Cofnodion:
Nododd yr
aelodau y byddai'r cynllun gwaith yn cael ei ddosbarthu pan fyddai ar gael.
Penderfyniad:
Eithrio
Rheol 11 o’r Rheolau Gweithdrefnau Contractau, a chymeradwyo derbyn swm o
gyllid, gan y darparwr y manylir arno yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd,
sydd ar gael ar gyfer ail gam y prosiect a gymeradwywyd yn flaenorol, a bod y
gwaith yn cael ei ddyfarnu fel gorchymyn amrywio i'r cwmni a nodir yn yr
adroddiad preifat a ddosbarthwyd, er mwyn hwyluso'r hyn a nodwyd uchod.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Manteisio ar
y cyllid sydd ar gael i leihau'r defnydd o ynni a chostau cynnal a chadw.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.