Cofnodion:
Ystyriodd y cyngor y gwahanol faterion gweinyddol
fel y'u nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
PENDERFYNWYD:
a) Cadarnhau'r Cynghorydd
Scott Jones yn Faer ar gyfer gweddill Blwyddyn Ddinesig 2020/21 yn unol ag
Adran 23(1) o Ddeddf
Llywodraeth
Leol 1972
a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020.
b)
Cadarnhau'r Cynghorydd John Warman yn Ddirprwy Faer ar gyfer gweddill
Blwyddyn Ddinesig 20/21 yn unol ag Adran 24(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020.
c)
Ethol y Cynghorydd R G Jones yn Arweinydd y Cyngor ac ethol y Cynghorydd E
V Latham yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor ar gyfer gweddill Blwyddyn Ddinesig
2020/21 yn unol â Rhan 4, Adran 1(1.1) o'r Cyfansoddiad.
d)
Bod
y Trefniadau Gweithredol ar gyfer gweddill Blwyddyn Ddinesig 2020/21 h.y. y
cyfnod tan y Cyfarfod Blynyddol nesaf, mewn perthynas â maint y Cabinet; penodi
Aelodau iddo; penodi Byrddau'r Cabinet; a chlustnodi
Portffolios y Cabinet fel y'u cynhwysir yn Atodiad A 'r
adroddiad a ddosbarthwyd yn cael eu cymeradwyo;
e)
Bod
dosraniad y seddi ymhlith cyfansoddiad y Grwpiau Gwleidyddol ar gyfer gweddill
Blwyddyn Ddinesig 2020/21 fel y'i nodir yn Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd yn cael ei gadarnhau (ond PENDERFYNIR yn
unfrydol, yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, na ddylai
gofynion cydbwysedd gwleidyddol Adrannau 15 ac 16 fod yn berthnasol i'r Panel
Apeliadau, y Pwyllgor Safonau a'r Is-bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Hapchwarae);
f)
Bod strwythur arfaethedig y pum Pwyllgor Craffu a'u swyddogaethau a
dosraniad cadeiryddion pwyllgorau craffu ymhlith y Grwpiau Gwleidyddol a
gyfansoddwyd a phenodiadau'r aelodau i bob Pwyllgor Craffu yn unol â
dymuniadau'r grwpiau gwleidyddol ynghyd ag ail-benodi'r aelodau cyfetholedig
i'r Pwyllgor Craffu Sgiliau a Diwylliant Addysg fel y'u nodir yn Atodiad C
yn cael eu cadarnhau ar gyfer gweddill Blwyddyn Ddinesig 2020/21
g)
Bod y cynigion mewn perthynas â
threfniadau eraill y Pwyllgor ar gyfer gweddill Blwyddyn Ddinesig 2020/21 yn
cael eu cymeradwyo, ynghyd â phenodi Aelodau iddo, fel y'i nodir yn Atodiad D i'r adroddiad a ddosbarthwyd. Cymeradwyo bod Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor
Archwilio yn dod o blith aelodau'r gwrthbleidiau yn y pwyllgor ac y bydd y
Pwyllgor Archwilio'n penderfynu ar hyn, ac mai'r Is-bwyllgor Trwyddedu fydd yn
penderfynu ar Gadeirydd ac Is-gadeirydd yr Is-bwyllgor Trwyddedu.
h)
Nodi'r bwriad i benodi (unwaith ei fod wedi'i gymeradwyo gan y Cabinet)
penodiadau Aelodau/Swyddogion i Gydbwyllgorau, Cyrff Allanol a Chyrff Cyhoeddus
Eraill ar gyfer gweddill Blwyddyn Ddinesig 2020/21 a nodir yn Atodiad E,
gyda'r Cynghorydd A Wingrave i gymryd lle'r Cynghorydd C Clement Williams ar
aelodaeth 'Adfywio CNPT'.
i) Cymeradwyo Cylch ac Amserlen y Pwyllgor ar gyfer
gweddill Blwyddyn Ddinesig 2020/21 (gan gynnwys Seminarau Aelodau) a nodir yn Atodiad
F.
j) Cymeradwyo dosbarthiad y Cyflogau Uwch sydd ar
gael fel y'u cynhwysir yn Atodiad G.
k)
Cymeradwyo cylch gorchwyl ac aelodaeth y Panel Aelodau - Coronafeirws a
nodir yn Atodiad H.
l) Cymeradwyo'r strwythur ar gyfer Gwasanaethau
Democrataidd a nodir yn Atodiad I.
Dogfennau ategol: