Cofnodion:
Penderfyniad:
Derbyn yr
arian grant a nodir yn yr adroddiad brys a ddosbarthwyd, a chymeradwyo talu
grantiau i fusnesau cymwys ar gyfer 2020/21, fel y nodir yn yr adroddiad brys a
ddosbarthwyd, ac yn unol â'r canllawiau terfynol a dderbyniwyd oddi wrth
Lywodraeth Cymru.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Galluogi'r
Cyngor i wneud taliadau i fusnesau cymwys yn unol â chynllun Llywodraeth Cymru.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar unwaith. Cytunodd Cadeirydd y pwyllgor
craffu i'r camau gweithredu hyn. Ni fyddai unrhyw gyfle i gwestiynu'r
penderfyniad hwn.
Dogfennau ategol: