phleidleisio. |
Y Cynghorydd D Jones |
Parthed: Ceisiadau amrywiol am gronfa grant gan
ei bod yn aelod o Gyngor Cymuned Blaenhonddan. Roedd o'r farn bod ei buddiant
yn niweidiol a gadawodd y cyfarfod ar ddechrau'r eitem. Parthed: Cynllun Prosiectau Bach Cyngor Cymuned
gan ei bod yn aelod o Gyngor Cymuned Blaenhonddan. Roedd o'r farn bod ei buddiant yn niweidiol
a gadawodd y cyfarfod ar ddechrau'r eitem. |