DILEU amodau cynllunio 1 (cychwyn)
8, 12, 17, 18, 19, 37, 42, 49, 54, 61 (wedi'u dyblygu gan amodau eraill) 21
(symud i’r adran nodiadau) 24, 32, 36, 44, 45, 46, 53, 59 (yn ymwneud â gwaith
gofynnol sydd eisoes wedi'i gwblhau) 34 a 39 (wedi'u disodli gan ganiatâd
dilynol) 38 (Mae Canolfan Ailgylchu 891 wedi'i hadfer).
AMRYWIO amodau cynllunio 2 (ymestyn
oes weithredol y safle tan 2023, ac yna blwyddyn ar gyfer gwaith adfer) 3, 5,
7, 22, 23, 28, 35, 41, 43, 48, 50, 51, 55, 60 (diweddaru amodau i ganiatáu ar
gyfer cyflwyno cynlluniau/gwybodaeth wedi’i diweddaru) ynghlwm wrth ganiatâd
cynllunio P2002/1016, ar Fferm Pwllfa Watkin, Ffordd Gyswllt Pontardawe i Baran
Road, Pontardawe SA8 4RX.
Cofnodion:
Gwnaed
sylwadau gan swyddogion i'r Pwyllgor Cynllunio ar y cais hwn (DILEU amodau
cynllunio 1 (cychwyn) 8, 12, 17, 18, 19, 37, 42, 49, 54, 61 (wedi'i ddyblygu
gan amodau eraill) 21 (symud i'r adran nodiadau) 24, 32, 36, 44, 45, 46, 53, 59
(yn ymwneud â gwaith gofynnol sydd eisoes wedi'i gwblhau) 34 a 39 (wedi'i
disodli gan ganiatâd dilynol) 38 (mae tomen 891 wedi'i adfer). AMRYWIO amodau
cynllunio 2 (ymestyn oes weithredol y safle tan 2023, ac yna blwyddyn ar gyfer
gwaith adfer) 3, 5, 7, 22, 23, 28, 35, 41, 43, 48, 50, 51, 55, 60 (diweddaru
amodau i ganiatáu ar gyfer cynlluniau/gwybodaeth wedi'u diweddaru a gyflwynwyd)
sydd ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio P2002/1016, yn Fferm Pwllfa Watkin, Ffordd
Gyswllt Pontardawe â Heol y Baran, Pontardawe SA8 4RX) fel y nodir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
Roedd
aelodau'r ward leol yn bresennol i roi eu sylwadau, yn ogystal ag asiant i'r
ymgeisydd, a Swyddog Cynllunio o Gyngor Sir Gâr.
Gohiriwyd y
cyfarfod er mwyn caniatáu i'r Aelodau ystyried eu rheswm dros wrthod ac
ailymgynnull am 12.50pm.
PENDERFYNWYD: |
GWRTHOD y cais, yn groes i argymhellion
Swyddogion, am y rhesymau canlynol: Er Polisi CDLl SP19, a'r
gwagleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd mewn safleoedd tirlenwi yn Rhanbarth De
Cymru, gan roi sylw i Erthygl 13 o Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff
ddiwygiedig yr UE (2008), ystyrir bod gweithrediad y safle wedi cael effaith
andwyol sylweddol ar iechyd a lles cymunedau o amgylch y safle (gan gynnwys y
rhai sydd gryn bellter o'r safle) oherwydd niwsans arogleuon. Yn unol â hynny, ystyrir na ellir parhau â
gweithrediadau tirlenwi ar y safle hwn na'u rheoli i'r graddau gofynnol er
mwyn sicrhau na fydd unrhyw effeithiau andwyol o'r fath yn digwydd yn y
dyfodol. Yn unol â hynny, ystyrir mai'r unig ffordd o atal problemau
arogleuon sy'n deillio o'r safle penodol hwn yw stopio gweithrediadau tirlenwi.
Felly, ystyrir bod y cynnig yn groes i Bolisïau SP2, SP16, EN8 y Cynllun
Datblygu Lleol. |
Dogfennau ategol: