Cofnodion:
Penderfyniadau:
1.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio i gytuno ar delerau
newydd gyda'r cwmni a nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd, ar gyfer
gwaredu tir yn Iard Burrows fel a ddangosir wedi’i linellu a’i groeslinellu’n
ddu ar y cynllun, fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad preifat a
ddosbarthwyd;
2.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio gyfarwyddo'r cwmni
a nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd, i atgyweirio ac adeiladu uned
fasnachol newydd ar dir a gedwir gan y cyngor fel a ddangosir wedi’i ymylu’n
ddu ar y cynllun, fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad preifat a
ddosbarthwyd;
3.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio, mewn ymgynghoriad
â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, drafod, cwblhau ac ymwneud â
dogfennau’r gwerthiant sy'n angenrheidiol i waredu'r tir ac adeiladu uned
fasnachol newydd, fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd;
4.
Eithrio Rheol 2 y Rheolau Gweithdrefnau Contractau ar gyfer adeiladu uned
fasnachol newydd ar y tir sydd wedi’i ymylu’n ddu ar y cynllun a nodwyd yn Atodiad
1 yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd, a rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth
Eiddo ac Adfywio ymrwymo i gytundeb, fel a nodwyd ynddo.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Galluogi
trosglwyddo tir datblygu i drydydd parti ac adeiladu uned fasnachol ar dir y
cyngor ar safle Iard Burrows.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.